- BA/7
- File
- 1973-1974
Part of Papurau Mathonwy Hughes
Deunydd yn ymwneud â Chanmlwyddiant Ysgol Nebo, gan gynnwys llythyr at Mathonwy Hughes oddi wrth A. Meurig Williams, Prifathro'r ysgol, yn ei wahôdd fel un o'r siaradwyr mewn digwyddiad i ddathlu'r canmlwyddiant, ynghyd â llythyr dilynol oddi wrth Williams yn diolch i Mathonwy Hughes am ei ymateb prydlon; hysbyseb o'r digwyddiad yn llaw A. Meurig Williams, sy'n rhestru Mathonwy Hughes fel un o'r siaradwyr; a llythyr at Mathonwy Hughes oddi wrth A. Meurig Williams yn diolch iddo am ei gyfraniad i'r digwyddiad.
Bu Mathonwy Hughes yn ddisgybl yn Ysgol Nebo.
Gweler hefyd eitem XM/7891/56 yn https://diogel.gwynedd.llyw.cymru/DATRhagorol/RhestrEitem.aspx?iaith=en&rhif_archif=12&rhif_rhiant=9240&rhif_tudalen=2.