Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Lilla Wagner, yn Budapest,

Diolch am barsel yn cynnwys sgarff a fest gynnes, te a thabledi fitamin. Diolch i Mrs Joshua Jones am ei charedigrwydd hefyd. Mae blwyddyn oddi ar i'w mam farw. Daeth yr anrhegion mewn pryd i godi ei chalon. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Mae'r wraig a gynorthwyai yn y ty wedi marw. Canmol ymdrechion Anna drostynt fel teulu. Fe wylodd ei gwr am ddyddiau ar ôl ei marw. Mae'n dda bod Miss Edwards [a ddaeth i gadw ty i KR] wedi mynd. Nid oedd modd iddynt gyd-fyw yn ddedwydd os oedd hi'n berson oriog. Cafodd wybod bod y llywodraeth am ei hanfon i ymweld â'r Swistir a Ffrainc, felly ni fydd yn bosibl iddi ymweld â Phrydain eleni. Hoffai ddod i weld amgylchiadau addysgol yng Nghymru a Lloegr. Hoffai i Daisy fynd i Ysgol Howells, Dinbych, er mwyn iddi fod yn agos at KR. Yn y cyfamser mae'n debyg mai mynd i ysgol breswyl yn Y Swistir a wnaiff Daisy. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, yn Llangadog,

Ysgrifennu i ddiolch am gael aros yn Y Cilgwyn. Teimla'n euog o drethu ei nerth a'i lletygarwch a hithau heb gymorth yn y ty. Dywedodd golygydd y North Wales Times wrtho fod mwy o Gymraeg yn Ninbych erbyn hyn nag oedd ugain mlynedd yn ôl a hynny oherwydd dylanwad KR, Morris T. Williams a Gwilym R. Jones. Enillasant le o bwysigrwydd cynyddol i'r mudiad cenedlaethol ym mywyd y gymdogaeth oherwydd y parch sydd iddi yn bersonol. Yr oedd y croeso a gafodd Ysgol Haf [y Blaid] gan drigolion y dref yn deyrnged uchel iawn ynddo'i hun. Mae'n amgau copi o anerchiad Syr F. Rees i reolwyr Coleg Caerdydd.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolch am y croeso a dderbyniodd dros Ysgol Haf [y Blaid]. Bu'n adrodd yr hanes wrth Siân gan fanylu ar y sylw arbennig a roddai Toss [ci Kate Roberts], i'w draed. Nodi ei symudiadau ar hyd a lled Cymru oddi ar yr Ysgol Haf. Nodi maint y gwaith a'r straen enbyd arni hi a staff Y Faner dros yr haf. Dylai ymneilltuo o'r swyddfa i gyflawni gwaith y wir KR. Nodi bod John Eilian wedi ennill y gadair ym Mae Colwyn. Teimla fod gormod o ymdrech yn yr awdlau diweddar, heblaw am rai [T.] Gwynn Jones ac [R.] Williams Parry.

Llythyr oddi wrth Gwenan Jones, yn Llandre,

Diolch am gydymdeimlad ar golli [?brawd]. Daw teimlad o drasiedi drosti ar adeg fel hyn a hoffai pe medrai ei fynegi. [Robert Williams] Parry sy'n dod agosaf ato gyda'i "adael gwaith a gadael gwydd".

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], ym Mharis,

Cyrhaeddodd Paris ar ôl mynd â Daisy i'r Swistir. Mae Ffrainc yn wlad ddiflas iawn o'i chymharu â'r Swistir. Roedd digonedd yno ond y mae diflastod ar ôl y rhyfel yn dal yn Ffrainc a dim awydd ailadeiladu yno. Nid yw'n credu y gall ddod i Brydain ond hwyrach y gallai KR ddod i'w gweld yn Ffrainc. Y mae'n teimlo'n unig ac yn ofnus o fod ym Mharis. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Paris],

Mae posibilrwydd y medr hi deithio i Brydain. Bu'n ymweld â llysgenhadaeth Hwngari a'r un Brydeinig. Mae'n gofyn i KR anfon llythyr ffurfiol ati yn ei gwahodd i aros am bythefnos. Dechrau trefnu i KR ddod i aros yn Budapest yr haf dilynol. Hwyrach ei bod yn well na ddaeth KR i Baris wedi'r cwbl gan fod streic gweithwyr dinesig yno ar y pryd. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Myfanwy Howell, yn Llangefni,

