Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n bwriadu ei chyfarch o hyn ymlaen wrth ei henw llenyddol - Kate Roberts. Trafod llythyr y bwriedir ei gyhoeddi yn Y Ddraig Goch oddi wrth Mai Roberts. Annog KR i geisio am swydd is-arholwr gyda'r Bwrdd Addysg. Dywedodd cyfaill o fardd wrtho am KR: "Wel, pe na bai gennyf wraig fy hun, fe'i carwn innau hi". Cafodd fwynhad o ddarllen ei hysgrif yn Y Llenor ["Y Nofel Gymraeg", Y Llenor, cyf VIII (1928), tt 211-16]. Anfon cyfarchion blwyddyn newydd dda at fam Kate Roberts.

Llythyr oddi wrth Doris [ ], yn Plymouth,

Llongyfarch Kate Roberts ar ei phriodas. Nid yw wedi clywed ganddi ers amser hir. Dealla i ddodrefn KR gael ei saernïo'n bwrpasol iddi. Sôn am ei merch, Rosemary gan hyderu y caiff KR faban. Anfon dysgl pyrex iddi yn anrheg ac yn ei hannog i wneud pwdin reis i'w gwr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth [E.] Prosser [Rhys], yn Aberystwyth,

Cafodd lythyr o Lundain sy'n gofyn iddo awgrymu hen stori Gymreig. Tybed a wnai "Blodeuwedd" y tro. Mae'n bwriadu awgrymu "Rhwng Dau Damaid o Gyfleth" fel stori ddiweddar. Ni wyr pwy fyddai'n cyfieithu. Mae'n falch o glywed bod yr anrheg priodas yn plesio. Holi am gyfrol nesaf o straeon KR. Gwasg Aberystwyth sydd i'w chyhoeddi pan y daw. Holi a fydd trydydd argraffiad o'r gyfrol O Gors y Bryniau gan Hughes a'i Fab?. Teipysgrif.

Llythyr oddi wrth R. Alun Roberts, ym Mangor,

Anfon offer cerfio yn anrheg priodas. Bydd arno archwaeth mawr am fwyd bob tro wedi teithio o'r Gogledd i'r De. Canu clodydd y gyllell. Hanes teuluol a sôn am ei brysurdeb yn y Coleg. Mae'n arholi ym Mhrifysgol Iwerddon ac yn Leeds ac y mae ganddo ddwy ysgol haf, yn Harlech a Rhydychen a symudodd ei ddirprwy i Chelmsford.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, [Abertawe],

Ymddiheuro am anfon erthygl Tegwen Clee i'r Ddraig Goch heb ei dangos i Kate Roberts yn gyntaf. Holi sut y gall ddod i Riwbeina. Mae'n druenus o dlawd ac yn ail ni all gael diwrnod yn rhydd. Hoffai alw i weld G. J. Williams a Dorothy Edwards hefyd. Da ganddo glywed i KR gael gwaith arholi gyda'r Bwrdd Canol. Sôn am bwyllgor y Blaid ym Mhwllheli. Mae'n bwriadu mynd i aros yn y West End Hotel yno. Trafod diodydd a yfir ganddo. Mae KR wedi addo ysgrifennu stori fer bob mis yn lle llunio colofn y merched i'r Ddraig Goch. Saunders Lewis yn bygwth rhoi'r gorau i'w nodiadau yntau.

