Dangos 187 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. J. Williams, Abergwaun
Rhagolwg argraffu Gweld:

Tystlythyrau

Tystlythyrau printiedig yn cynnwys un ar gyfer swydd Prifathro Ysgol Lewis Pengam, 1926; 1929 a 1936 ar gyfer swyddi prifathro; llythyr o gymeradwyaeth gan J. T. Job, 1929, ar gyfer swydd Prifathro Ysgol Sir Pwllheli a gan B[en] B[owen] Thomas a T. H. Parry-Williams pan oedd D. J. Williams yn cynnig am swydd gyda'r BBC yn 1936; ynghyd ag enghreifftiau o dystlythyrau unigolion eraill, 1912-1932; a thystlythyr a luniodd D. J. Williams ar gyfer y Parch. Lewis Valentine a oedd yn ymgeisio am swydd fel athro ar staff Coleg Bala-Bangor, [1950x1957].

Jôb, John T. (John Thomas), 1867-1938

Tystysgrifau

Copi, 1907, o dystysgrif geni Siân Williams, 4 Awst 1884, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin; tystysgrif Band of Hope, 1892; tystysgrif ysgoloriaeth, 1896, i Ysgol Sir Port Talbot a thystysgrifau addysgol eraill, 1899-1900.

Y Bod Cenhedlig

Llawysgrif a phroflenni Y Bod Cenhedlig a gyhoeddwyd yn 1963, sef cyfieithiad o A. E. [G. W. Russell], The National Being a gyhoeddwyd yn 1916 gyda rhagymadrodd gan D. J. Williams; llythyrau, 1962, yn ymwneud â'r hawl i drosi'r gwaith i Gymraeg, gan gynnwys llythyr oddi wrth Diarmuid Russell [mab A. E. ]; a nodiadau, 1925, o A. E., Co-operation and Nationality (Dulyn, 1912), a, 1960, o John Eglinton, A Memoir of A. E..

Russell, Diarmuid, d. 1973

Yn Chwech ar Hugain Oed

Drafft llawysgrif, 1958, Yn Chwech ar Hugain Oed a gyhoeddwyd yn 1959; proflenni o benodau 1-2, ynghyd â phroflen o'r atodiad 'Ar hyd a lled y Cantref Mawr' nas cyhoeddwyd; proflenni tudalen a hirion wedi'u cywiro gan D. J. Bowen ac adolygiadau, 1959-1960, gan gynnwys un Dafydd Jenkins a ddarlledwyd ar 'Newydd o'r wasg' ar y BBC, 1959.

Bowen, D. J. (David James), 1925-

Ysgrifau

Yn eu plith mae erthygl 'Ich Dien' a fwriadwyd ei chyhoeddi yn Y Wawr; 'Y ffreshwr' gyda llythyr, 1921, oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards yn amgaeedig yn dychwelyd y gwaith iddo; 'Oer yw'r rhew ac oer yw'r eira', [1954]; 'A Welsh nationalist looks in the mirror' (i'r Drych); erthyglau a wrthodwyd gan y wasg; a llythyr, 1946, a anfonodd at olygydd y Peace News.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970

Ysgrifau ar thema cenedlaethol

Ceir llythyr, 1944, oddi wrth D. J. Williams at Prosser Rhys yn amgau yr ysgrifau y bwriadwyd eu cyhoeddi yn un gyfrol, a llythyr, 1946, oddi wrth J. D. Lewis a'i Feibion yn eu dychwelyd ato wedi iddynt brynu Gwasg Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Prosser Rhys. Yn eu plith ceir 'Teyrnas Dduw' a 'Y Mawr a'r Bach yn y Greadigaeth', Yr Efrydydd, 1924; 'De Valera', Y Darian, Ebrill 1924; 'Ffantasi ar Oronwy Owen' [yn wreiddiol sgript radio 'Beth petasai Goronwy Owen wedi ei wneud yn Esgob?', 1938, a gyhoeddwyd yn Heddiw, Rhagfyr 1938]; 'Beth sy'n bod ar yr Hen Gorff?', Y Faner, Ionawr 1941; 'Sir Gaerfyrddin-ar ddiwrnod garw', Heddiw, Hydref-Tachwedd 1941; a 'Y ddau genedlaetholdeb yng Nghymru', [Y Llenor, 1944].

Ysgrifau wedi'u cyhoeddi

Yn eu plith ceir 'The secondary school in Wales', The Welsh Outlook, 1923 (llawysgrif a theipysgrif); 'Compulsory Welsh for matriculation', The Welsh Outlook, 1925 (drafftiau); 'Marw arwr ifanc (Gair o goffa am Mr H. R. Jones, Trefnydd cyntaf y Blaid Genedlaethol a fu farw'n ddiweddar yn 36 oed)' yn [1930], [Y Ddraig Goch, Awst 1930]; 'Dau ddehonglydd Cymru' [cyhoeddwyd dan y teitl 'Y ddau ddewis' yn W. T. Pennar Davies, Saunders Lewis: ei feddwl a'i waith (Dinbych, 1950)]; ynghyd â theipysgrifau erthyglau a gyhoeddwyd mewn papurau newydd a 'Neges D. J. Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli', [Y Ddraig Goch, Medi 1962].

Canlyniadau 181 i 187 o 187