Dangos 55 canlyniad

Disgrifiad archifol
Barddoniaeth amrywiol, eitem
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cerddi Idris Davies,

Copïau, 1947, yn llaw'r awdur, o ddwy gerdd, 'Aberystwyth' (Saesneg) a 'Cwm Rhymni' (Cymraeg), gan Idris Davies. = Autograph copies, 1947, of two poems, 'Aberystwyth' (English) and 'Cwm Rhymni' (Welsh), by Idris Davies.
Cyhoeddwyd 'Aberystwyth' yn y Western Mail, 13 Mawrth 1947, a 'Cwm Rhymni' yn The Collected Poems of Idris Davies, gol. Islwyn Jenkins (Llandysul, 1972), t. 8. Ceir y ddwy yn The Complete Poems of Idris Davies, gol. D. R. Johnston (Caerdydd, 1994), tt. 147-8, 213. = 'Aberystwyth' was first published in the Western Mail, 13 March 1947, and 'Cwm Rhymni' in The Collected Poems of Idris Davies, ed. by Islwyn Jenkins (Llandysul, 1972), p. 8. Both appear in The Complete Poems of Idris Davies, ed. by D. R. Johnston (Cardiff, 1994), pp. 147-8, 213.

Davies, Idris

Cerddi Ioan Brothen,

Llawysgrif, 1893-1896, o farddoniaeth, englynion yn bennaf, yn llaw John Jones (Ioan Brothen). = A manuscript, 1893-1896, of autograph poetry, mainly englynion, by John Jones (Ioan Brothen).
Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yn Ioan Brothen, Llinell Neu Ddwy, gol. gan John W. Jones (Blaenau Ffestiniog, 1942). = Some of the poems were published in Ioan Brothen, Llinell Neu Ddwy, ed. by John W. Jones (Blaenau Ffestiniog, 1942).

Ioan Brothen, 1868-1940.

Coffadwriaeth am y Parch. John Evans,

'Llinellau coffadwriaeth am y diweddar Barch. John Evans (I. D. Ffraid)' gan Lewis Jones, Llanddulas, 1875. = Verses in memory of the Rev. John Evans (I. D. Ffraid) by Lewis Jones, Llanddulas, 1875.

Jones, Lewis, of Llanddulas.

Cŵn Cadben Spence-Jones Pantglas,

Cân i 'Cŵn Cadben Spence-Jones Pantglas' [sef C. J. H. Spence-Jones, yn ddiweddarach Spence-Colby], ysgrifennwyd yn ôl bob tebyg gan Samuel Jones, Hafod Lom, Llanfynydd, sir Gaerfyrddin. Roedd y gerdd yn fuddugol yn Eisteddfod Llanfynydd, 1 Gorffennaf 1907. = Verses to the hounds of Captain [C. J. H.] Spence-Jones [later Spence-Colby] of Pantglas, probably written by Samuel Jones of Hafod Lom, Llanfynydd, Carmarthenshire. The poem was awarded a prize at Llanfynydd Eisteddfod, 1 July 1907.

Jones, Samuel, of Llanfynydd.

Cyfarchiadau i John Pugh, Blaenlliw,

Cerddi a negeseuon i gyfarch John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, wrth iddo ddathlu ei benblwydd yn 80 oed ar 28 Chwefror 1941. = Poems and messages sending greetings to John Pugh, Blaenlliw, Llanuwchllyn, on the occasion of his eightieth birthday on 28 February 1941.
Ceir cyfarchiadau gan G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) a Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) ymysg eraill; anfonwyd hwy i'r rhoddwr yn y lle cyntaf (gw. f. 3). = There are greetings from G. A. Edwards (f. 1), Elfed (f. 3), R. T. Jenkins (f. 6), Watkin Jones (f. 9) and Llwyd y Bryn [sic] (f. 10) amongst others; they were sent in the first place to the donor (see f. 3).

Cywydd,

Dau ffotograff golau uwch-fioled, [1940], o gopi anghyflawn o gywydd, [16 gan.], ar ddeilen rhwymo llawysgrif o Sieffre o Fynwy, Historia Regum Brittanie (Eton College MS 246 erbyn hyn, gw. Julia C. Crick, The Historia Regum Britannie of Geoffrey of Monmouth, III: A Summary Catalogue of the Manuscripts (Caergrawnt, 1989), tt. 113-4). = Two ultra-violet light photographs, [1940], of an imperfect copy of a cywydd, [16 cent.], written on the fly-leaf of a manuscript of Geoffrey of Monmouth's Historia Regum Britannie (now Eton College MS 246, see Julia C. Crick, The Historia Regum Britannie of Geoffrey of Monmouth, III: A Summary Catalogue of the Manuscripts (Cambridge, 1989), pp. 113-4).
Mae'r ddalen hefyd yn cynnwys dwy linell, mewn Lladin, mae'n debyg o waith Albertano o Brescia, De amore et dilectione Dei et proximi et aliarum rerum et de forma vite, Liber IV. Caput XIII (f. 2). = The leaf also contains two lines, in Latin, apparently from Albertano of Brescia's De amore et dilectione Dei et proximi et aliarum rerum et de forma vite, Liber IV. Caput XIII (f. 2).

