Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Jenkins, David, 1912-2002. Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones

Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.

Datblygiad yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

Gohebiaeth a phapurau, 1971, 1973-1974, a 1976; yn ymwneud â datblygiad arfaethedig yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn trafod yn bennaf sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, manylion yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd arfaethedig, a’r ceisiadau i gael adeilad swyddogol yn y Brifysgol; ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; J. Gareth Thomas; Thomas Parry; Goronwy Daniel; T.A. Owen; David Jenkins; J.E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; ac Emrys Wynn Jones.

Rhoddion

Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).