Dangos 839215 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau o Lesotho ac am Lesotho, gan gynnwys pecynnau gwybodaeth a chanllawiau Dolen Cymru ar gyfer busnesau, eglwysi a thwristiaid, c.1980-c.1989; rhaglen Gŵyl Elái, gan gynnwys perfformiad gan Gôr Athrawon Maseru, 1988; a thaithlyfr i eglwys plwyf Welshampton, Swydd Amwythig, gan gynnwys bedd Jeremiah Libopuoa Moshoeshoe (bu f. 1863), [ar ôl 1999].

'Dolen Cymru'

Copïau o gylchlythyr chwe-misol 'Dolen Cymru' (rhif 1-46, gyda bylchau).

Cylchlythyrau a.y.b.

Cylchlythyrau yn ymwneud â Lesotho a deunydd printiedig arall, gan gynnwys pecyn Dolen Cymru yn cynnwys copïau o lythyrau King Moshoeshoe II at Nelson Mandela a F. W. de Klerk, ac o anerchiad gan General Lekhyana yn nodi diwedd apartheid yn Ne Affrica, Chw. 1990; Gŵyl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin 1991 ar y thema 'Ffrindiau'; Dr Mosebi Damane, 'Moshoeshoe's application of international law and diplomacy in southern Africa' (19eg ddarlith goffa Moshoeshoe), 1992; llyfryn ar 'Morena Moshoeshoe I, mothehi oa sechaba sa Basotho = the founder of the Basotho nation', 1995; adroddiad blynyddol Uchel Gomisiwn Lesotho Llundain, 2007/08; a rhaglen ar gyfer dathliadau pen-blwydd 46 oed y Brenin Letsie III, 2009.

Cyhoeddiadau amrwyiol

Cyhoeddiadau, yn bennaf pamffledi ar gyfer cyrchfannau twristiaid Lesotho, hefyd cardiau post, buddsoddiad busnes ac ati.

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

  • GB 0210 DSOWEN
  • Fonds
  • 1874-[2022]

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru, = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

Owen, David Samuel, Reverend, 1887-1959

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

The report of the Welsh Calvinisitic Methodist Churches in London

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'The report of the Welsh Calvinistic Methodist Churches in London for the year ending December 31, 1874', yn cynnwys gwybodaeth ystadegol yn ymwneud á chapeli Methodistaidd Calfinaidd Cymreig Llundain, gan gynnwys Capel Jewin = Printed booklet titled 'The report of the Welsh Calvinistic Methodist Churches in London for the year ending December 31, 1874', containing statistical information relating to Welsh Calvinistic Methodist chapels in London, including Jewin Chapel.

Jiwbili Capel Jewin = Jewin Chapel Jubilee

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'Capel Jewin. Hanes ac Atgof. Jiwbili, 1929' a argraffwyd i ddathlu 155 mlynedd ers sefydlu'r achos a adwaenwyd yn ddiweddarach fel Capel Jewin = Printed booklet titled 'Capel Jewin. Hanes ac Atgof. Jiwbili, 1929' published to celebrate 155 years since the establishment of the cause later known as Jewin Chapel.

Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd 1735 - 1935', yn cynnwys gwybodaeth bywgraffyddol am brif ffigyrau'r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, ynghyd â threfn y gwasanaethau i ddathlu'r ddeucanmlwyddiant yng Nghapel Jewin ac yng Nghapel Tabernacl Whitefield, Tottenham Court Road, Llundain = Printed booklet titled 'Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd 1735-1935', containing biographical information relating to the prime movers of the Methodist revival in Wales during the first half of the eighteenth century, together with the orders of services to celebrate the bicentennial at Jewin Chapel and at Whitefield's Tabernacle Chapel, Tottenham Court Road, London.

