Llyfr cyfrifon, 1887-1906, [David Hughes], crydd, o Lanuwchllyn, sir Feirionnydd, yn cynnwys manylion atgyweiriadau a wnaethpwyd, costau'n daladwy, ayyb. = A ledger, 1887-1906, of [David Hughes], bootmaker, of Llanuwchllyn, Merioneth, containing details of repairs carried out, costs payable, etc.
Adysgrif, [?1890au], gan John Williams (Wyr yr Eos), o'r traethawd 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau' a ysgrifennwyd yn y 1870au gan ei daid John Williams (Eos Môn). = A transcript, [?1890s], by John Williams (Wyr yr Eos), of an essay on penillion singing, 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau', written in the 1870s by his grandfather John Williams (Eos Môn). Cynhwysir hefyd lythyr, 22 Medi 1955, gan y rhoddwr, yn disgrifio hanes y llawysgrif (f. i). = Also included is a covering letter, 22 September 1955, from the donor, describing the history of the manuscript (f. i).
Papurau Dr David Llewelyn Williams, prif swyddog meddygol Bwrdd Iechyd Cymru o 1920–1935, yn ymwneud â’i gyfnod yn fyfyriwr meddygol yng Nghaeredin; fel meddyg llong yn 1903; ei ymweliad â’r India yn 1935 gan gynnwys dyddiadur; llyfrau lloffion yn ymwneud â’i waith fel swyddog meddygol yn Sir Ddinbych ac yn Wrecsam gan gynnwys papurau’n ymwneud ag achos difrifol o wenwyn bwyd yn Wrecsam yn 1910; erthyglau a chyhoeddiadau ganddo yn ymwneud â phynciau fel glendid, dirwest a’r ddarfodedigaeth; a llythyrau cydymdeimlad a dderbyniwyd ar ôl ei farwolaeth yn 1949. = Papers of Dr David Llewelyn Williams, chief medical officer of the Welsh Board of Health, 1920-1935, relating to his time as a medical student in Edinburgh; as a ship surgeon in 1903; his visit to India in 1935 including a diary; scrapbooks relating to his work as a medical officer in Denbighshire and Wrexham including papers relating to a severe case of food poisoning in Wrexham; articles and publications by him on subjects such as sanitation, temperance and tuberculosis; together with letters of condolences received following his death in 1949.
Papurau amrywiol, 2010-2011, yn ymwneud â'r digwyddiadau a drefnwyd i ddathlu daucanmlwyddiant y Cob, Porthmadog (1811-2011), 2011. = Various papers, 2010-2011, relating to the events held to celebrate the bicentenary of the Cob (1811-2011), Porthmadog.
Tua un llythyr ar hugain oddi wrth y Preifat Dan Evans, Ffisilwyr Brenhinol Cymreig, a anfonwyd ganddo at ei rieni Daniel a Mary Evans yn fferm Maesglas yng Nghaeo, Sir Gaerfyrddin, o Wersyll Milwrol Cinmel ym Modelwyddan ac o faes y gad yn Ffrainc. Yn eu plith mae llythyr oddi wrth ei gyfnither Mary yn Saesneg a llythyr oddi wrth Preifat J. G. Davey at rieni’r milwr yn nodi i'w mab gael ei daro yn ei dalcen gan ddarn bach o shrapnel. Collodd ei fywyd ar 19 Awst 1916 yn ddwy ar hugain mlwydd oed. Yn amgaeedig mae copi o erthygl 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF' gan y rhoddwr a baratodd yn 1996 a llungopi o restr a ddarparwyd gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodi'r rhai a enwir ar Gofeb Thiepval. = Approximately twenty one letters from Private Dan Evans, Royal Welsh Fusiliers, to his parents Daniel and Mary Evans at Maesglas Farm in Caeo, Carmarthenshire, written from Kinmel Military Training Camp in Bodelwyddan and on active service in France. Included is a letter from a cousin Mary and from Private J. G. Davey to the soldier’s parents informing them that their son had been ‘hit in the forehead by a small piece of shrapnel’. He died in France on 19 August 1916 aged twenty two. Enclosed is an article by the donor entitled 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF', together with a copy of a printed list issued by the Commonwealth War Graves Commission which identifies Private Daniel Evans as missing.
Dau lythyr, 1950, oddi wrth Thomas Rowlands, Tyddyn Morlais, y Gaiman, Chubut, a ymfudodd i Batagonia ym 1906, ynghyd â llungopi o ffotograff o Côr y Dyffryn Uchaf, côr a sefydlodd ym 1925.
Nodiadau pregethau, 1846-1885, gan y Parch. Samuel Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghastell-nedd, Cefncoedycymer a Chaerdydd. = Sermon notes, 1846-1885, by the Rev. Samuel Jones, Calvinistic Methodist minister at Neath, Cefncoedycymer and Cardiff.
Nodiadau am bregethau a phregethwyr, y darlleniadau a thestun y bregeth, [1839]-[1866], ar ddalennau rhydd. Rhestrir pregethwyr Sasiwn Machynlleth 1839.
Emyn-donau John Jenkins, Bad Uchaf, ger Pontypridd, gan gynnwys 'Glan-y-Bâd', buddugol yn Eisteddfod 'Welsh Industries' yng Nghaerdydd, 1946, ynghyd â 'Hen Delynor’ (geiriau T. Rowland Hughes), buddugol yn Eisteddfod Cydweli, 1952. Ceir hefyd wybodaeth fywgraffyddol am John Jenkins, ynghyd â nodyn am hanes Eglwys y Bedyddwyr Carmel, Bad Uchaf.
Anerchiad teipysgrif Syr Thomas Parry yng Nghanolfan Addysg Bro Cernyw, 27 Medi 1980, ar achlysur dadorchuddio cofeb i'r cyfieithydd J. T. Jones ar ei gartref bore oes - Bron Hwylfa, Llangernyw.
Cyfrol o farddoniaeth David Davies, tad yr artist John Elwyn a pherchennog ffatri wlân Emlyn yn Adpar, gan gynnwys cerddi a anfonodd i eisteddfodau lleol, [1892]-[1937].
Chwe chyfrol yn cynnwys darnau clasurol wedi'u trosi i nodiant sol-ffa gan Hywel Berwyn Evans (1915-2006), llyfrgellydd ym Mhrifysgol Birmingham ac organydd yn Eglwys Bresbyteraidd Bethel yn y ddinas. Maent yn cynnwys gweithiau gan Handel, Sibelius, Mendelssohn a Bach.
Gwaith barddonol 'Clod i Feirion' gan 'Deudraeth', West Pullman, Illinois, a ddarllenwyd yng nghyfarfod 'meibion a merched' Sir Feirionnydd, 20 Mai 1899, yn yr Occidental Hotel, Stryd Maddison, Chicago.
Papurau, 1981-1986, yn ymwneud â'r Colegiwm Cymraeg, pan oedd y diweddar J. I. Daniel [Siôn Daniel] yn ysgrifennydd y Colegiwm. Ceir gohebiaeth ynglŷn â llunio'r cyfansoddiad, aelodaeth, a thefnu cyfarfodydd a chynadleddau.
Nifer o benillion amrywiol mewn teipysgrif, gan gynnwys 'Tua Chaeo' gan Abiah Roderick (1898-1977), bardd gwerinol a digrifwr o Gwm Tawe, a luniodd y penillion (heb eu cyhoeddi) yn arbennig ar gyfer mam Mrs Elsa Davies, y rhoddwr.