[Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, 1927 - yr awdl],
- C122.
- Ffeil
- 1927.
42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
[Eisteddfod Genedlaethol Caergybi, 1927 - yr awdl],
Torion papur newydd, 1913-35, yn cynnwys beirniadaethau eisteddfodol,
Bwletinau Cymdeithas Brydeinig Athrawon Esperanto, 1945-47. Teipiedig,
Stori a chyfansoddiadau eraill mewn Esperanto,
Llyfr nodiadau yn cynnwys cerddi gan O. G. Owen, 'Alafon'. Cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Cathlau'r Bore a'r Prynhawn [1912], ynghyd â llythyr oddi wrth y rhoddwr, 21 Chwefror 1928.
Llyfryn yn cynnwys casgliad o salmau ac emynau wedi'u haddasu gan Edwin Rowlands i iaith y Khumi, 30 Medi 1937. Un o gyfeillion bore oes TGJ oedd Edwin Rowlands o Abergele. Aeth yn genhadwr i Burma a phriododd â brodores. Ceir nifer o ffotograffau hefyd o'r brodorion gyda sylwadau manwl ar y cefn.
Torion papur newydd o storïau TGJ gan gynnwys 'O'r Tân i'r Badell Ffrïo' [Papur Pawb, 18 Mai 1907], [Yr Herald Cymraeg, 21 Mai 1907], 'Yr Anfarwol' [Papur Pawb, 19 Hydref 1907] a [Yr Herald Cymraeg, 20 Hydref 1907]. Ceir diwygiadau yn llaw TGJ arnynt. Printiedig.
Amryw gan gynnwys rhestr o lawysgrifau a roed ar fenthyg i W. Ambrose Bebb gan TGJ, Medi 1934 a cherdyn 'National Registration Act, 1915' TGJ.
Grwp bychan atodol o lythyrau a phapurau T. Gwynn Jones,
Gweler Y Cofiant am fanylion pellach ynglyn â'r cysylltiadau Gwyddelig. Ceir nodiadau esboniadol ychwanegol gan Dr P[roinsias] McCana ac Arthur ap Gwynn am natur a chynnwys y llythyrau a'r llawysgrifau.
At Brian O'Higgins, 'Brian na Banban', 1916. Ynddo hawlia TGJ waed Gwyddelig: 'Mae gen i ychydig o waed Gwyddelig, fel y dywedodd fy mam wrthyf i pan oeddwn yn ifanc, am fy nhaid!'.
Y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones,
Yn y rhestr hon disgrifir y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig. Rhifwyd yr eitemau hyn o D 1 i D 406. Ceir disgrifiadau bras o rai grwpiau yn Adroddiad Blynyddol 1947-48, t. 32; Adroddiad Blynyddol 1972-73, tt. 33, 35 a 41; Adroddiad Blynyddol 1973-74, t. 40 ac Adroddiad Blynyddol 1985-86, t. 55. Gweler hefyd Adroddiadau Blynyddol 1942-3, t. 22; 1959-60, t. 31; 1960-61, tt. 31-2; 1961-2, tt. 29-30.
Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones: Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, Cyfres y Meistri 3 (Llandybïe, 1982); W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones, cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1970); David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973);. David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); D. Hywel E. Roberts (gol.), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones (Aberystwyth, 1981). Yn yr olaf y ceir y brif ffynhonnell o gyfeiriadau at weithiau TGJ.