Cyfrol oliwiedig cyflwynedig i D. S. Owen = Illuminated volume presented to D. S. Owen

Cyfrol oliwiedig goeth yn cynnwys Annerchiad i'r Parchedig D. S. Owen gan flaenoriaid Capel Jewin mewn teyrnged i'r deugain mlynedd o wasanaeth a roddodd i'r achos. Cynhwysir ffotograffau o D. S. Owen ac o flaenoriaid y capel yn ystod gweinidogaeth Owen, ynghyd â llofnodion swyddogion y capel ac o'r blaenoriaid oedd yn gwasanaethu pan gwblhawyd y gyfrol = A richly-illuminated volume containing an Address to the Reverend D. S. Owen from the elders of Jewin Chapel in tribute to his forty years of service to its cause. The volume includes photographs of D. S. Owen and of elders who served the chapel during Owen's ministry, together with the signatures of chapel officials and of elders serving at the time the volume was completed.

Hysbysebiad basâr; llythyr at Miss E. Owen oddi wrth Clement Davies = Bazaar advertisement; letter to Miss E. Owen from Clement Davies

Taflen yn hysbysebu basâr wedi'i drefnu gan aelodau Capel Jewin i'w gynnal yn Neuadd Cymry Llundain, 30 a 31 Mai 1956; llythyr, 28 Mai 1956, at Miss E. Owen, Muswell Hill, Llundain oddi wrth Clement Davies, AS = Pamphlet advertising a bazaar arranged by members of Jewin Chapel to be held at the London Welsh Hall, 30 & 31 May 1956; letter, 28 May 1956, to Miss E. Owen, Muswell Hill, London from Clement Davies, MP.

Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin

Cyfrol printiedig yn dwyn y teitl 'Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin 1774-1961', yn cynnwys trefn y gwasanaeth i ddathlu ail-agor Capel Jewin yn dilyn dinistriad yr adeilad yn ystod Blitz yr Ail Ryfel Byd ym 1940. Fel y nodir yn rhagarweiniad y gyfrol, serch ei ymroddiad maith a di-flino i'r gwaith o adnewyddu ac ail-godi'r capel, ni fu D. S. Owen fyw i weld ffrwyth ei lafur. = Printed volume titled 'Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin 1774-1961', comprising the order of service to celebrate the reopening of Jewin Chapel following its destruction during the Second World War Blitz of 1940. As noted in the volume's introduction, despite his long and tireless dedication to the restoration work, D. S. Owen did not live to see the results of his labours.

Coeden deuluol D. S. Owen = D. S. Owen family tree

Coeden deuluol wedi'i llunio yn llaw Nerys Owen, wyres D. S. Owen, yn cynnwys enwau D. S. Owen a'i wraig Grace Maude (Gracy) (ganed Jones), eu plant a'u gwŷr/gwragedd, a phlant Eluned, merch D.S. a Gracy Owen. Cylchynir enw Nerys Owen, un o blant Eluned. = Family tree drawn by Nerys Owen, granddaughter of D. S. Owen, comprising the names of D. S. Owen and his wife Grace Maude (Gracy) (née Jones), their children and children's spouses, and the children of Eluned, daughter of D. S. and Gracy Owen. The name of Nerys Owen, one of Eluned's children, is circled.

Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasg

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasc: Methodistiaid Calfinaidd Llundain, 1912' gan y Parchedig John Evan Davies ('Rhuddwawr'), a fu'n weinidog ar Gapel Jewin o 1886 hyd 1911. Fe'n hysbysir gan Nerys Owen, rhoddwraig y casgliad, mai arnodiadau pensil ei thad, Percy E. Owen (1915-1995) (mab D. S. Owen), a geir o fewn y gyfrol. = Printed booklet titled 'Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasc: Methodistiaid Calfinaidd Llundain, 1912' by the Reverend John Evan Davies (bardic name 'Rhuddwawr'), minister of Jewin Chapel from 1886 to 1911. Nerys Owen, donor of the collection, has noted that the pencil annotations within the volume are those of her father, Percy E. Owen (1915-1995), son of D. S. Owen.

Canlyniadau 221 i 240 o 839215