Showing 246 results

Archival description
Only top-level descriptions file
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Gohebiaeth Dewi Watkin Powell correspondence: Tryweryn,

  • NLW Facs 1015.
  • file
  • [2006].

Llungopïau o ohebiaeth, 1956-1957, y Barnwr Dewi Watkin Powell ac E. M. Watkin Jones, ysgrifenyddes Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, yn ymweud â’r ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, gan gynnwys rhestr o gynghorau cefnogol, cefnogwyr eraill ac eglwysi ac achosion crefyddol . = Photocopies of the correspondence, 1956-1957, of Judge Dewi Watkin Powell and E. M. Watkin Jones, secretary of the Capel Celyn Defence Committee, relating to the campaign against drowning the Tryweryn Valley, including a list of supportive councils, other supporters and churches and religious causes.

Powell, Dewi Watkin

Gradd DLitt John Elwyn,

  • NLW ex 2578.
  • file
  • 1996.

Tystysgrif Doethur mewn Llên er anrhydedd a dderbyniodd yr artist John Elwyn gan Brifysgol Cymru mewn cynulliad o'r Brifysgol, 20 Ebrill 1996, ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg. = Certificate awarded to the artist John Elwyn as Honorary Doctor of Letters at a congregation of the University of Wales held on 20 April 1996, together with an English translation.

Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis,

  • NLW ex 2560.
  • file
  • 1972.

Llythyrau oddi wrth Islwyn Ffowc Elis at y rhoddwr Huw Ceiriog Jones, 1972, yn ymwneud â threfnu i'w gwmni Gwasg yr Arad Goch argraffu a rhwymo nofel argraffedig y llenor yn seiliedig ar y gyfres deledu Tre-sarn a ddarlledwyd gan y BBC.

Elis, Islwyn Ffowc

Papurau'n ymwneud â Rhoshiwaun,

  • NLW ex 2379.
  • file
  • [1826]-[1837].

Deunydd, [1826]-[1837], yn ymwneud ag eglwys Bethesda y Bedyddwyr yn Rhoshirwaun, Aberdaron, gan gynnwys nodiadau am bregethau gan y Parch. Christmas Evans ac eraill yng Nghymanfa Pwllheli 1826 a chofrestr o'r cyfarfod dirwestol cyntaf a gynhaliwyd yn yr eglwys, 1837. = Papers, [1826]-[1837], relating to Bethesda Baptist Church, Rhoshirwaun, Aberdaron, including notes on sermons by the Rev. Christmas Evans and others at the Pwllheli singing festival and a register of the first temperance meeting held at the church, 1837.

Llythyrau E. Tegla Davies at Henry a Jane Jones Pugh

  • NLW MS 23846C.
  • file
  • 1952-1968

Oddeutu cant ac ugain o lythyrau, 1952-1967, oddi wrth y Parch. E. Tegla Davies at Henry a Jane Jones Pugh, Bryn, Bala, yn bennaf yn trafod ei ymrwymiadau pregethu, materion teuluol a'i iechyd; mae dau lythyr, 1958-1959, wedi eu cyfeirio at eu mab, Glyn (ff. 81, 87). = Some one hundred and twenty letters, 1952-1967, from the Rev. E. Tegla Davies to Henry and Jane Jones Pugh, Bryn, Bala, mainly discussing his preaching engagements, family matters and his health; two of the letters, 1958-1959, are addressed to their son, Glyn (ff. 81, 87).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Arfor Tegla Davies, 1 Mawrth 1968 (f. 201), ac Idris Foster, 4 Mai 1968 (f. 202), gwahanlith o erthygl Tegla, 'Wedi'r Ffair' (gw. Lleufer, 11 (1955), 131-137) (ff. 25-28), ymddiddan comig, 1961 (ff. 105-109), barddoniaeth, 1952-1963 (ff. 1 verso, 6, 134-135, 142, 147-150), ac anerchiad gan Arfor Tegla Davies mewn cinio i anrhydeddu ei dad, 1956 (ff. 47-48). Cynhwysa'r llythyrau gyfeiriadau at Glyn Tegai Hughes (ff. 23-51 verso passim, 171 verso, 190 verso), Gwilym O. Roberts (ff. 29-30 verso), Dr Gwennie [Williams] (ff. 31-194 passim), y Parch. Thomas Michaeliones (ff. 36-37 verso), Dilys Cadwaladr (ff. 38 verso-39), Dyddgu Owen (ff. 42 verso, 46, 59, 81 verso, 141 verso), Islwyn Ffowc Elis (ff. 48, 137 verso, 141 verso), Gwyn Erfyl (ff. 59-163 verso passim), Hywel [Heulyn] Roberts (ff. 59 verso-60), D. Tecwyn Lloyd (ff. 60 verso, 112, 141 verso), J. Mervyn Jones (f. 65 recto-verso), Daniel Owen (f. 84 verso), Llwyd o'r Bryn (ff. 111-112), Richard Rees (ff. 120, 121 verso), Sir Ifan ab Owen Edwards (ff. 122-3 verso), R. E. Griffith (f. 122 recto-verso), D. Jacob Davies (ff. 122 verso, 124 verso), y Parch. J. Eirian Davies (ff. 123 verso, 174 verso), Jennie Eirian Davies (f. 123 verso, 141 verso, 144), John Ellis Williams (f. 138 verso), Tom Ellis Jones (ff. 138 verso-40, 143 verso), Sir Ifor Williams (ff. 154-155), J. O. Williams (ff. 155 recto-verso, 163 verso), David Thomas (ff. 172 verso-3, 197 verso) ac Ehedydd Iâl (William Jones) (f. 188 verso), yn ogystal ag atgofion am Landegla (ff. 185-187, 188 verso, 196 recto-verso).

Davies, E. Tegla (Edward Tegla), 1880-1967.

Results 241 to 246 of 246