Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth T. G[wynn] J[ones], ym Mow Street,

Yn y dyddiau ofnadwy hynny a phopeth yn ymddatod tynerodd ei galon wrth ddarllen llythyr Morris T. Williams. Mae'n diolch i Morris T. Williams a KR am eu haelioni. Ysgrifennodd Prosser Rhys ato yn ei annog i ganu cerdd a fyddai'n gymhares i "Madog". Ni ddaeth y gorfod eto. A welsant y gerdd "Cynddylig" a gyhoeddodd dan y ffugenw "Rhufawn"? Mae yn honno, ac un neu ddwy arall, ragwybod myngus am gynddaredd y peth sydd wrth wraidd y barbareiddiwch presennol. Mae'n cynnwys cerdd "I M.T.W a K.R gan T.G.J." - "Diolch am y rhai sydd yn deall ...". (9 Llinell).

Llythyr oddi wrth Elizabeth Eslick, Lerpwl 12,

Dychwelodd Muriel yn ddiogel [o fod yn blentyn cadw gyda KR a Morris T. Williams]. Mae'n diolch yn fawr iddynt am ofalu amdani mor dda. Er iddi ei cholli, bu'n brofiad da iddi ac enillodd hunanhyder. Eu gwahodd draw pan fyddant yn Lerpwl. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth a) Maggie [Roberts] a b) John [Roberts], yn Bootle, Lerpwl 20,

A) Da clywed bod Morris T. Williams yn well. Ni chawsant noson gynddrwg y noson cynt. Nid oes sôn am symud y plant i ardaloedd diogelach. Clywsant fod bomiau wedi disgyn yn Nantlle a Rachub. Diolch am gynnig lle i Pegi ond y maent am aros gyda'i gilydd yn un teulu. Mae sôn eu bod am gael mwy o awyrennau i'w gwarchod. B) Diolch am y llythyrau a'r menyn da. Bu'n ddrwg o hanner awr wedi saith tan hanner nos neithiwr ond cawsant gyfle i gysgu wedyn. Gwelsant yr awyrennau yn dod yn un haid o gyfeiriad Seaforth. Gwelsant un yn disgyn fel olwyn o dân i'r afon. Ni fu llawer o ddifrod yn Bootle ei hunan ond difrodwyd Lerpwl yn enbyd. Mae'n debyg iddynt weld y tân o Ddinbych. Peth wmbredd o dai a siopau wedi eu difrodi ond yn y dociau roedd y tân mwyaf. Nid oes unrhyw gotwm wedi cyrraedd ers wythnosau. Disgwylient wyth mil o fyrnau - mae'n siwr eu bod yng ngwaelod y môr. Diolch am yr hanes am ei fam. Yn Waterloo a Southport y bu'r bomio mawr nos Fercher. Mae siop Owen Owen wedi cael ei tharo yn Lerpwl ond mae rhyw lun ar fusnes yn parhau yno.

Llythyr oddi wrth Hefina [Jones], merch 'Hyfreithon', yng Nghaergybi,

Ysgrifennu mewn hiraeth am Ddyffryn Clwyd. Mae wedi bod yn gweld meddyg. Awgrymodd y dylid mynd â'i mam at arbenigwr, sef Dr Emyr Wyn Jones ym Mangor. Mae'r meddyg yn ofni y gall y thyroid effeithio ar galon ei mam. Mae salwch nerfol arni hefyd. Mae'r gwaith o ofalu am ei mam yn straen fawr arni hi a'i thad. Mae ei thad yn gwrthwynebu 'War Weapons Week' ac nid yw am gyfrannu. Byddai'n gwerthfawrogi peth o hanes Dinbych. Ni wnaiff fyth anghofio eu cyfeillgarwch - peth a wnaeth byw yn Ninbych yn fraint.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Llanfarian,

Cawsant Nadolig dedwydd iawn: offeren ganol nos yn Aberystwyth, brecwast am 2.30 am, gwely am 4 am, codi am 11 am, cinio am 6 pm a darllen a chwarae backgammon a chwist deirllaw o flaen y tân. Drannoeth buont yn gweld y ffars Charlie's Aunt mewn theatr yn Aberystwyth. Mae'n cyrsio'r byd "fel llysywen ar drywydd y Bardd Cwsc" ac yn llunio ambell bwt o gerdd ddychan. Clywodd trwy'r Tad Malachi Lynch iddi hi a Morris T. Williams fod yn y noson lawen yng Ngarthewin. Nid yw wedi darllen cyfieithiad Walter Dowding o'i stori yng nghyfrol Penguin eto. Ni chaiff fyth flas ar gyfieithiad o ddim a ddarllenodd yn y gwreiddiol.

