Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Nodiadau a gasglwyd gan KR ar gyfer "Cegin Cymru". Ceir drafft o erthygl "Cymraeg y ty" a nifer o lythyrau ...,

Nodiadau a gasglwyd gan KR ar gyfer "Cegin Cymru". Ceir drafft o erthygl "Cymraeg y ty" a nifer o lythyrau oddi wrth wragedd ledled Cymru yn amgau rhestrau o dermau ynglyn â gwaith ty. Cynhwysir geirfâu o ardaloedd: Nantgarw, Ystalyfera, Tregaron, Rhosllannerchrugog, Solfach, Henllan Amgoed, Y Bala, Penrhiw-llan, Ciliau Aeron a Phontypridd. Ymhlith y gohebwyr mae: Nans Jones, Caerdydd; Tegwen Clee Morris, Caerdydd; Dr Gwenan Jones, Llandre; Valmai Owen, Tregaron; Myfanwy J. T. Jones, Rhos; N. Shield; E[ileen] Beasley, Llanharan; Mari D. Evans, Tyddewi; Anna Percy Davies, Aberystwyth; Carolyn Roberts, Blaenau Ffestiniog; ac M. Rhiannon Jones, Cwmbrân. Darlledwyd sgwrs gan Kate Roberts ar y pwnc hwn yn y rhaglen "Merched yn Bennaf" a'i chyhoeddi yn Y Faner (7 Hydref 1965) yn dwyn y teitl "Hen Dermau Cymraeg ym Myd y Gegin". Fe'i hadargraffwyd yng nghyfrol David Jenkins (gol), Erthyglau ac Ysgrifau Llenyddol Kate Roberts (Abertawe, 1978), tt 215-17. 134 Tt.

Llyfr Nodiadau yn dwyn y teitl "Geiriau Llafar Sir Gaernarfon i Sain Ffagan", sy'n cynnwys rhestr o ddywediadau tafodieithol sir ...,

Llyfr Nodiadau yn dwyn y teitl "Geiriau Llafar Sir Gaernarfon i Sain Ffagan", sy'n cynnwys rhestr o ddywediadau tafodieithol sir Gaernarfon wedi eu cofnodi gan KR. Yn rhydd yn y gyfrol y mae llythyr oddi wrth Meredydd Evans, BBC, Caerdydd, 5 Tachwedd 1968, yn gwahodd KR i anfon chwech o'i hoff ddywediadau ato i'w trafod ar y rhaglen "Lloffa". Yng nghefn y gyfrol ceir rhestr o fudiadau merched. 6 Tt.

Nodiadau a gadwyd gan KR yn Aberdâr i ddechrau, yn ôl y cyfeiriad ar ddechrau'r gyfrol (46 Wind St.), rywbryd ...,

Nodiadau a gadwyd gan KR yn Aberdâr i ddechrau, yn ôl y cyfeiriad ar ddechrau'r gyfrol (46 Wind St.), rywbryd rhwng 1917 a 1928, hyd at aeaf 1957-8 pan fu'n cynnal dosbarth yn Wrecsam ar ran Adran Efrydiau Allanol Coleg y Gogledd Bangor. Ceir nodiadau ar: lenyddiaeth Gymraeg yr ail ganrif ar bymtheg; y nofel a'r stori fer; Gwyneth Vaughan (1852-1910); David Owen, 'Brutus' (1795-1866); W. Llewelyn Williams (1867-1922); Daniel Owen; Yr Iaith Gymraeg; Islwyn Ffowc Elis; dechrau'r Ddrama yng Nghymru; Huw Morys, Pontymeibion; Edward Morris, Perthi Llwydion; Lewis Morris; Edward Richard; ac Evan Evans, 'Ieuan Fardd'. Yn rhydd yn y gyfrol ceir toriad o erthygl gan H. E. Bates ar y stori fer o John O'London's Weekly (14 Mawrth1941), nodiadau ar "Llawenydd Llenyddiaeth" a manylion am gwrs allanol a gynhaliwyd yn Wrecsam gan KR yn ystod gaeaf 1955-6. 120 Tt.

Results 21 to 40 of 2492