Llythyr oddi wrth Betty [Eynon Davies], [Llundain] SE23,

Hanes stori gyfres mae newydd ei hysgrifennu ar gyfer papur nos yn Llundain am £150. Anfon £3-11s-0c sef rhan KR o freindal Canpunt a Wel! Wel! Mae ei rhieni wedi prynu ty newydd mawr a gardd yn Dulwich. Mae dwy chwaer iddi yn byw yno gyda hwy ac y mae hi a Sybil wedi cael gwahoddiad i fynd atynt ond eu bod yn gwrthod mynd. Cafodd dwy o'r tair disgybl a oedd ganddi yn ei dosbarth Lladin yn yr ysgol lwyddiant yn yr arholiadau yn groes i'r disgwyl. Mae hi'n ysgol dda gyda disgyblaeth lem sy'n hwyluso gwaith athrawon. Collodd lyfr poced yn llawn syniadau ar gyfer storïau yn Llundain y diwrnod cynt. Colled fawr iddi hi. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolch am eu cymorth. Cafodd help mawr hefyd gan George M. Ll. Davies a [Lewis] Val[entine]. Y dydd Iau dilynol y byddir yn pleidleisio yng Nghaernarfon. W. J. Hughes sy'n debygol o ennill. Annog Kate Roberts i gael ei storïau byrion yn barod cyn gynted â phosibl.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolchgar iawn am Rhigolau Bywyd, ni fedrai anfon dim gwerthfawrocach na dim a beri mor ddigyfnewid. Maent o'r farn ei fod yn rhagori ar O Gors y Bryniau am ei fod yn aeddfetach ac yn fwy cynnil. Mae'n credu mai "Rhwng Dau Damaid o Gyfleth" yw'r peth gorau i gyd ohonynt. Holi os oes cyfieithiad Saesneg ohoni i fod cyn hir. Anfon cyfarchion tymhorol.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Diolch am wahoddiad KR i aros. Nid yw wedi clywed dim oddi wrth fyfyrwyr Caerdydd fod disgwyl iddo siarad yno y dydd Iau canlynol. Gwahodd KR i gael te gydag ef yng Nghaerdydd gan na fydd cyfle ganddo i ddod i Riwbeina. Amlinellu ei brysurdeb. Mae ei hen gar Morris wedi darfod amdano. Mae'n bwriadu prynu car newydd os caniatâ'r banc. Mae'n teimlo'n ganol oed bellach, nid yw yn deall pobl ifainc.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Bu yng Nghonwy ddydd Gwener y Groglith a chan fod y tywydd wedi ei rwystro rhag mynd allan darllenodd Precious Bane ar ôl hir berswâd o du ei wraig. Diolch am ei sylwadau ar Monica. Bu ffurf a chynllun y llyfr yn hir boen iddo. Amlinellu ei fwriadau. Ceisiai wneud rhywbeth mor gyfan a pherffaith ei gynllun ag yw ail weledigaeth y Bardd Cwsc sydd yn gampwaith techneg adrodd stori. Mae'r adolygwyr sy'n dweud nad nofel yw Monica yn bur ddigrif. Trafod nofelau cryno Ffrainc a'r Eidal. Onid hyd byr sydd i holl glasuron rhyddiaith Cymru? Ymateb i ddwy ysgrif Kate Roberts yn Y Llenor ["Trwy Lygaid Plentyn" a "Tafodiaith mewn Storïau", Y Llenor, cyfrol X (1931), tt 19-24 a 55-8]. Ei ymateb i'r Doctor Bach [E Tegla Davies] - nid oes ynddo wir sylwi ar blant na chais disgybledig i ddeall meddwl plentyn. Y mae llyfr Richard Hughes High Wind in Jamaica yn ffrwyth sylwi a deall.