Llythyr oddi wrth 'Auntie Ellen', yn Y Rhyl,

Diolch yn fawr am lythyr a pharsel gwerthfawr o gofio pris menyn. Mae ei theulu yn Rhosgadfan ar ei meddwl yn aml yn ddiweddar o ystyried y tywydd [eira mawr]. Hyderu y medr John a'r teulu symud o Bootle. Bu'n dawel yno ers dyddiau bellach.

Llythyr oddi wrth Cathrin [Daniel, née Huws], ym Mangor,

Sôn am farwolaeth ei mam - methodd ei chalon yn sydyn a bu farw mewn llawer o boen. Yr oedd yn sioc ofnadwy yn enwedig gan nad oedd yn hen. Gwelir ei heisiau'n fawr - yr oedd yn gwmni gwastadol ac wrth law bob amser ymhob helynt. Diolch am eu cydymdeimlad. Yr oedd gwerthfawrogiad KR ohoni mor gywir.

Llythyr oddi wrth E. Mannan, Llundain SW19,

Gwyddel ydyw nid Sais. Bu ganddo gydymdeimlad â'r mudiad cenedlaethol ond teimla mai lleiafrif sy'n gefnogol yng Nghymru a'r Alban ac nid mwyafrif fel sydd yn Iwerddon. Mae'n cytuno ag Emrys Hughes y llwyddid i gyrraedd y nod pe bai'r Cymry yn llosgi eu capeli gyntaf. Mae'n edrych ymlaen at ddarllen gwaith KR. Synna mai dominion status yn unig a hawlir. Mae ef yn gofyn am annibyniaeth lwyr i Iwerddon ac India. Cerdyn post. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Diolch am anfon llyfr y chwareli. Tybed a wyr R. J. Thomas amdano. Mae ynddo eirfa sy'n bwysig ar gyfer Geiriadur [Prifysgol Cymru]. Bu G. J. Williams a'i wraig yn Aberystwyth am wythnos yn gweithio yn y Llyfrgell. Un prynhawn yn y Llyfrgell roedd Bob Owen a Dyfnallt, Tom Ellis, G. J. Williams a Gwenallt - te parti Cymraeg. Holi os bu Glasynys yn yr Institute yng Nghaernarfon a chael ysgoloriaeth werth pedwar swllt. Rhaid ei fod wedi cael rhywfaint o addysg Ladin.

Llythyr oddi wrth Gwyn Jones, yn Aberystwyth,

Ateb beirniadaeth KR am yr awduron Eingl-Gymreig. Pan fu'n golygu'r Welsh Review yr oedd llawer o awduron Cymreig yn gwrthod cael eu gwaith wedi ei gyfieithu i'r Saesneg rhag i rywfaint o'r rhin gwreiddiol fynd i golli mewn cyfieithiad, fel petai'r Gymraeg yn wahanol i ieithoedd eraill. Nid yw hyn wedi digwydd wrth gyfieithu straeon KR. Cadwyd digon o rin y gwreiddiol nes bod H. E. Bates yn ei gyfrol ar y stori fer yn nodi'r ansawdd uchel sydd i'w gwaith. Nid yw wedi beirniadu awduron sy'n ysgrifennu yn Gymraeg. Mae'n mynd yn llai geiriog wrth fynd yn hyn. Pan yn ifanc arferai'r geiriau ffrydio allan ohono. Cyfeirio at J. C. Powys, Ll. Wyn Griffith a T. Rowland Hughes. Mae Reginald Moore wedi newid ei feddwl ynglyn â chael cyfrol tri awdur (Gwyn Jones, Kate Roberts a Geraint Goodwin). Mae am i Gwyn Jones lunio cyfrol o straeon byrion. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Llanfarian,

Cafodd rybudd gan Morris T. Williams ei fod yn trefnu i derfynu debentures Mr R. O. F. Wynne a'i gefnogaeth i overdraft Cwmni Gee a'i Fab. Cafodd hefyd rybudd i derfynu ei gysylltiad â Gee a'i Fab fel cyfarwyddwr. Trwy benderfyniad cyfarfod o'r Cyfarwyddwyr yn unig y gellir yn gyfreithiol basio'r pwynt cyntaf ac mai mewn ysgrifen a phleidlais holl gyfranddalwyr y cwmni y gellir diswyddo cyfarwyddwr. Mae'n galw ar Morris T. Williams i drefnu cyfarfod o'r cyfarwyddwyr ar unwaith. Mae'n anfon y cais hwn at bob cyfarwyddwr gan obeithio y bydd iddynt gefnogi ei gais am gyfarfod i ystyried mantolen y flwyddyn a'r ohebiaeth a fu rhyngddo ef a Morris T. Williams.

