Showing 3783 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales file Welsh
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyrau at Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau at Ben Bowen, gan gynnwys llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, John Gwili Jenkins, Lizzie Bowen, Dyfnallt, E. K. Jones, Elfed, Eluned Morgan, David Bowen, David Richards a Dafydd Morganwg. Ceir llythyrau yn cydymdeimlo ar farwolaeth ei dad, a llythyrau'n sôn am farddoniaeth, am Dde Affrica ac am gyflwr iechyd Ben Bowen.

Edwards, Owen M. (Owen Morgan), 1858-1920

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tysteb, a gasglwyd gan E. K. Jones, i hyrwyddo taith Ben Bowen i Dde Affrica; papurau'n ymwneud â'i siwrne a'i arhosiad yn Kimberley, 1902, a cherdyn angladdol Ben Bowen, 20 Awst 1903; ynghyd â cherddi teyrnged iddo, 1903-38, yn cynnwys un yn llaw Dyfnallt.

Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950

Cyhoeddiadau pregethu

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr yn cofnodi pwnc, dyddiad, lleoliad a thâl am ei bregethau, 1905-1954, a llyfr yn cofnodi pwnc, dyddiad a lleoliad ei bregethau, 1907-1948, ynghyd â chyfrifon amrywiol.

Gwaith anghyhoeddedig Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau o gyfres o erthyglau, 'Gwaith Anghyhoeddedig Ben Bowen', a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul; a dau rifyn o Seren yr Ysgol Sul yn cynnwys erthyglau ar Ben Bowen gan ei frawd.

Gwaith David Bowen am Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau manwl a luniwyd gan David Bowen am ei frawd, Ben Bowen, ei deulu a'i gyfoedion. Ysgrifennwyd hwy ar gyfer yr erthyglau a'r llyfrau a gyhoeddodd David Bowen ac fe gynhwysir copi teipysgrif o ragarweiniad Dr. Thomas Jones i'r llyfr Ben Bowen yn Neheudir Affrica, gol. Myfyr Hefin (Llanelli, 1928).

Trefniadau cyhoeddi

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau David Bowen yn rhestru enwau, cyfeiriadau a'r nifer o gopïau a ofynnwyd amdanynt gan danysgrifwyr i'r llyfrau Ben Bowen yn Neheudir Affrica a Ben Bowen i'r Ieuanc, 1928-47; llythyrau gan wahanol gyhoeddwyr ynglŷn â chost tebygol cyhoeddi'r cyfrolau, 1927; llythyrau gan danysgrifwyr yn gofyn am neu'n diolch am lyfrau, 1942-8, ac anfonebau a derbyniadau, 1901-54, yn cynnwys anfoneb at David Bowen am dwy fil o gopïau o bryddest Pantycelyn, Ebrill 1901.

Sionyn a Siarli,

Teipysgrifau storïau Sionyn a Siarli, 1980-[1990], gan gynnwys addasiadau o rai o'r storïau ar gyfer y gyfres radio 'Gair yn ei Le' (1980). = Typescripts of numerous Sionyn a Siarli stories, 1980-[1990], including adaptations of some of the stories for the radio series 'Gair yn ei Le' (1980).

Rhed Alysia!,

Drafftiau llawysgrif o'r nofel Rhed Alysia!, [1990x2007]. = Manuscript drafts of the novel Rhed Alysia!, [1990x2007].

Deryn Corff,

Sgript Deryn Corff, 1998, a ysgrifennwyd gan Marion Eames i'w ddefnyddio yng nghystadleuaeth deialog agored Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Ogwr, 1998. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys copïau o sgriptiau T. James Jones ac Eigra Lewis Roberts a ddefnyddiwyd yn yr un gystadleuaeth. = A script entitled Deryn Corff, 1998, written by Marion Eames for use in the open dialogue competition at the National Eisteddfod of Wales, Bro Ogwr, 1998. The file also includes copies of scripts by T. James Jones and Eigra Lewis Roberts used in the same competition.

Sgriptiau gan eraill,

Sgriptiau gan unigolion eraill, 1971-[1980], gan gynnwys sgript The Voice Across the Valley gan John Rowe, a detholiad o The Riddle of Gipsy Quarry gan Catrin Rowe. = Scripts by other individuals, 1971-[1980], including a copy of The Voice Across the Valley by John Rowe, and an extract of The Riddle of Gipsy Quarry by Catrin Rowe.

I Hela Cnau,

Papurau'n ymwneud ag addasiad radio o nofel Marion Eames, I Hela Cnau, 1981, gan gynnwys sgriptiau o benodau 1-6 a chyfieithiad Saesneg o bennod 6. = Papers relating to the radio adaptation of the novel, I Hela Cnau, 1981, by Marion Eames, including scripts of episodes 1-6 and an English translation of episode 6.

Results 241 to 260 of 3783