Showing 163 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon file Welsh
Print preview View:

Cymdeithas Lenyddol Engedi

Yn cynnwys cofrestr o bresenoldeb yr aelodau; cofnodion am weithgareddau'r Gymdeithas; ac enghreifftiau o raglenni'r tymor, 1883-1886, gyda rheolau'r Gymdeithas. Ceir llyfr nodiadau hefyd yn cynnwys dyfyniadau o anerchiad Ellis Jones, yr ysgrifennydd, 'Adgofion am Enwogion y Ffydd yng nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd yng Nghaernarfon', 1879, a gopïwyd gan R. O. Roberts yn 1894, a'i gyflwyno i'r Eglwys yn 1927.

Cymdeithas Lenyddol Engedi, Caernarfon

'Dyddlyfr' Goleufryn

Llyfr nodiadau yn cynnwys 'dyddlyfr' y Parchedig William Richard Jones ('Goleufryn', 1840-1898), gweinidog yn Eglwys Engedi, 1894-1898, ar gyfer 1863-1865; ynghyd ag adysgrifau o'i ddyddiaduron, 1867-1898, ac adysgrifau eraill, [1853]-1877; a theyrnged iddo gan ?, [1898]. Ceir hefyd 'anerchiad cenhadol' ganddo, [1879].

Goleufryn, 1840-1898

Eiddo'r eglwys

Papurau, 1937-1990, yn trafod festri Engedi, 1940-1942; gwerthu'r Mans Bryn Beuno, 1976-1977 [a brynwyd yn 1909]; ynghyd â llythyrau'n ymdrin â gwerthu'r Tŷ Capel, 1987-1988; a phapurau, 1990, yn ymwneud â phrynu tŷ arfaethedig i'r gweinidog.

Results 21 to 40 of 163