Llythyr oddi wrth Gwla[dys Jones], yn Merthyr Tudful,

Diolch am barsel o [wyau]. Dim ond tri oedd wedi cracio ac fe'u cawsant gyda chig moch i ginio. Ni chawsant rai o'r blaen y flwyddyn honno. Daeth adref i gasglu dillad gaeaf ond nid yw'n gallu dychwelyd i'r Barri oherwydd y tywydd. Mae blinder arni wedi ei achosi gan wynegon. Hydera fod Morris T. Williams yn well. Mae'n rhaid ei bod hi'n waith dychrynllyd i newid peiriannau. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Margaret Storm Jameson, yn Virginia Water,

Yr oedd yn fraint iddi gael ysgrifennu'r rhagymadrodd i gyfrol KR o storïau yn Saesneg a chafodd bleser mawr o'u darllen. Soniodd Wyn Griffith lawer amdani a'i gwaith. Mae'n canmol eglurder a llymder KR sydd, er hynny, yn cynnwys teimlad cymhleth. Mae'n rhaid bod KR wedi gweithio'n galed i berffeithio ei chrefft. Mae'n tybio bod KR yn perthyn i'r ysgrifennwyr straeon byrion Ewropeaidd. Nid yw natur gyfyng eu cefndir yn gwneud unrhyw wahaniaeth. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth 'Winnie' [Winifred Rees], yn Aberdâr,

Diolch am ei anrheg Nadolig. Diolch am y clai lliwgar i Walter. Nid oedd hi'n disgwyl dim gan fod KR wedi addo copi o'i llyfr iddi. Aethant i sir Gaerfyrddin i brynu gwydd Nadolig a thalu pris y farchnad ddu amdani. Disgrifiad o ddydd Nadolig. Bu mewn parti cyn-ddisgyblion a chafwyd amser hyfryd i ddymuno'n dda i Dorothy. Roedd tua 150 yno. Roedd Miss Cook yno a phlastar ar ei hwyneb a'i braich mewn plastar. Mae Dorothy wedi cael swydd ym Mholitechig Woolwich. Hanes rhai o'r athrawon eraill [yn Ysgol Ramadeg y Merched]. Mae Edmund ar ei ffordd adref o'r Rhyfel wedi pedair blynedd a hanner. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Myfanwy [Davies], yn Rhuthun,

Diolch am ddychwelyd llythyr Elsi. Cafodd M.D. brofedigaeth fwyaf ei bywyd pan oedd yn 24 oed. Hanes ei hymweliad â chartref Elsi yn Rhuddlan a'i gweld yn gorwedd yn ei harch. Mae ei rhieni wedi derbyn yr ergyd yn weddol ond ei gwr wedi mwy na thorri ei galon. Benthycodd gopi o lythyrau Max Plowman iddo ac addawodd ei ddarllen. Bu'n cribo gwallt Elsi yn ei harch. Awgrymu bod rhywun yng Ngwasg Gee yn annog Steve, gwr Elsi, i ysgrifennu dramâu.

Llythyr oddi wrth R. T. [Jenkins], ym Mangor,

Diolch am lythyr tyner KR ac am y geiriau prydferth yn Y Faner. Mor syn, mor fodlon ac mor falch fyddai ei wraig o weld dalen ganol Y Faner yn rhoi lle amlwg iddi. Bydd yn dod adref yn aml â rhyw newydd iddi yn reddfol heb gofio bod pethau wedi newid. Nid yw hynny wedi ei chwerwi ychwaith.

Llythyr oddi wrth Lilla Wagner, yn Budapest,

Holi wrth ba enw y dylai gyfarch KR. Mae'n deall agwedd KR at yr iaith Gymraeg gan fod yr Hwngariaid wedi gorfod diogelu eu hiaith a'u diwylliant yn erbyn yr Almaenwyr. Mae'n amgau cerdd mewn cyfieithiad Saesneg gan János Arany am feirdd Cymru, cerdd a luniwyd pan sefydlodd Franz Joseph I, Ymerawdr Awstria, ei hun yn frenin Hwngari. Adrodd ei hanes personol a'i gyrfa yn ysgrifennu. Diolch am wahoddiad i ymweld â KR fel teulu ond y mae anawsterau teithio. Edrych ymlaen at dderbyn parsel ganddi. Esbonio ei chyfeiriad. Cerdd "The Bards of Wales" gan János Arany wedi ei chyfieithu gan Watson Kirkconnell, The Magyar Muse (1933). Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla Wagner, yn Budapest,

Diolch am lythyr a pharsel KR. Yr oedd y tabledi caffîn a fitamin yn arbennig o dderbyniol. Mae eu byd hwy yn gwella yn raddol ac y mae eu hamgylchiadau yn llawer iawn gwell nag oeddent flwyddyn ynghynt. Saesneg/English.

Results 2361 to 2380 of 2413