Llythyr oddi wrth Annie M. Roberts (Pen-y-groes),
- 21.
- File
- [19]15, Chwef. 12.
Part of Papurau Kate Roberts
Dymuno pen blwydd hapus i KR. Cerdyn post. Saesneg/English.
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyr oddi wrth Annie M. Roberts (Pen-y-groes),
Part of Papurau Kate Roberts
Dymuno pen blwydd hapus i KR. Cerdyn post. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Margaret A. Jones (Prifathrawes Ysgol y Merched), yng Nghonwy,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn canmol gwaith KR tra'n athrawes yng Nghonwy. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth 'Dei' [Dafydd Elis], Morpeth,
Part of Papurau Kate Roberts
Bu llythyr KR ato yn crwydro'n hir o Fae Colwyn i Gorwen ac ymlaen o'r diwedd i Ogledd Lloegr. Mae'n dysgu daearyddiaeth mewn ysgol ramadeg. 183/4 o oriau gwaith sydd ganddo - gall wneud fel y mynno am weddill yr wythnos. Mae'r cwrs Cymraeg, yn enwedig y Bardd Cwsc, o ddefnydd mawr iddo. Gall regi'n effeithiol ar y plant yn Gymraeg. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 164.
Llythyr oddi wrth 'Dei' [Dafydd Elis], Morpeth,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae diwrnod o wyliau ganddo o'r ysgol. Ceir gwyliau achlysurol ar yr esgus lleiaf yno. Mae llawer o ryddid i'r athrawon wneud fel y mynnont yn ei ysgol. Cafodd ei gyflogi am dymor ar gyflog o £40. Addawodd y prifathro geisio codi ei gyflog ac addawodd yntau aros ychydig yn rhagor yno. Mae wedi gwrthod swydd mewn ysgol breifat yn Llundain. Ni allai ddychmygu ei hun yn rhoi plant yn eu gwelyau. Mae arholiadau ar fynd yn yr ysgol. Rhydd enghreifftiau o atebion doniol a dderbyniwyd yn yr arholiadau. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., t 165.
Llythyr oddi wrth Hughie [Williams] (Cefnder i Kate Roberts), [o'r brwydro yn Fflandrys],
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am lythyr. Ymddiheuro am ysgrifennu yn Saesneg - nid yw'r sensor yn deall Cymraeg. Maent yn cysgodi mewn hen gwt drafftiog rywle yn Fflandrys ar wely gwellt. Cawsant rai dyddiau o orffwys o'r ffosydd. Mae'n deall bod brawd Kate Roberts drosodd yno yn y rhyfel. Disgrifio'r awch am dderbyn llythyrau. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Jennet Price, yn Rhyd-y-fro,
Part of Papurau Kate Roberts
Dymuniadau da am y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Cerdyn post. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Bessie Griffiths, yn Ystalyfera,
Part of Papurau Kate Roberts
Tywydd gwael. Roedd hi'n nawfed yn ei dosbarth yn ôl ei hadroddiad ysgol. Mae'r geidiau yn bwriadu gwerthu baneri ar gyfer gwlad Belg. Casglwyd pymtheg punt wrth werthu rhosynnau. Nid oes cymaint o bobl wedi mynd ar wyliau ag sy'n arferol. Mae un o'r cynddisgyblion, Trevor Nicholas, yn farw. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts [Somme, Ffrainc],
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd ei glwyfo yn ei frest a'i fraich. Bydd yn dychwelyd i Loegr o fewn yr wythnos a bydd yn cael dod adref gyda hyn. Cerdyn post.
Llythyr oddi wrth L. Hugh Cecil [Williams], yn Ffrainc,
Part of Papurau Kate Roberts
Cafodd ei glwyfo yn ei ben gan ergyd Almaenig. Nid oes angen iddi boeni na all ysgrifennu'n aml. Mae'n derbyn ei chynnig i anfon ychydig sigarets ato. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth E. LL. Griffith, yn Rhosgadfan,
Part of Papurau Kate Roberts
Ni bu'n hwylus iawn. Ateb ymholiad KR ynglyn â llestri cymun. Rhai aluminium a brynwyd ganddynt hwy. Maent yn ysgafn ac yn dal yn dda iawn. Fe'u prynwyd oddi wrth y Parch David O'Brian Owen. Da ganddo glywed bod KR yn gweithio'n galed. Mae'r rhyfel wedi codi o'r bêl droed a rhedegfeydd ceffylau a'u cyffelyb.
