Showing 309 results

Archival description
Sub-fonds Welsh
Print preview View:

Papurau ychwanegol a fu ym meddiant Dr David Jenkins

Papurau ychwanegol T. Gwynn Jones yn cynnwys llythyrau a dderbyniwyd ganddo, 1904-1948; llythyrau oddi wrtho, 1902-1948; llythyrau teuluol, 1935-1944; llythyrau a anfonodd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1908-1926; llungopïau o'i lythyrau a gedwir ym Mhrifysgol Cymru-Bangor, 1902-1944; papurau personol, 1899-1947; a phapurau amrywiol, 1904-1985.

Y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones,

Yn y rhestr hon disgrifir y gweddill o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig. Rhifwyd yr eitemau hyn o D 1 i D 406. Ceir disgrifiadau bras o rai grwpiau yn Adroddiad Blynyddol 1947-48, t. 32; Adroddiad Blynyddol 1972-73, tt. 33, 35 a 41; Adroddiad Blynyddol 1973-74, t. 40 ac Adroddiad Blynyddol 1985-86, t. 55. Gweler hefyd Adroddiadau Blynyddol 1942-3, t. 22; 1959-60, t. 31; 1960-61, tt. 31-2; 1961-2, tt. 29-30.
Llyfryddiaeth T. Gwynn Jones: Gwynn ap Gwilym (gol.), Thomas Gwynn Jones, Cyfres y Meistri 3 (Llandybïe, 1982); W. Beynon Davies, Thomas Gwynn Jones, cyfres Writers of Wales (Caerdydd, 1970); David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973);. David Jenkins, Bro a Bywyd Thomas Gwynn Jones (Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru, 1984); D. Hywel E. Roberts (gol.), Llyfryddiaeth Thomas Gwynn Jones (Aberystwyth, 1981). Yn yr olaf y ceir y brif ffynhonnell o gyfeiriadau at weithiau TGJ.

Rhoddion Awst a Rhagfyr 1961

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst a Rhagfyr 1961. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1961-2, tt. 29-30. Trefn: Cerddi mewn llawysgrif (C 1-16); Cyfieithiadau (C 17-24); Deunydd academaidd, dramâu, cyfieithiadau ac ysgrifau etc. (C 25-37); Rhagymadroddion, gweithiau Gwyddelig ac adysgrifau (C 38-54); Amrywiol, darlithoedd ac anerchiadau (C 55-98); Adolygiadau o lyfrau (C 99-105); Barn ar draethodau MA a phapurau yn ymwneud â'i waith yn Adran y Gymraeg (C 106-120); Beirniadaethau eisteddfodol (C 121-133); Esperanto (C 134-140); Personalia ac amrywiol (C 141-161); Adysgrifau o weithiau mewn Gwyddeleg (C 162-170); Eitemau wedi'u trosglwyddo o Adran y Llyfrau. Printiedig (C 171-177).

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Rhodd Chwefror 1960

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Chwefror 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1959-60, tt. 31-2. Trefn: Gohebiaeth (A 1-1818); Papurau llenyddol amrywiol (A 1819-1857); Darlithiau ac anerchiadau (A 1858-2134); Deunydd printiedig (A 2135-2136).

Yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf

Yn y rhestr hon fe ddisgrifir yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf o bapurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), sef yr eitemau a hepgorwyd o restr Miss Norma G. Davies yn 1949, "A Schedule of Manuscripts and Correspondence presented by Dr Thomas Gwynn Jones, C.B.E.". Cyflwynwyd y casgliad gwreiddiol hwn o bapurau, llawysgrifau a gohebiaeth gan y bardd a'r ysgolhaig ei hun yn ystod 1943 a cheir disgrifiad ohonynt yn Adroddiad Blynyddol 1942-43, t. 22. Rhifwyd yr eitemau yn rhestr 1949 o G1 hyd G6892 a pharheir â'r gyfres rifau honno yma yn y rhestr hon.

Llyfrau lloffion

Llyfrau lloffion. Rhestrir yma y llyfrau lloffion sydd yn cynnwys toriadau papur gan mwyaf gydag ychydig iawn neu ddim deunydd llawysgrif. Cymysg iawn yw'r cynnwys fel arfer ond nodir llyfrau lle ceir nifer sylweddol o doriadau ynglyn â pherson neu bwnc arbennig er bod deunydd cymysg fel arfer yn y llyfrau rheini hefyd. Mae'r deunydd llawysgrif wedi ei fynegeio ac felly ni chynhwysir yma lyfrau lloffion sydd yn cynnwys deunydd llawysgrif yn unig ac sydd wedi ei mynegeio yn fanwl (dan enw person fel arfer).

Results 21 to 40 of 309