Llythyr oddi wrth [E.] Prosser Rhys, yn Aberystwyth,

Ymateb i sylwadau KR ar Y Doctor Bach yn Y Faner. Y mae gwaith Tegla wedi ei orfoli allan o bob rheswm. Ymateb i stori fer Gwynfor, "Gelynion" - yr oedd yn wirioneddol dda. Dangosodd yr adolygiadau ar Monica nad oes barn lenyddol olau yng Nghymru o gwbl. Mae'n sylwi bod Morris T. Williams yn gweithio'n galed dros y Blaid. Os oes gobaith gwleidyddol i Gymru o gwbl, yn y Blaid Genedlaethol y mae hwnnw. Cododd J. E. Jones gweryl ag E. P. Rhys ynglyn â chynhyrchu'r Ddraig Goch. Cyhuddwyd ef hefyd o gadw un o deipiaduron y Blaid ond llwyddodd i brofi nad oedd hynny'n wir. Tybia mai Mai Roberts a oedd tu ôl i vendetta J. E. Jones. Ni ddywedodd neb air caredig am Y Ddraig er mor flêr oedd hi o'r blaen. Nid yw'n bwriadu cynhyrchu'r papur ar ôl diwedd y flwyddyn.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Ni fynnai gael ei alw'n feistr llenyddol i KR. Y cwbl a wnaeth oedd adnabod ei hathrylith yn weddol gynnar. Da ganddo glywed ei bod yn bwriadu ysgrifennu nofel am y Rhondda. Argymell y dylai ddarllen cyfrol Glanffrwd ar Lanwynno. Cynnig ei fenthyg iddi. Y mae yn ei drysori ddengwaith mwy na'r holl lyfrau ar Farcsiaeth gyda'i gilydd. Sylwodd fod Tonypandy fwy neu lai ar ben y rhestr o leoedd gwaethaf am ddiweithdra y mis blaenorol. Mae bron â gorffen ei hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd at y Dadeni Dysg. Ni fydd yn llyfr hawdd i'w ddarllen am ei fod yn rhy newydd a rhy athronyddol. Bydd mor newydd â gwaith Timothy Lewis, ond hydera na fydd yn debyg i hwnnw mewn dim arall. Mae'n cytuno â KR ynglyn ag eisteddfod siop Lewis ond nid ynglyn â'r hysbysebion yn Y Ddraig Goch. Rhybuddio KR i beidio â chyhoeddi pennod gyntaf ei nofel yn Y Llenor neu ni fydd yn debygol o'i gorffen.

Llythyr oddi wrth Ernest Rhys, Princes Risborough,

Mae'n cofio cyfrol gyntaf KR o straeon yn dda ond ni dderbyniodd yr ail. Ni fu'n adolygu llyfrau'n ddiweddar oherwydd pwysau gwaith arall. Cred y byddai marchnad i straeon KR yn Saesneg pe ceid rhywun i'w cyfieithu'n dda. Ni allai ef fentro eu cyfieithu. Pe bai'n anfon Rhigolau [Bywyd] ato fe hoffai'n fawr ei gymharu ag O Gors y Bryniau. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Newydd dderbyn Y Traethodydd er mwyn darllen erthygl KR ynddo ["Y Parch Richard Williams, Aber Dâr", Y Traethodydd (Ion. 1933), tt 13-19]. Mae'n benthyg llawysgrif iddi a chaiff ddefnyddio'r cynnwys dim ond iddi gydnabod y ffynhonnell. Gofyn iddi ddweud wrth G. J. Williams fod dull golygydd Y Llenor o esbonio pam nad adolygir llyfrau yn gam gwreiddiol a newydd mewn cylchgrawn llenyddol. Holi sut aeth perfformiad drama KR. Gwelodd yr hanes yn Y Darian. Mae'r gwanwyn ar ddod - mae'r adar yn codi nythod ac y mae wyn ar y golf-links yn Caswell.

Llythyr oddi wrth Vera Brittain, Chelsea SW3,

Diolch i KR am ei llythyr yn canmol y gyfrol Testament of Youth. Cafodd tua 400 o lythyrau o bob rhan o'r byd ond llythyr KR oedd y cyntaf o Gymru. Sôn am Malta a marwolaeth brawd KR yno. Ni allai fod wedi ei gladdu mewn man harddach. Mae'n falch o glywed bod KR yn gweithio er ceisio rhwystro Cymru rhag cael ei llusgo i mewn i ryfel imperialaidd arall. Y mae hi a'i gwr yn gwneud yn debyg yn Lloegr drwy gyfrwng y Blaid Lafur. Mae'n dymuno'n dda i KR gyda'r gwaith o orffen nofel hir. Cymerodd dair blynedd a hanner iddi orffen Testament of Youth. Pan ddaw llythyrau fel un KR y mae'n ystyried bod y cwbl yn werth y llafur. Saesneg/English.

Results 2401 to 2420 of 2492