Dangos 207 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ymweliadau tramor,

Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.

Yr Eidal,

Papurau, 1948-[1988], yn ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd fel Cymrawd Ymchwil yn Rhufain gan gynnwys adroddiad 'Taith i'r Eidal' ac astudiaeth o dafodieithoedd.

Ysgrifau coffa,

Torion o ysgrifau coffa, 1963-1992, a gyhoeddwyd ym mhapurau newydd Y Cyfnod a'r Corwen Times gan mwyaf, gan gynnwys teyrnged i Maurice James, 1968, ac i Ann Lloyd, ei lysfam, 1986.

Canlyniadau 201 i 207 o 207