Dangos 2258 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Afiechyd teuluol. Gofyn am farn Carneddog ar yr englyn a'r delyneg. Sôn am Cynan yn ei ganmol a Charneddog yn cyhoeddi englyn o'i eiddo yn Creigiau'r Grug. Rhigwm doniol.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Llythyr mewn atebiad i Carneddog yn gofyn am rywbeth i'r 'Manion'. Ceir hanes ei ymweliad â'i ewythr a'r ymryson englynion rhyngddynt. Ceir barn ar farddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ac englyn gan Dewi Havhesp.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am ei hiraeth am ei wraig a llythyron Carneddog, ymholiad gan Hugh Griffith, Glandon, yr hen arfer o hel 'Menyn y Drindod', a hel calennig.

Ap Cenin (John Roberts),

Llanfairfechan. Sôn am amryw gymeriadau a digwyddiadau; casgliad o lyfrau; Ianto Soch; a rhagrith crefyddwyr. Yn amgaeedig ceir saith cerdd gan feirdd anhysbys.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Canmol Carneddog. Sôn am Robin Owen a Bob Owen. Stori am Lyn Eigian, Sam Jones, trip i Lerpwl. Ôl-nodyn yn dweud fod ei wraig wedi cael canpunt.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Problem Carneddog i gael ei arian am y cyfrolau o Cerddi Eryri. Ceir dau englyn o waith Ap Cenin a chopi o'r gân gyntaf iddo ennill arni.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Hanes afiechyd y teulu a diflastod Ap Cenin. Sôn ychydig am ei gerddi a cheir englyn o'i waith.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Diolch i Garneddog am 'gildwrn' a'i gydymdeimlad. Sôn am afiechyd y teulu. Dywed iddo anfon englyn a thelyneg i Eisteddfod Utica. Cynnwys yr englyn.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am ei dlodi, sôn am ei fam - gydag englyn coffa iddi, ei awen - ceir englyn arall ganddo i 'Fam'.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Afiechyd ei wraig. Llongyfarch Carneddog ar ennill yn Eisteddfod ?Beddgelert. Ceir hanes Robert Jones ac ambell gymeriad arall.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Hanes eisteddfod Llanfairfechan gydag englyn byrfyfyr buddugol gan Ap Cenin ac epigram o'i waith ar gyfer y dosbarth Cymraeg. Ceir hanes ei ethol ar yr UDC.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Llythyr byr yn hysbysu Carneddog fod ei ferch wedi marw. Ceir englyn iddi gan Carneddog ar y cefn yn ei lawysgrif ei hun.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Llythyr yn sôn am ei hiraeth ar ôl ei ferch yn bennaf. Dywed ei fod wedi derbyn englynion coffa gan Glan Rhyddallt ac Ap Seiriol.

Canlyniadau 41 i 60 o 2258