Llythyr oddi wrth Henry Rees, Prifathro Ysgol Ganol Ystalyfera,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn canmol gwasanaeth KR yn ei ysgol dros gyfnod o chwe thymor. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts, yn Ysbyty'r Brifysgol, Southampton,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n dal i wella. Mae'n cael codi i'r gadair am awr bob dydd. Disgrifio ei amgylchiadau yn yr ysbyty. Da ganddo glywed iddynt ddod i ben â'r gwair.
Llythyr oddi wrth William H. Jones, yn Ffrainc,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am barsel. Cyrhaeddodd y cynnwys heb dorri o gwbl. Da ganddo wybod bod Evan yn gwella. Cyfeiriadau at gydnabod. Bydd yn dychwelyd i'r ffosydd gyda hyn. Mae'n deall bod gweddïo ar eu rhan yn Rhosgadfan a Bootle.
Llythyr oddi wrth O. T. [?Hughes], ym Mala,
Part of Papurau Kate Roberts
Ymddiheuro am fod cyhyd yn ysgrifennu. Bu ei dad yn sâl iawn yn Lerpwl. Mae'n mwynhau bod yn Y Bala. E. LL. [?E Llywelyn Lewis] yw ei gydletywr. Mae'n bwriadu mynd i Gonwy wythnos i'r Sul nesaf. Mae'n pregethu ym Moriah, Caernarfon, y Sul dilynol ac yn teimlo'n bwysig iawn.
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts, yn Rhosgadfan,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae eu brawd Dafydd wedi mynd i Salonica er dydd Mawrth a'u rhieni yn ddigalon iawn o'r herwydd. Mae eu tad yn mynd i Lerpwl gan iddo gael gwaith yn y Canada Dock. Mae'n rhewi ac eira yn lluwchio. Hanes dal dau fochyn a oedd wedi dianc yn y lluwch. Hanes am ddyn a gafodd ffit ac a fu farw yn yr eira. Penillion i Will. Jones Ty'n-llwyn wrth wynebu gorfod mynd i'r Fyddin yn Wrecsam.
Llythyr oddi wrth Kate [Roberts] at H[ughie] E. Williams, yn Ffrainc,
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr a ddychwelwyd "Present Location Uncertain". Ni fu yn Llanberis yn ystod gwyliau'r Nadolig. Cafodd annwyd wrth deithio adre ar hyd reilffordd y Cambrian. Posibilrwydd ei bod am symud o Ystalyfera i ysgol ym Merthyr Tudful. Mae'n ddigalon oherwydd bod ei brawd ieuengaf sy'n ddeunaw oed ar ei ffordd i Salonica ac nid yw yn gryf iawn. Mae ei brawd arall adref ar ôl cael shrapnel yn ei ysgyfaint. Bydd yn meddwl llawer amdano yn yr oerni.
Llythyr oddi wrth O. T. [?Hughes],
Part of Papurau Kate Roberts
Bu'n pregethu ym Mhant-glas ger Y Bala a chael llythyr oddi wrth KR ar ôl dychwelyd. Rhewodd Llyn Tegid ac y mae ugeiniau o bobl yn sglefrio arno. Aeth gwr y gwesty lleol yn ei gar ar yr iâ. Aeth y car i waelod y llyn ond achubwyd ef. Nid yw wedi cael galwad eto. Mae'n bwriadu aros yno am flwyddyn arall "nes el heibio'r rhyfel".
Llythyr oddi wrth Ben T. Jones, Ysgol Sirol Ystalyfera,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn cymeradwyo Kate Roberts fel athrawes ysgol uwchradd. Mae'n canmol ei gwaith yn athrawes Gymraeg. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Y Parchedig Ben Davies, ym Mhant-teg, Ystalyfera,
Part of Papurau Kate Roberts
Anfon tystlythyr i Kate Roberts. Tystlythyr Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth David [Gwenallt Jones], ym Mhontardawe,
Part of Papurau Kate Roberts
Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.