Showing 81 results

Archival description
Papurau J. Gwyn Griffiths,
Print preview View:

Torion,

Torion o’i golofn 'Cwrs y Byd' (Y Faner), Seren Cymru, South Wales Evening Post, Western Mail, Y Ddraig Goch ac eraill gan gynnwys sylwadau ar yr Eisteddfod Genedlaethol, y fasnach lyfrau a’r ddrama yng Nghymru, [1936]-[1996], ynghyd ag adolygiadau o lyfrau a dramâu.

Torion 'Proffwydi',

Torion o 'Proffwydi'r Ganrif hon' (Seren Cymru), 1940-1941, gan nifer o awduron gan gynnwys erthyglau gan Kate Bosse Griffiths a J. Gwyn Griffiths a ysgrifennodd y rhagarweiniad i’r gyfres. Ceir llythyr oddi wrth Hywel Francis, [1990au hwyr] yn diolch iddo am fenthyg ei erthygl ar Paul Robeson.

Bosse-Griffiths, Kate, 1910-1998.

Papurau llenyddol,

Papurau llenyddol, 1948-2002, gan gynnwys llawysgrifau, teipysgrifau a phroflenni rhai o'i gyhoeddiadau, 1970-1997, erthyglau, adolygiadau, beirniadaethau a phapurau'n ymwneud â'i gyfraniadau i'r Cydymaith.

Cerddi o'r Lladin (1962),

Rhifyn o’r Llenor, Gaeaf, 1934, yn cynnwys papurau’n ymwneud â chyhoeddi’r gyfrol o drosiadau a olygwyd ganddo, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Hudson [Williams], 1954, Cynan, 1947, Mari Headley [Ellis], 1947, E. Tegla Davies, 1954, T. I. Ellis, 1947, a chyfieithiadau drafft.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

Bro a Bywyd D.J. Williams, (1983),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'i gyfrol yn y gyfres Bro a Bywyd yn 1983 gan gynnwys llythyrau, 1940-1967, oddi wrth D. J. Williams, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans yn diolch am y gyfrol ac adolygiadau hefyd. Ceir papurau hefyd yn ymwneud â D. J. Williams, Y gaseg ddu a gweithiau eraill (1970), wedi'u casglu a'u golygu gyda rhagymadrodd gan J. Gwyn Griffiths.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Cerddi Groeg clasurol (1989),

Papurau'n ymwneud â chyhoeddi'r gyfrol a olygwyd ganddo, gan gynnwys llythyr oddi wrth Ceri Davies, 1986, llythyrau oddi wrth [R.] Telfryn Pritchard, 1987, a Gareth Alban Davies, 1988, ynghyd ag adolygiad gan Ceri Davies, 1989.

Davies, Ceri.

Cath a Llygoden (1994),

Papurau'n ymwneud â pharatoi'r cyfieithiad o nofel Günter Grass, Katz und Maus, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Gwilym Ll[oyd] Edwards, y cyfieithydd, a phroflenni. J. Gwyn Griffiths oedd golygydd cyfres yr Academi o gyfieithiadau.

Edwards, Gwilym Lloyd, 1920-

Cenedlaetholdeb a'r clasuron (1997),

Papurau'n ymwneud â threfniadau Cyngres Canmlwyddiant Urdd y Graddedigion a gynhaliwyd yng Ngregynog, Mawrth 1994, gan gynnwys llythyr oddi wrth Telfryn [Pritchard], 1994, a'r ddarlith mewn teipysgrif.

Pritchard, R. Telfryn (Roger Telfryn), 1940-

Cerddi,

Cerddi mewn teipysgrif a gyhoeddwyd yn Cerddi’r Holl Eneidiau yn 1981 ac yn ddiweddarach yn Hog dy fwyell (2007), casgliad o gerddi J. Gwyn Griffiths a olygwyd gan ei fab Heini Gruffudd.

Llyfryddiaeth,

Rhestr deipysgrif o'i weithiau printiedig, 1944-1986, a'r cylchgronau a olygwyd ganddo, [1986], ynghyd â dau gytundeb cyhoeddi, 1970, 1981.

Results 21 to 40 of 81