Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Mae'n addo mynd i Hirwaun ar gais KR. Mae wrthi fel lladd nadroedd yn gorffen ei lyfr ar Bantycelyn. "Y mae'n bur dda, os goddefwch imi fragio! O leiaf bydd yn dipyn o sioc i'r bobl na ddarllensant Williams drwyddo erioed". Mae Saunders Lewis yn ofni ei fod yn cytuno â KR ynglyn â nofel Morris Williams. Mae'n hyderu y caiff ei chyhoeddi er mwyn iddo fynd ymlaen i gyhoeddi un arall "lle na fydd ef ei hun yn brif fater ei waith. Nofel llanc, adolescent yw hon. Rhaid mynd heibio i lencyndod cyn y galler ei drin yn null Joyce neu neb arall o'r meistriaid". Hwyrach y bydd rhaid galw pwyllgor y Blaid tua'r Pasg yn Aberystwyth. Hydera y bydd hynny'n gyfleus iddi. Mae'n teimlo fel petai "trol wedi mynd drosof a'm gadael yn fflat a sych". Mae'n bwriadu rhoi copi o'i lyfr [ar Bantycelyn] i KR ac i Prosser Rhys a dau neu dri arall pan fydd yn ymddangos. Iddynt hwy yr ysgrifennwyd ef.

Llythyr oddi wrth D. Llewelyn Jones, yn Llanidloes,

Anfon deunydd i lenwi rhifyn o'r Eurgrawn. Addo adolygiadau i'r Faner cyn bo hir. Nodi ei brysurdeb yn cynnwys beirniadu yn eisteddfod flynyddol Ysgol Uwchradd Llanidloes. Cododd y safon y llynedd pan oedd Bobi Jones a Tecwyn Jones yn athrawon yno. Stopiodd Gwasg y Brifysgol ag anfon copïau adolygu am fod y cynolygydd wedi cadw amryw heb eu trafod. Y mae hefyd yn darllen proflenni Geiriadur Prifysgol Cymru. Iechyd ei wraig. Rhyfeddu bod Yr Ebol Glas yn cael ei gyhoeddi gan Gee am 3/6. Synnu ei fod mor rhad.

Llythyr oddi wrth Pennar Davies, yn Aberhonddu,

Diolch am gymorth KR. Mae ei gweithred yn caniatáu iddo fynd i'r cynadleddau. Canmol KR am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru. Mae hi'n un o fawrion yr oes. Mae cydymdeimlad dwys a threiddgar yn un o nodweddion rhyfedd ei gwaith llenyddol. Rhyfedd oedd gweld yr un cydymdeimlad yn dod i'r amlwg yn wyneb ei anawsterau ef. Nid yw'r oes wallgof hon yn deilwng ohoni. Mae'n gorfoleddu wrth feddwl fod KR yn ysgrifennu nofel hir. Mae'n sicr y ceir trysor mawr ganddi. Gwelwyd mentro a datblygiad i fro greadigol newydd yn Stryd y Glep.

Results 41 to 60 of 2413