Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry Welsh
Print preview View:

Y Tŵr,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Y Tŵr, [1978], gan gynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif; llyfrau nodiadau, yn cynnwys drafftiau bras; crynodeb Saesneg o gynnwys y ddrama; adolygiadau o'r ddrama; a braslun o'r set.

Undebaeth,

Sgript drama yn dwyn y teitlau 'Undebaeth' a 'Nid Oes Gennym Ddim i'w Golli Ond ein Cadwynau', [1966x1990].

The District Nurse,

Sgript pennod 10 ac amlinelliad o benodau 4 a 5, a ysgrifennwyd gan Gwenlyn Parry, [1980x1984], o gyfres ddrama Tony Holland a Julia Smith, The District Nurse.

Hafod Henri,

Amlinelliadau o bedair pennod gwahanol o'r drydedd gyfres o'r ddrama gomedi Hafod Henri, 1986, gan Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry.

Jones, Rhydderch, d. 1987

A Penny for your Dreams,

Drafft terfynol o'r ddrama A Penny for your Dreams, 1987, gan Gwenlyn Parry a Ken Howard, yn olrhain hanes un o arloeswyr y diwydiant ffilm, William Haggar. Ceir hefyd gopi o 'Biography of William Haggar: Actor, Showman and Pioneer of the Film Industry' gan Mrs Lily May Richards.

Ffoi,

Sgriptiau o gyfres ddrama Gwenlyn Parry, Ffoi (penodau 1-2), 1990; ynghyd â llyfr nodiadau, crynodeb o bennod 3, amlinelliad o'r gyfres a disgrifiadau o'r cymeriadau.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1968-[1991], yn cynnwys rhageiriau, 1968-1979; nodiadau a phapurau rhydd, [1970]-[1991]; erthyglau, 1978-[1982]; syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991]; sgript cyfweliad gyda Gwenlyn Parry, [1987x1991]; sgript hunan-gofiannol, [1989x1991]; adroddiad ar ffilmiau tramor, [1990x1991]; a phapurau'n ymwneud â'r Capel, [1970]-[1991].

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd,

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991], gan gynnwys amlinelliad o ddrama roedd Gwenlyn Parry yng nghanol ei hysgrifennu pan bu farw, yn dwyn y teitl Vera Lynn a'n Nhad.

Cylchgronau,

Cylchgronau, 1973-1988, gan gynnwys cyfweliadau gyda Gwenlyn Parry ac erthyglau yn ymwneud â'i waith.

Llyfr lloffion,

Llyfr lloffion, 1962-1966, gan gynnwys rhaglenni pasiantau Nadolig a Phasg Eglwys Ebeneser, Caernarfon, y bu Gwenlyn Parry yn gyfrifol am eu cynhyrchu; rhaglenni theatr nifer o'i ddramâu cynnar, megis Y Ddraenen Fach a Poen yn y Bol; a thorion o'r wasg yn ymwneud â'i waith.

Saer Doliau,

Drafftiau teipysgrif o'r ddrama Saer Doliau, [1966], gan gynnwys nodiadau a chyfarwyddiadau ar lwyfannu'r cynhyrchiad, ynghyd â braslun o'r set.

Panto,

Sgriptiau llawysgrif a theipysgrif o'r ddrama, Panto, [1986]-1992, gan gynnwys drafftiau cynnar o'r ddrama a chopi o'r drafft terfynol, [1986]; ynghyd â llungopi o ddiweddglo diwygiedig y ddrama sy'n ymddangos o fewn y fersiwn a gyhoeddwyd yn 1992.

Fo a Fe,

Sgript llawysgrif o bennod Nadolig y ddrama gomedi, Fo a Fe, [1970x1977], a ysgrifennwyd gan Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry.

Jones, Rhydderch, d. 1987

William Jones,

Sgriptiau o addasiad teledu Gwenlyn Parry o nofel T. Rowland Hughes, William Jones, penodau 2, 5, 6 a 7; ynghyd ag amlinelliad o gynnwys y gyfres, a llungopi o fersiwn Saesneg o'r nofel, [1980x1985].

Results 21 to 40 of 65