Showing 1 results

Archival description
Hoffmann, Margarethe
Print preview View:

Llythyrau at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Margarethe Hoffmann = Letters to Robert (Silyn) Roberts from Margarethe Hoffmann

Llythyr, 31 Gorffennaf 1906, at Robert (Silyn) Roberts oddi wrth Margarethe Hoffmann, a oedd yn wreiddiol o Ddenmarc ond a oedd yn ysgrifennu o Gaeredin, yn cyfeirio at ei harhosiad diweddar yng nghartref Silyn a Mary Silyn Roberts ac at eu mab, Glynn Silyn Roberts, a fyddai'n faban ifanc yr adeg hon; hefyd yn nodi cyfeiriad modryb Margarethe Hoffmann yn yr Almaen. = Letter, 31 July 1906, to Robert (Silyn) Roberts from Margarethe Hoffmann, who was originally from Denmark but who was writing from Edinburgh, referencing her recent stay with Silyn and Mary Silyn Roberts and mentioning their son Glynn Silyn Roberts, who would have been an infant at this time; also noting Margarethe Hoffmann's aunt's address in Germany.

Llythyr, 10 Awst 1907, at Robert (Silyn) Roberts tra 'roedd yn Boulogne-sur-Mer, Ffrainc oddi wrth Margarethe Hoffmann a Louise [?Wissteten], Stubbekøbing, Denmarc, yn cyfeirio at Mary Silyn Roberts a'i gwaith yn darlithio mewn ysgol haf yn Nenmarc; cyfeiriad hefyd at Glynn Silyn Roberts, mab bychan Silyna Mary Silyn Roberts. Nodyn gan Luned Meredith, un o roddwyr y casgliad, ar daflen atodol: 'Mae Glynn ychydig dros flwydd oed; mae Mary yn ôl yn darlithio yn Nenmarc ac R[obert] S[ilyn] R[oberts] yn Ffrainc. Siwr fod Glynn yng nghofal ei nain (?). Trefniadau anarferol iawn i'r cyfnod faswn i'n meddwl'. = Letter, 10 August 1907, to Robert (Silyn) Roberts while he was at Boulogne-sur-Mer, France from Margarethe Hoffmann and Louise [?Wissteten], Stubbekøbing, Denmark, relating to Mary Silyn Roberts and her work lecturing at summer school in Denmark; reference also to Glynn Silyn Roberts, infant son of Silyn and Mary Silyn Roberts. Note by Luned Meredith, one of the archive's donors, on accompanying sheet (translated): 'Glynn is a little over a year old; Mary is back lecturing in Denmark and R[obert] S[ilyn] R[oberts] is in France. Glynn is probably in his grandmother's care (?). Very unusual arrangements for the time, I should think.'