Showing 29 results

Archival description
Wales. Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Llythyrau'n ymwneud ag ysgolion meithrin,

Llythyrau at Zonia M. Bowen yn ymwneud ag ysgolion meithrin, 1969-1977, gan gynnwys rhai oddi wrth Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg yn trafod ymgyrch i agor a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg; cyfrif o gyfraniadau Merched y Wawr i'r achos, 1972-1973; cyfarwyddiadau ar sut i fynd ati i gychwyn ysgol neu gylch meithrin; ac adroddiad blynyddol a chopi o bolisi gan Mudiad Ysgolion Meithrin, 1976-1977.

Mudiad Ysgolion Meithrin.

Nodau clustiau defaid = : Sheep earmarks,

  • Mân Adnau 1626 (i & ii)
  • file
  • 1888-2004.

Cyfrolau llawysgrif, eitemau printiedig a llungopïau o ddeunydd yn cynnwys enghreifftiau o nodau clustiau defaid a ddefnyddir ledled Cymru, gan gynnwys cyfrol John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, gydag ymylon y tudalennau wedi’u torri ar ffurf y nodau clust. Ceir crynodeb o’r cynnwys yn y bocs cyntaf. = Manuscript volumes, printed items and photocopies containing examples of sheep earmarks used across Wales, including a volume by John R. Thickens, Cwmystwyth, 1922, with its pages cut in the shape of earmarks. A summary of the contents is in the first box.

Papurau Alwyn D. Rees,

  • GB 0210 ADREES
  • fonds
  • [c. 1930]-1974 /

Papurau'r cymdeithasegydd Alwyn D. Rees, 1911-1974, yn cynnwys papurau'n ymwneud â Phrifysgol Cymru, yn bennaf â Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1920au-1974, gan gynnwys papurau'n ymwneud â'r comisiwn a sefydlwyd i archwilio strwythur ffederal Prifysgol Cymru yn y 1960au; papurau ynglŷn â lle'r Gymraeg yn y Brifysgol a'r ymgyrch i sefydlu neuadd Gymraeg i fyfyrwyr yn Aberystwyth,1967-1974; papurau'n ymwneud â llyfrau, erthyglau a darlithoedd Alwyn D. Rees, 1933-1973, a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg, [c.1964]-1974; papurau'n ymwneud â Barn, 1966-1967; papurau'n ymwneud â darlledu yng Nghymru, 1938-1974; papurau'n ymwneud â'r diwydiant llechi yng Nghymru,1946; papurau'n ymwneud â gwleidyddiaeth yng Nghymru, 1911-1974; gohebiaeth gyffredinol, 1935-1974; a phapurau a gohebiaeth bersonol , 1930-1974 = Papers of the sociologist Alwyn D. Rees, 1911-1974, including papers relating to the University of Wales, mainly the University College of Wales, Aberystwyth, 1930s-1974, including papers relating to the commission established to examine the federal structure of the University of Wales in the 1960s; papers concerning the place of the Welsh language in the University and the campaign to establish a Welsh student hostel at Aberystwyth, 1967-1974; papers relating to the University of Malta, 1940-1951; Alwyn D. Rees's research papers, 1933-1973; papers relating to Alwyn D. Rees's books, articles and lectures, and further related research papers assembled by him, 1925-1974; papers relating to the Welsh language, 1952-1974, and 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg', [c. 1964]-1974; papers relating to 'Barn', 1966-1975; papers relating to broadcasting in Wales, 1938-1974; papers relating to the Welsh slate industry, 1946; papers relating to politics in Wales, 1911-1974; general correspondence, 1935-1974; and personal papers and correspondence, 1930-1974.

Rees, Alwyn D.

Papurau Cyngor Ysgolion Sul Cymru,

  • GB 0210 YSGSUL
  • fonds
  • 1915-1984 /

Papurau yn cynnwys cofnodion, 1915-1980; papurau ariannol, 1964-1973; manylion am gwisiau ysgrythurol, 1964-1966; a gohebiaeth a phapurau,1964-1985, yn cynnwys rhai yn ymwneud ag adran glyweled y cyngor, 1966-1974, cynllun creu swyddi, 1976-1980, Antur, 1964-1978, a gohebiaeth a phapurau cyffredinol, 1966-1983 = Papers including minutes, 1915-1980; financial papers, 1964-1973; details of Biblical quizzes, 1964-1966; and correspondence and papers, 1964-1985, including relating to the council's audio-visual department, 1966-1974, job creation schemes, 1976-1980, Antur, 1964-1978, and general correspondence and papers, 1966-1983.

Cyngor Ysgolion Sul.

Papurau Dafydd Guto Ifan,

  • GB 0210 DAFIFAN
  • fonds
  • 1931-1995 /

Papurau Dafydd Guto Ifan, 1931-1995, yn cynnwys torion o'r wasg, erthyglau,nodiadau a ffotograffau yn ymwneud ag awduron llyfrau Cymraeg i blant a llên gwerin. = Papers of Dafydd Guto Ifan, 1931-1995, comprising press cuttings, articles, notes and photographs relating to Welsh children's authors and folk lore.

Ifan, Dafydd Guto.

Papurau Gweithgor Deddf Newydd yr Iaith Gymraeg,

  • NLW ex 2639.
  • file
  • 1973, 1980-1990.

Papurau, 1973-1990, yn ymwneud â sefydlu gweithgor o dan gadeiryddiaeth yr Athro Dafydd Jenkins, Aberystwyth, i lunio a phwyso am Ddeddf Iaith Gymraeg newydd yn ystod y 1980au. Yr oedd y rhoddwr J. Cyril Hughes a Dr Meredydd Evans yn gweithio fel ysgrifenyddion ar y cyd. Mae'r papurau'n cynnwys cofnodion cyfarfodydd, gohebiaeth a phapurau eraill yn ymwneud â'r gweithgor. = Papers, 1973-1990, relating to establishing a working party chaired by Professor Dafydd Jenkins, Aberystwyth, to press for a new Welsh Language Act in the 1980s. The donor J. Cyril Hughes and Dr Meredydd Evans were joint secretaries. The papers include minutes of meetings, correspondence and other papers relating to the working party.

Hughes, J. Cyril.

Papurau'r Parch. Dan Jones,

  • GB 0210 DANJONES
  • fonds
  • [20 gan., canol], /

Papurau'r Parch. Dan Jones, [20 gan., canol], yn cynnwys pregethau a nodiadau'n ymwneud â phregethau. = Papers of the Rev. Dan Jones, [mid-20 cent.], comprising sermons and notes relating to sermons.

Jones, Dan, 1900-1973.

Papurau'r Parch. J. Edryd Jones,

  • GB 0210 JEDRNES
  • fonds
  • 1901-1963 /

Dros 600 o bregethau,1901-1963, y Parch. John Edryd Jones, sir Ddinbych.

Jones, J. Edryd (John Edryd), 1876-1965

Y Trwynau Coch,

  • NLW ex 2617.
  • file
  • [1978].

Papurau, [1978], yn ymwneud a'r grŵp pop Cymraeg, Y Trwynau Coch, gan gynnwys cytundeb, 1978, rhwng Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a'r grŵp i berfformio yng nghlwb nos Tito's yng Nghaerdydd a'r amodau, ac ychydig o dorion o'r Cymro yn ymwneud â'r grŵp.

Trwynau Coch (Musical group).

Results 21 to 29 of 29