Diolch iddi am anfon copi personol o lyfr [Deian a Loli] wedi ei arwyddo. Mae Jennie Thomas am i KR gymryd rhan mewn rhaglen radio i gael ei holi gan blant am Laura Jones. Plant Ysgol Llangefni a oedd wedi gofyn am Deian a Loli. Soniodd wrth Elwyn Thomas sy'n gofalu am ddarlledu i ysgolion am Mr Elis Jones. Addawodd y câi ragor o raglenni i'w paratoi. Tybed a allai baratoi rhywbeth ar gyfer Awr y Plant? Cafodd Ifan O. Williams ei benodi i'r swydd ond ychydig iawn o bobl sy'n ysgrifennu ar gyfer Awr y Plant. Beth am iddo drefnu cwis? Bu canmol mawr ar sgwrs Kate Roberts ar y stori fer.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Paris],

Cafodd fordaith esmwyth yn ôl i Ffrainc. Dychwelodd i'r un gwesty ym Mharis ond mae ganddi well ystafell, un ddrutach. Mae'n bwriadu mynd i Rolle [yn Y Swistir i weld Daisy] ar 21 Rhagfyr. Collodd gyfle da i ddarlithio ym Mharis oherwydd streic y post yno. Mae ei gwr yn ofidus ar ei rhan, heb dderbyn ei llythyrau oherwydd streic y post. Mae llawer o ysbwriel ar strydoedd Paris. Mae'n anfon dymuniadau da dros y Nadolig rhag ofn na chaiff gyfle arall i ysgrifennu. Bydd yn cofio amdani ar Noswyl Nadolig. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth 'Môd', [Mrs Maud Jones, gwraig Sam Jones], ym Mangor,

Cydnabod cydymdeimlad KR ar farwolaeth 'Winnie'. Daeth ei brawd o Montreal i aros gyda hi am dri mis a'r noson cyn iddo hwylio'n ôl y bu hi farw. Bydd yn hoffi sôn am hen gymeriadau gyda Fred, ei brawd. Roedd ei mam yn gwrthwynebu i Fred briodi ugain mlynedd yn ôl ac ufuddhaodd yntau ac fe ddisgwyliodd y ferch amdano. Bu farw ei mam ac yna bu farw'r ferch yn sydyn yr wythnos ddilynol gan adael Fred yn hen lanc. Dyna beth yw deunydd stori i KR.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Mae'n falch iawn o glywed bod posibilrwydd y gall KR ymweld â Hwngari y flwyddyn ganlynol. Da ganddi glywed bod storïau KR yn derbyn mwy o gyhoeddusrwydd yn ddiweddar. Pwyso ar KR i beidio ag esgeuluso ei thalent. Ni fydd Daisy yn gallu dychwelyd adref am flwyddyn arall. Ni fydd hithau yn medru cael passport er mwyn ymweld â hi. Nid yw iechyd ei gwr ddim gwaeth ond ni wêl welliant mawr ynddo. Cawsant drafferth yn y ty gyda math o gaws llyffant yn tyfu ar y pren. Bu'n rhaid codi'r lloriau mewn dwy ystafell a llosgi'r pren i gyd. Gofyn eto iddi geisio trefnu lle i Daisy yn Ysgol Howells, Dinbych, ar gyfer 1949-50. O.N. (10 Awst) Cafodd ei gwr drawiad ar y galon. Y mae ei gyflwr yn dal yn beryglus er ei fod ychydig yn well. Mae angen y cyffur Lacarnol arno. Ni ellir ei brynu yn Hwngari. Tybed a fedr KR gael gafael arno?. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Mae ei gwr yn well ac wedi dychwelyd adref, er ei fod yn gorwedd yn llonydd yn ei wely. Dywed y meddyg fod gobaith iddo wella. Ni chaiff weithio mwy na phum diwrnod yr wythnos a bydd raid iddo orwedd yn y gwely am y ddau ddiwrnod arall. Bydd yn rhaid iddo roi'r gorau i'w weithgarwch gwleidyddol. Nid oes angen i KR boeni am iddi fethu â chael gafael ar y cyffur i wella ei gwr. Cafodd beth o'r America drwy law cyn athrawes iddi. Dim ond un ffrind a fu'n gymorth iddi yn ystod y cyfnod pryderus a gafodd. Gofyn beth fydd yr anghenion addysgiadol gofynnol er mwyn i Daisy gael mynediad i Ysgol Howells, Dinbych. Rhwng ei gwybodaeth o'r Ffrangeg a'r Saesneg dylai Daisy fedru gofalu amdani ei hunan yn y dyfodol. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Hoffai dderbyn copi da o'r llun ohoni sydd yn Y Winllan am Awst 1948. Anfonodd am y tri rhifyn o'r Winllan. Y mae'r "Atgofion" yn bwysig. Mae newydd ddarllen ei beirniadaeth ar y perfformiad yng Ngarthewin [Blodeuwedd]. Yr oedd yr actores a chwaraeai Blodeuwedd [Ellen Wyn Jones] yn agos at ddagrau ar y nos Wener. Morris Jones a'i darganfu ac y mae deunydd addawol ynddi. Bydd adolygiad KR yn galondid i'r cwmni.

