Print preview Close

Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions Carols, Welsh
Print preview View:

Papurau Hugh Rees, Llanymawddwy

  • NLW ex 2051
  • File
  • 1888-1983

Cyfrolau yn cynnwys carolau Nadolig yn bennaf a gasglwyd ac a gopïwyd, 1901-1936, gan Hugh Rees (1859-1946), Tanygraian, Llanymawddwy, sir Feirionnydd, hen daid Mrs Mary Williams, y rhoddwraig; nodir ei ffynonellau, cyhoeddiadau eglwysig gan mwyaf megis Y Llan a Y Cyfaill Eglwysig; a phenillion gan Nansi Richards, 'Telynores Maldwyn', a gyhoeddwyd yn nhudalen yr ifanc yn Yr Haul, Tachwedd a Rhagfyr 1936; ynghyd â'i gopi o Rhys Prichard, Canwyll y Cymru (Casnewydd, 1888), wedi'u dethol gan Thomas Levi a dderbyniodd yn rhodd yn 1900 a chyfrolau eraill printiedig; a ffotograff ohono, 1919, gyda dau arall ar ben Bwlch-y-groes, Llanymawddwy, a arferai groesi ar ei ffordd i weithio ar gronfa ddŵr Llanwddyn.

Rees, Hugh, 1859-1946

Papurau'r Parch. John Roberts, Llanfwrog

  • GB 0210 JOHROG
  • Fonds
  • 1812-1985 (crynhowyd 1928-1985)

Papurau, 1925-1985, y Parch. John Roberts, Llanfwrog, yn cynnwys llythyrau, yn bennaf at y Parch. a Mrs John Roberts, 1928-1985, y gohebwyr yn cynnwys R. Williams Parry, 1946-1953; cerddi llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig, [1930]-1984; carolau ac emynau, 1962-1968; traethodau, darlithoedd ac anerchiadau crefyddol, 1949-1977, a gyflwynwyd mewn cystadlaethau eisteddfodol; darlithoedd, anerchiadau a nodiadau ar lenyddiaeth Gymraeg a phynciau crefyddol, 1957-1987; pregethau, [1929]-1979; sgriptiau radio ar gyfer gwasanaethau crefyddol, 1943-1978; sgetsys, dramâu byrion a rhaglenni nodwedd, 1964-1979; llyfrau nodiadau, 1932-1978; deunydd yn ymwneud ag R. Williams Parry, 1925-1969; a deunydd hanesyddol yn ymwneud â Chapel Moriah, Caernarfon, 1812-1979, Capel Tegid, Y Bala, 1885-1968, a Chapel y Garth, Porthmadog, 1945-1949. = Papers, 1925-1985, of the Rev. John Roberts, Llanfwrog, including: letters, mostly to Rev. and Mrs John Roberts, 1928-1985, the correspondents including R. Williams Parry, 1946-1953; manuscript, typescript and printed poems, [1930]-1984; carols and hymns, 1962-1968; essays, lectures and religious addresses, 1949-1977, entered for eisteddfod competitions; lectures, addresses and notes on Welsh literature and religious subjects, 1957-1987; sermons, [1929]-1979; radio scripts for religious services, 1943-1978; sketches, short dramas and feature programmes, 1964-1979; notebooks, 1932-1978; material relating to R. Williams Parry, 1925-1969; and historical material relating to Capel Moriah, Caernarfon, 1812-1976, Capel Tegid, Y Bala, 1885-1968, and Capel y Garth, Porthmadog, 1945-1949.

Roberts, John, 1910-1984