Showing 3783 results

Archival description
file
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Etholiadau,

Llyfr cyfrifon Cangen Plaid Cymru, Abertawe, 1960-1964, a llyfrau nodiadau yn ymwneud â threfniadau etholiadau lleol yn ardal Abertawe, 1967-1972.

Aristoteles: Barddoneg (1978, 2001),

Papurau, 1974-1978, yn ymwneud â chyhoeddi'i gyfieithiad Aristoteles: Barddoneg gyda rhagymadrodd a nodiadau ganddo. Ceir llythyrau oddi wrth Ceri Davies, R. Brinley Jones, Saunders Lewis, Alan Llwyd, Meic Stephens a llythyr oddi wrth Ceri Davies am ailgyhoeddi'r gyfrol yn 2001.

Davies, Ceri.

Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Cath a Llygoden (1994),

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.

Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a gyhoeddwyd yn Cerddi’r Holl Eneidiau yn 1981 ac yn ddiweddarach yn Hog dy fwyell (2007), casgliad o gerddi J. Gwyn Griffiths a olygwyd gan ei fab Heini Gruffudd.

Rhydwen Williams,

Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.

Adolygiadau o lyfrau,

Torion o'i adolygiadau, [1943]-[1987], a gyhoeddwyd mewn papurau fel y South Wales Evening Post, Y Faner, Y Ddraig Goch, Seren Cymru, ynghyd â llawer mewn teipysgrif.

Hermann Hesse,

Drafft o'i gyfrol arfaethedig 'Hermann Hesse : Nofelydd a Bardd', ynghyd â llythyrau oddi wrth y Cyngor Llyfrau a Chyngor Celfyddydau Cymru, 1984, a Dafydd Glyn Jones, 1987, yn gwrthod y gwaith.

Jones, Dafydd Glyn.

Cylch Cadwgan,

Holiadur a luniwyd gan Nia Mai Williams ar gyfer ei thraethawd MA (Bangor, 1994) ar Gylch Cadwgan, ynghyd ag atebion J. Gwyn Griffiths, 1992.

Williams, Nia Mai.

Results 201 to 220 of 3783