Dwy allgan ar waith Ieuan Glan Geirionydd,

Copïau llawysgrif o 'Tad wrth y llyw' (mewn teyrnged i David Hughes) gan 'R. J.', ac 'Allgan ar farwolaeth Ieuan Glan Geirionydd' gan 'J. H.', [?1855], y ddau yn aralleiriadau o'r emynau 'Tad wrth y llyw' a 'Glan y Iorddonen' gan Ieuan Glan Geirionydd. = Manuscript copies of 'Tad wrth y llyw' (a tribute to David Hughes) by 'R. J.' and 'Allgan ar farwolaeth Ieuan Glan Geirionydd' by 'J. H.', [?1855], paraphrasing the hymns 'Tad wrth y llyw' and 'Glan y Iorddonen' by Ieuan Glan Geirionydd.

Dyngarwch,

Copi, 1895, o bryddest o'r enw 'Dyngarwch' gan Lewis Roderick. = A copy, 1895, of a poem in free metre entitled 'Dyngarwch' (philanthropy) by Lewis Roderick.

Roderick, Lewis, 1869-1918.

Emyn Diolch,

Copi llawysgrif 'Emyn Diolch' gan y Parch. Philip Jones, Porthcawl, [1941]. Cyhoeddwyd yr emyn yn Philip Jones, Pregethau ac Emynau, gol. gan Nantlais (Llandybie, [1948]), t. 73. = A manuscript copy of the hymn 'Emyn Diolch' by the Rev. Philip Jones, Porthcawl, [1941]. It was published in Philip Jones, Pregethau ac Emynau, ed. by Nantlais (Llandybie, [1948]), p. 73.

Jones, Philip, 1855-1945.

Englyn i Philip Thomas, Castellnedd,

Copi teipysgrif, [20 gan., canol], o englyn i Philip Thomas, Castellnedd, gan R. Williams Parry, dyddiedig 20 Awst 1924. = Typescript copy, [mid 20 cent.], of an englyn to Philip Thomas of Neath by R. Williams Parry, dated 20 August 1924.
Cyhoeddwyd yr englyn yn Y Dinesydd Cymreig, 1 Hydref 1924, t. 7; Barn, Tachwedd 1963, t. 4; a Cerddi R. Williams Parry, gol. gan Alan Llwyd (Dinbych, 1998), t. 233. = The englyn was published in Y Dinesydd Cymreig, 1 October 1924, p.7; Barn, November 1963, p. 4; and Cerddi R. Williams Parry, ed. by Alan Llwyd (Denbigh, 1998), p. 233.

Parry, Robert Williams

Englynion Eisteddfod Aberaeron,

Englynion ar amryw destunau, 1873-1875, wedi eu cyfansoddi yn bennaf ar gyfer Eisteddfod Aberaeron. = Englynion on various subjects, 1873-1875, composed mostly for competition at Aberaeron Eisteddfod.

Englynion i Dr Llugwy Owen,

'Yr Athronwr a'r Pregethwr', cyfres o wyth englyn i Robert Llugwy Owen, [?1901].= 'Yr Athronwr a'r Pregethwr', a series of eight englyns addressed to Robert Llugwy Owen, [?1901].
Ysgrifennwyd ar gefn hysbyseb ar gyfer llieiniau allor. = Written on reverse of advertisment for altar linen.

Englynion i Falmouth,

Pedair englyn i Falmouth gan 'Morwr o Aeron', [19 gan., ail ½]. = Verses to Falmouth by 'Morwr o Aeron', [19 cent., second ½].

'Morwr o Aeron'.

