Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Rhaid i KR ofalu am ei hiechyd. Mae'n poeni amdani. Cred ei bod yn syniad da i Daisy ddod i aros at KR er mwyn bod yn gymorth iddi o gwmpas y ty. Mae'n dibynnu ar awydd Daisy, cyngor ei ffrind Americanaidd i aros yn Y Swistir, a'i chanlyniadau arholiad. Rhestrir cryfderau a gwendidau Daisy er mwyn ceisio helpu KR i benderfynu os yw am gynnig cartref iddi. Holi faint fyddai'r gôst o'i chadw am flwyddyn yn yr ysgol. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth W. Ambrose Bebb, ym Mangor,

Bu'n disgwyl [rhifyn Mai 1949] o Le Peuple Breton ers rhai wythnosau. Mae'n gofyn iddynt ei anfon ymlaen fel gall lunio pwt arno i'r Faner. [Ymddangosodd "O Wasg Llydaw" gan Ohebydd Arbennig yn Y Faner (20 Gorffennaf 1949), t.6]. Da ganddo ddeall bod nith Kate Roberts wedi gwella'n iawn. Nid yw'n adnabod tad y ferch ac y mae'n ddrwg ganddo glywed ei fod yn dal yn wael ei iechyd.

Llythyr oddi wrth 'Terry', yn Harpenden,

Diolch am ddau lythyr. Daeth y cyntaf pan oedd yn drist ac yn brin o arian. Cafodd ei thwyllo gan Gymry wrth baratoi'r recordiau. Ond cofiodd bod Kate Roberts ac Elias Thomas a'i fab yn driw iddi. Hoffai fedru bod yn Y Cilgwyn i'w chyfarch eto. Holi am Tos ac yntau'n mynd yn hen. Sôn am ei phrysurdeb hi. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Diolch am ei llythyr caredig. Bu'n lles mawr i'w gwr ar ôl iddynt dderbyn llythyr croes oddi wrth Daisy yn eu hysbysu ei bod am adael Rolle a mynd i Baris heb eglurhad. Maent yn derbyn cynnig KR i ofalu am Daisy yn Ninbych. Da ganddynt glywed na all fynd i Ysgol Howells gan nad ydynt am iddi ddatblygu'n snob fechan. Hwyrach bod merched Americanaidd cyfoethog yn Y Swistir wedi dylanwadu ar Daisy. Mae ei gwr yn disgwyl derbyn £150-250 cyn bo hir. Bydd rhaid cael caniatâd y llywodraeth i'w ddefnyddio mewn gwlad dramor. Awgrymu enw gwesty rhesymol a chyfleus ym Mharis. Da ganddi glywed bod KR yn well. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Rhaid iddi weithio mwy o oriau yn y llyfrgell yn awr. Mae Daisy yn hapus mewn amgylchiadau dymunol. Gofyn i KR ysgrifennu ati. Mae'n gobeithio cael cyfle i draddodi dwy ddarlith ym Mharis - un i Unesco a'r llall i Gymdeithas Llyfrgellwyr Ffrainc. Nid yw'n siwr a ddylai adael ei gwr ar ben ei hunan ac yntau heb wella'n iawn. Diolch i KR am y tro y bu yng Nghymru. Ei hannog i ysgrifennu fel na fydd iddynt golli cysylltiad. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Abertawe,

Cafodd godi ac eistedd am y tro cyntaf. Mae'n disgwyl cael mynd adref yn fuan. Mae'r llawfeddyg yn fodlon ar ei waith ac y mae'n clywed ei hun yn hybu'n arw. Gofyn i KR beidio â rhoi dim newyddion amdano yn Y Faner.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Oni bai am gysylltiad personol KR â'r Faner buasai wedi ymddeol ers talm. Bwriadai roi i fyny adeg ei driniaeth lawfeddygol ond fe bwysodd G[riffith] J[ohn] W[illiams] mor daer arno i beidio fel y bu'n rhy wan i ddal wrth ei fwriad. Y mae wedi bodloni ysgrifennu bob pythefnos ac fe wna hynny am flwyddyn o leiaf heb ragor o ffwdan. Darllenodd ei stori fer ["Y Trysor", Y Faner 12 Ebrill 1950, t. 3] a'i hadolygiad ar Storïau'r Tir Du D. J. Williams [Y Faner 26 Ebrill 1950, t. 7]. Yr oedd yn "adolygiad gwir werthfawr a sownd". Mae'n ceisio gorffen ail act ffars ar gyfer gwyl ddrama Garthewin. Credai ar y dechrau mai gwaith hawdd fyddai ysgrifennu ffars - ni chafodd erioed y fath ddadrithiad. Y mae'n drybeilig anodd ac fe fyddai wedi ysgrifennu dwy drasiedi gyda llai o boen.

Results 2481 to 2492 of 2492