Llythyr oddi wrth 'Auntie Ellen', yn Y Rhyl,

Diolch am barsel [o fenyn]. Cododd hiraeth am y 'brintan gorddi bach' a ddefnyddiai Catrin [mam Kate Roberts] pan oedd hi yng Nghae'r Gors - "yr amser braf sydd wedi pasio na welaf mono eto". Diolch am ei llythyr hefyd adeg ei phen blwydd.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Diolch am y llun. Mae'r llun hwn yn dweud llawer am grëwr y storïau. Dylai ddatblygu'r braslun hwn o'u hatgofion yn Y Winllan yn llyfr llawn. Mae'n gwerthfawrogi gair o ganmoliaeth am y ddwy erthygl "Cwrs y Byd" diwethaf gan iddo weithio'n galed arnynt. Mae gagendor enbyd rhwng Gwilym R Jones a heddychwyr y Blaid ar y naill law a Saunders Lewis ar y llall. Un rheswm dros iddo adael bywyd cyhoeddus y Blaid oedd ei bod yn eglur na ddilynid polisi Penyberth. Yr oedd hefyd yn rhy wan yn ariannol erbyn hynny i barhau'n arweinydd. Gwnaeth heddychiaeth y Blaid hi'n haws o lawer iddo ymddeol. Nid yw wedi dweud y pethau hyn yn gyhoeddus erioed ond y mae heddychiaeth Cymry ifainc yn siom chwerw iddo.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Trafod y posibiliadau o gael addysgu Daisy, ei merch, yn Ninbych. Holi am gyfrol KR sydd ar fin ei chyhoeddi [Stryd y Glep]. Iechyd ei gwr. Gwrthodwyd y nofel yr oedd wedi ei chyfieithu o'r Ffrangeg gan y Swyddfa Sensoriaeth ond ni wyr pam. Er hynny addawodd y golygydd dalu peth o'r tâl iddi am ei hymdrech. Nodi ei hawydd i Daisy gael mynd i Ysgol Howells, Dinbych. Byddai'n hapus iawn o wybod y byddai KR wrth law i ofalu amdani. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

'Cwrs y Byd' yw hunllef ei fywyd. Pan gaiff destun fel Henry James bydd yn ymgysuro tipyn. Yr wythnos wedi iddo ysgrifennu arno 'roedd ysgrif yn y Times Literary Supplement ar lyfr newydd Leavis. Ef yw'r beirniad llenyddol gorau yn Lloegr. Nid yw wedi darllen llyfr Rebecca West ar Iwgoslafia - fe'i cyfrifir eisoes yn glasur yn ei faes. Bu'n arolygu'r Gymraeg a'r Saesneg yn hen ysgol KR yn Aberdâr bythefnos ynghynt. "Y drwg yno yw eu bod yn dysgu gormod ar y merched, yn eu dysgu, dysgu, nes lladd y wreichionen fach o feddwl gwreiddiol a fo yn neb o'r genethod". Cafodd dridiau yn Abergwaun hefyd a chwmni D. J. [Williams] yno.

Results 2381 to 2400 of 2413