Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth,

Awdlau: 'Dadeni'; Dilyniant o gerddi: 'Muriau'; englynion: 'Camera'; englynion ysgafn: 'Codi sgwarnog'; telynegion mewn mydr ac odl: 'Carreg ateb'; cywyddau o 18 llinell: 'Arwr'; Haicw: 'Casgliad rhwng 20 a 40 mewn nifer; salmau cyfoes (hunanddewisiad); cerddi ar batrwm un o ugeinedau Euros Bowen (hunanddewisiad); cerddi ysgafn/crafog: 'Opera sebon'; chwech o dribanau: 'Troeon trwstan'; a chasgliad o englynion a/neu benillion ar gyfer cardiau cyfarch.

Dysgwyr,

Dyddiaduron wythnos; sgyrsiau dros y ffens; llythyrau cwyno; cerddi: 'Yfory'; straeon arswyd; cywaith grŵp (y profiad o ddysgu Cymraeg); gêm fwrdd ar gyfer teuluoedd sy'n dysgu Cymraeg; paratoi cardiau fflach; a pharatoi tâp sain ar gyfer gwrando arno yn y câr.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniannau lleisiol neu offerynnol o un alaw neu gainc werin Gymraeg draddodiadol; emyn-donau; unawd piano neu delyn; darn byr i organ bib; gosodiad o salm i gôr merched; carol Nadolig; gosodiad Cymraeg o'r Magnificat a'r Nunc Dimitis ar gyfer côr cymysg SATB; symudiad byr (heb fod yn hwy na 7 munud) ar gyfer cerddorfa lawn; un symudiad ar gyfer ensemble offerynnol; Tlws y Cerddor; ffolio o waith amrywiol i gynnwys dim mwy na 5 o ddarnau (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed); a chyfansoddi cân (Adran Dinistr).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).

Rhyddiaith,

Braslun nofel, pennod agoriadol nofel, tair stori fer neu dair ysgrif (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer ar y testun: 'Tair'; cyfansoddi darn o ryddiaith yn ymateb i unrhyw ddarn o gelfyddyd; erthygl goffa; casgliad o 10 stori ar ffurf llên meicro; dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd mewn swydd neu waith arbennig; darn o ryddiaith ddychanol: 'Gweledigaeth uffern'; darn o ryddiaith greadigol: 'Y daith'; nofel i blant tua 7-9 oed (comisiynu); a dyddiadur dychmygol ysgafn i oedolion wedi'i selio ar fywyd o ddydd i ddydd mewn swydd neu waith arbennig (comisiynu).

Drama a ffilm,

Trosi drama benodol i'r Gymraeg; cyfansoddi 3 neu ragor o fonologau ... ar gyfer clyweliad neu ar gyfer cystadleuaeth Gwobr Richard Burton; adolygiad o unrhyw berfformiad gan gwmni theatr proffesiynol Cymraeg diweddar; trosi sioe gerdd benodol; a sgript drama deledu neu ffilm (Ysgoloriaeth Geraint Morris) .

Dysgwyr,

Cerdd: 'Wal' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Y sgerbwd yn y cwpwrdd'; darn o ryddiaith: 'Streic'; darn o ryddiaith: ' Fy hoff Gymro/Gymraes; cerdyn diolch; cyfres o negeseuon e-bost: 'Datrys problem; casgliad amrywiol o eitemau ar gyfer papur bro (gwaith grŵp); paratoi deunydd ar gyfer dysgwyr (stori fer ar gyfer dysgwyr); a gêm iaith ar gyfer dysgwyr.

Results 21 to 40 of 2917