Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Cystadlaethau amrywiol,

Llyfr taith trwy Gymru; drama fer ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg; cyfres o chwech o sgyrsiau; cywaith grŵp : paratoi papur ar lun Papur Bro; cyfansoddi dawns yn y traddodiad Morris Cymreig; llyfryn o weithgareddau mathemategol; tair erthygl ar unrhyw agwedd o fyd natur; dwy erthygl ar bynciau meddygol yn addas i'w cyhoeddi.

Rhyddiaith,

Dyddiaduron yn cofnodi treigl y tymhorau (y fedal ryddiaith); tair stori yn edrych ar un digwyddiad o dri safbwynt gwahanol; ysgrifau : 'Mynydd'; golwg ddychanol ar yr 20fed ganrif yn null un o weledigaethau Ellis Wynne; ysgrifau newyddiadurol; cyfrolau o storïau crefyddol ... i blant dan 6 oed; casgliad o eiriau a dywediadau tafodieithol o unrhyw ardal; stori fer hir; cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy'n dal i fyw yno : 'Dylanwadau' a llyfr erchwyn gwely.

Rhyddiaith,

Dwy stori fer wrthgyferbyniol i'w gilydd mewn crefft a/neu gynnwys; tair ysgrif fer gan yr un person : 'Gwanwyn'; pigion dyddiadur mis yn croniclo digwyddiadau doniol gŵr neu wraig wrth ei (g)waith; casgliad o straeon yn cyflwyno rhai o chwedlau Arthur ar gyfer plant 9 i 12 oed; portread o ardal neu bentref; nofel gyffrous neu arswyd i oedolion a chyfrol o hyd at ddeg o straeon doniol i blant cynradd.

Drama,

Addasiad, nas cyhoeddwyd, ar gyfer llwyfan, o un o nofelau Islwyn Ffowc Elis; drama fer i ferched; rhaglen lwyfan ar gyfer plant ysgolion uwchradd; gwaith ymchwil ar gyfer rhaglen ddogfen deledu ... un o enwogion bro'r Eisteddfod; sgript ar gyfer cyflwyniad dramatig fyddai'n denu plant i ddarllen llyfrau Cymraeg; trosi sgript deledu o'r Saesneg ar gyfer trosleisio; trosiad o ddrama ias a chyffro (thriller), sydd wedi ei chyfansoddi ers 1950 a throsiad o ddrama Saesneg ar gyfer gwyliau drama ieuenctid ....

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Gwythiennau'; casgliad o gerddi : 'Gwreichion'; englynion : 'Brawd'; englyion ysgafn : 'Barddas'; cywyddau gofyn : 'Sefydlu ysgol'; cywyddau coffa i John Gwilym Jones; hir a thoddeidiau : 'Bryniau'; cerddi rhydd heb fod dros 100 llinell : 'Y tir du'; dilyniant o dair telyneg : 'Creithiau'; cyfres o dribannau : 'Dyddiau'r wythnos' a baled : Trychineb Senghenydd 1913.

Results 2861 to 2880 of 2917