Showing 2 results

Archival description
Jones, W. Llewelyn (William Llewelyn), 1919-
Print preview View:

Llythyr chwaer R. Williams Parry

Llythyr, 2 Ebrill 1958, oddi wrth Mrs H. Reece Pritchard [sef Annie Pritchard, née Parry], Bangor Uchaf, at [y Parch. W. Llewelyn Jones], yn trafod bywyd cynnar ei brawd, y bardd R. Williams Parry. = A letter, 2 April 1958, from Mrs H. Reece Pritchard [i.e. Annie Pritchard, née Parry], Upper Bangor, to [the Rev. W. Llewelyn Jones], discussing the early life of her brother, the poet R. Williams Parry.

Pritchard, H. Reece, Mrs, 1885-1977.

T. Gwynn Jones: gweithiau

Torion o'r Cymro a'r County Leader, 1908, yn cynnwys y nofel 'A fated feud' gan Iwan de Galles (T. Gwynn Jones) a gyhoeddwyd fesul pennod ond a ymddangosodd yn gyntaf yn y Gymraeg fel 'Glyn Hefin' yn Papur Pawb, 1905-1906; llungopïau o bennod 1, 2 a'r olaf o 'Llwybr gwaed ac angau' a gyhoeddwyd yn Yr Herald Cymraeg, 1903; llungopïau o ysgrifau T. Gwynn Jones a gyhoeddwyd yn bennaf yn Y Faner, 1891-1893, ac mewn papurau eraill, 1902-1944 (gyda bylchau); adysgrifau gan F. Wynn Jones o'i gerddi cynnar, 1887-1904; cyfeiriadau at T. Gwynn Jones yn y wasg wedi'u casglu gan F. Wynn Jones; cerddi Saesneg yn llaw T. Gwynn Jones, [1917]-[1943]; rhestr o ganeuon a chyfieithiadau gan T. Gwynn Jones yng nghyhoeddiadau Cwmni Cyhoeddi Gwynn, [1961]; nodiadau gan W. Llewelyn Jones ar gyfer darlith ar T. Gwynn Jones; a nodiadau yn llaw Arthur ap Gwynn yn seiliedig ar atgofion ei dad T. Gwynn Jones yn 1945.

Arthur ap Gwynn, 1902-1987