Englynion i Mrs Jane Rowland Roberts,

Un ymgais ar ddeg ar y testun 'Dau englyn beddargraff Mrs Jane Rowland Roberts, diweddar wraig y Parch. Wm Roberts' ar gyfer eisteddfod Cymreigyddion Blaenau Gwent, 9 Medi 1850. = Eleven attempts at composing gravestone inscriptions to Mrs Jane Rowland Roberts, late wife of the Rev. William Roberts, for the Blaenau Gwent Cymreigyddion eisteddfod, 9 September 1850.
Ymysg yr ymgeiswyr mae Robert Ellis, Sirhowy (f. 3), D. W. Jones (Dewi Glan Taf) (ff. 7-8) ac Evan Jones (Gwrwst ab Bleddyn Flaidd) (f. 9). = Amongst the entrants are Robert Ellis, Sirhowy (f. 3), D. W. Jones (Dewi Glan Taf) (ff. 7-8) and Evan Jones (Gwrwst ab Bleddyn Flaidd) (f. 9).

Englynion i W. E. Gladstone,

Chwe ymgais i gyfansoddi tri englyn ar y testun 'Y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone, A.S.' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam, 1888. = Six entries for a competition at the National Eisteddfod, Wrexham, 1888, to compose three englyns in praise of W. E. Gladstone.
Enillwyd y gystadleuaeth gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), Lerpwl (gw. Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Cofnodion Buddugol Eisteddfod Gwrecsam, 1888, gol. gan E. Vincent Evans (Lerpwl, 1889), t. 500); nid yw ei ymgais yn rhan o'r llawysgrif bresennol. = The competition was won by the Rev. J. O. Williams (Pedrog), Liverpool (see Eisteddfod Genedlaethol y Cymry, Transactions of the National Eisteddfod of Wales, Wrexham, 1888, ed. by E. Vincent Evans (Liverpool, 1889), p. 500); his entry is not part of the present manuscript.

Englynion,

Copïau, [?20 gan., cynnar], o chwe englyn i'r carchar gan Dewi Havhesp. = Copies, [?early 20 cent.], of six englyns by David Roberts (Dewi Havhesp) on the subject of prison.

Dewi Havhesp, 1831-1884

Englynion,

Dau englyn gan Evan Breece (Ieuan Cadfan) ac Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, Tachwedd 1850, yn sylwi ar helynt y byd (f. 1), ynghyd â dau englyn gan Evan Jones er cof am Evan Breece, [1855] (f. 2). = Two englyns by Evan Breece (Ieuan Cadfan) and Evan Jones (Bardd Nant), Llanerfyl, November 1850, commenting on current affairs (f. 1), together with two englyns by Evan Jones in memory of Evan Breece, [1855] (f. 2).

Breece, Evan, 1798 or 1799-1855

Gwaith John Davies, Goginan,

Dwy gerdd, o bosib yn llaw John Davies, Goginan, yn cynnwys 'Er cof anwylaf am Catherine Mary Davies, fu farw 30 : XII : 51 yn 78 mlwydd oed', [?1952], a pennill yn cychwyn 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950au]. = Two poems, possibly in the hand of John Davies, Goginan, comprising a poem in memory of Catherine Mary Davies, [?1952], and a verse beginning 'Fy hen ysgolfeistr, mae hwn yn ei feddrod', [?1950s].

Davies, John, of Goginan.

Gwlad Canaan,

Llythyr, 15 Mai 1852, oddi wrth Ebenezer Thomas (Eben Fardd) i'r Parch. E[dward] Lloyd, Treffynnon (ff. 1-2), yn cynnwys cerdd ganddo o'r enw 'Gwlad Canaan' (f. 1). = A letter, 15 May 1852, from Ebenezer Thomas (Eben Fardd) to the Rev. E[dward] Lloyd, Holywell (ff. 1-2), enclosing a copy of his poem 'Gwlad Canaan' (f. 1).
Ceir hefyd lythyr ynghylch y llawysgrif oddi wrth E. G. Millward at [J. E.] Davies, [?1950au] (f. 3). Cyhoeddwyd ffacsimili o'r gerdd ac adysgrif o'r llythyr yn Cymru, 18 (1900), 84, 98. = Also included is a letter concerning the manuscript from E. G. Millward to [J. E.] Davies, [?1950s] (f. 3). A facsimile of the poem and a transcript of the letter were published in Cymru, 18 (1900), 84, 98.

Eben Fardd, 1802-1863

Helynt Transvaal,

Llawysgrif 'Helynt Transvaal', dyddiedig Ionawr 1900, gan 'I. ap Huw', Abersoch, yn ymwneud ag Ail Ryfel y Boer. = Manuscript of 'Helynt Transvaal', dated January 1900, by 'I. ap Huw', Abersoch, concerning the Second Boer War.

I. ap Huw, of Abersoch.

Canlyniadau 21 i 40 o 55