Llungopïau o ohebiaeth, 1956-1957, y Barnwr Dewi Watkin Powell ac E. M. Watkin Jones, ysgrifenyddes Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, yn ymweud â’r ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, gan gynnwys rhestr o gynghorau cefnogol, cefnogwyr eraill ac eglwysi ac achosion crefyddol . = Photocopies of the correspondence, 1956-1957, of Judge Dewi Watkin Powell and E. M. Watkin Jones, secretary of the Capel Celyn Defence Committee, relating to the campaign against drowning the Tryweryn Valley, including a list of supportive councils, other supporters and churches and religious causes.
Llungopïau o lythyr, 1879, oddi wrth J. a W. James at eu teulu yn Nhalybont. Ymfudodd y pâr o Bontrhydfendigaid i Wisconsin yn 1847, ynghyd â throsiad i'r Saesneg. = Photocopies of a letter from J. and W. James, 1879, to their family in Talybont. The couple emigrated from Pontrhydfendigaid to Wisconsin in 1847, together with an English translation.
Cyfrolau llawysgrif, eitemau printiedig a llungopïau o ddeunydd yn cynnwys enghreifftiau o nodau clustiau defaid a ddefnyddir ledled Cymru, gan gynnwys cyfrol John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, gydag ymylon y tudalennau wedi’u torri ar ffurf y nodau clust. Ceir crynodeb o’r cynnwys yn y bocs cyntaf. = Manuscript volumes, printed items and photocopies containing examples of sheep earmarks used across Wales, including a volume by John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, with its pages cut in the shape of earmarks. A summary of the contents is in the first box.
Llythyrau a phapurau eraill, 1913-1918, sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â'r anghydfod rhwng E. W. Evans a Chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ynglŷn â phryniant a chyhoeddi'r Goleuad.
Llyfr o bregethau Evan Williams (1808-1890), Morfa Nefyn, a roddwyd i Greirfa Bwrdd y Genhadaeth, Coleg y Bala, gan Mrs E. W. Jones, Porthaethwy (gweddw'r Athro Bedwyr Lewis Jones).