Dangos 207 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfieithiadau,

'Am yr amser sydd ohoni’, cyfieithiad o’r gerdd ‘For the time being’ gan W. H. Auden, 1959/1960, a 'Y Cythreuliaid' (ei drosiad o ddrama John Whiting, The Devils) i Gwmni Drama Abertawe, 1965, heb ei chyhoeddi.

Cymdeithas Addysg y Gweithwyr,

Tri llythyr, 1964-1966, a dderbyniodd yn ymwneud â gwaith Rhanbarth Gogledd Cymru o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, ynghyd â chopi o agenda cyfarfod y rhanbarth, cofnodion, a chopi drafft o'r adroddiad blynyddol, 1966-1967.

'Cymry alltud y Gwrthddiwygiad',

Darlith a draddododd wrth Gymrodorion yr Wyddgrug, Ionawr 1950, ynghyd â manylion, 1951, am amodau'r ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain, adroddiad am ei gyfnod astudio a deunydd mewn Eidaleg gan gynnwys tocynnau darllen Llyfrgell ac Archifau'r Fatican, 1952.

Cytundebau,

Cytundebau rhyngddo â'r BBC, TWW, Teledu Harlech ac eraill, ynghyd â thri cytundeb cyhoeddi, 1987-1988.

Darlithiau,

' Welsh Medieval Poetry' a draddododd i'r Venerable English College, Via Monserrato, Rhufain, 7 Chwefror 1952, a 'The Contemporary Quandry in the Arts' i Goleg Beda, Rhufain [a gyhoeddwyd yn The Beda Review, cyfrol 7, rhif 2, Medi 1952].

Darnau anorffenedig,

Ymlith y papurau mae ‘Rhan o hunangofiant’, 1979, a ‘Rhagair i hunangofiant’, 1981, ynghyd â chyfeiriadau at ddefnydd Daniel Owen o "true to nature" yn ei weithiau.

David Davies (Dewi Eden),

Llawysgrif David Davies (Dewi Eden), Ardudwy a'i gwron sef y Cyrnol John Jones o Faesygarnedd, Cwmnantcol, ger Drws Ardudwy ym Meirion (1600-1660) , 1912 [a gyhoeddwyd yn 1914]. Y teitl gwreiddiol oedd 'Bywgraphiad neu Hanes y Cyrnol John Jones, o Faesygarnedd ...'. Ceir englynion coffa ganddo i Hedd Wyn a ddarllenwyd yn y cyfarfod coffa yn Nhrawsfynydd, 1917, a llythyr oddi wrth W. Lloyd Davies, 1927.

Davies, David, Dewi Eden, 1858-1929.

Detholiad o lenyddiaeth,

Darnau a ddewiswyd ganddo fel maes llafur ar gyfer cyrsiau llenyddiaeth yn Llandysul, Pencader a Dryslwyn, 1970-1971, gyda nodiadau esboniadol arnynt, ynghyd â thaflenni cyrsiau llenyddol eraill.

Deunydd i'r cylchgrawn,

Llythyrau, [1965x1987], 1991, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun J. Jones, Dafydd Jenkins, R. Elwyn Hughes, John [Stoddart], W. R. P. George, Gareth [Alban Davies], Elin ap Hywel, Gwyn Williams, Rhydwen Williams, cerdd gan Steve Eaves, ynghyd â chyfraniadau llenyddol a anfonwyd i Taliesin.

Alun Cilie, 1897-1975.

DLitt,

Rhaglen y seremoni ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, 14 Gorffennaf 1990, a rhaglen yn cynnwys sgript cyfarfod Cylch Llenyddol Bro Glyndŵr a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Cyfnod, y Bala, i'w longyfarch ar ei radd, Chwefror 1990. Ceir hefyd fwydlen y noson gyda chartŵn o waith E. Meirion Roberts ar y clawr.

Roberts, E. Meirion.

Dwy briodas Ann,

Proflen hir o 'Dwy briodas Ann' yn dwyn cywiriadau Saunders Lewis [a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn Taliesin, Rhagfyr 1973].

Lewis, Saunders, 1893-1985

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 1 Ionawr 1949 a 23 Rhagfyr 1958 mewn llyfr nodiadau gan gynnwys ei gyfnod yn astudio yn Yr Eidal, 1951-1952.

Canlyniadau 21 i 40 o 207