Dangos 238 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Norah Isaac,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cynyrchiadau llwyfan

Nodiadau, [1992], gan Norah Isaac am ei chynyrchiadau llwyfan, 1936-1992, gan gynnwys perfformiadau gan ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, ei myfyrwyr yn Y Barri a Chaerfyrddin, Cymdeithas Bro Myrddin, a Chwmni Lleisiau Llên, ynghyd â rhestr o gymeriadau y bu yn eu portreadu fel plentyn ac fel oedolyn ar y radio.

Darlithiau ac anerchiadau, 1937-95 a heb ddyddiad, a draddodwyd i gymdeithasau niferus gan gynnwys Undeb Cristnogol Myfyrwyr Prifysgolion Cymru, 1949 ...,

Darlithiau ac anerchiadau, 1937-95 a heb ddyddiad, a draddodwyd i gymdeithasau niferus gan gynnwys Undeb Cristnogol Myfyrwyr Prifysgolion Cymru, 1949; Gwyl Gerdd Dant Aberystwyth, 1953; Athrawon Brycheiniog, 1955; 'Drama in Education', Gregynog, 1956; ac anerchiad ar gais Kate Roberts i gael Ysgol Gymraeg yn Ninbych, 1958.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys Cymru'r Plant, Nadolig 1937, yn cynnwys storïau gan NI (117); rhaglen Y Machgen Gwyn i ...,

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys Cymru'r Plant, Nadolig 1937, yn cynnwys storïau gan NI (117); rhaglen Y Machgen Gwyn i, Cwmni Drama Aelwyd yr Urdd, Neuadd y Brenin, Aberystwyth, 1945, ynghyd â phenillion a gyfansoddwyd yn dilyn y perfformiad (118); taflenni printiedig amrywiol, 1947-90, yn ymwneud â'r Urdd, gan mwyaf, a thaflenni coffa (119); rhaglenni Gwyl Cymru-1958. Pasiant Hanes y Sir. NI a gyflwynodd y syniad o baratoi pasiant o hanes sir Frycheiniog (125); rhaglen Ysgol Haf Breswyl, Coleg Harlech, 1959, yn nodi darlith gan NI 'Ysgrifennu Llyfrau i Blant' (126); Bulletin (Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth), Chwefror 1964, yn cynnwys erthygl NI, 'Drama yn yr Ysgol Gynradd' (132); rhaglen Dathlu 21ain Pen Blwydd Ysgol Gymraeg Sant Ffransis Y Barri, 1972, lle y traddodwyd darlith gan NI (133); rhaglen Y Fflam Leilac, Neuadd Dewi Sant, Caerfyrddin, 1977, NI oedd y cynhyrchydd (134); rhaglen Gyl Ysgolion Sul Dosbarth Abergele a Rhuddlan, 1979, 'Myfi, Tydi, Efe' gan NI (135); Barn, Gorffennaf/Awst 1979, yn cynnwys erthygl NI, 'Neuadd Fawr-cyfyng furiau' (136); Barn, Hydref 1981, yn cynnwys adolygiad NI o nofel J. Selwyn Lloyd, Mae torch yn llosgi (Llandysul, 1981) (137); Barn, Chwefror 1983, yn cynnwys teyrnged NI i Carwyn James sef 'Y Ddau Garwyn' (138); poster Gwaed yr Uchelwyr, Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, 1985, ynghyd â thaflen gyhoeddusrwydd 'Cwmni Cofio', NI oedd y cynhyrchydd (139); Y Gwyliedydd, Rhagfyr 1987, yn cynnwys erthygl NI ar 'Y Tri Brenin o Glen' (142); a phoster yn hysbysebu darlith NI 'Y Blas Cynnar', Llyfrgell Maesteg, 1994 (144).

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys rhaglen Prawf terfynol cystadleuaeth ddrama Aelwydydd Ceredigion, 1944, NI oedd cynhyrchydd drama Aelwyd yr Urdd ...,

Deunydd printiedig amrywiol gan gynnwys rhaglen Prawf terfynol cystadleuaeth ddrama Aelwydydd Ceredigion, 1944, NI oedd cynhyrchydd drama Aelwyd yr Urdd Aberystwyth (160); Peace News, Rhagfyr 1946, a anfonwyd at NI gan George M. Ll. Davies (161); llyfryn The 30th Annual World Radio Message of the Youth of Wales gyda llofnod Gwilym Davies (162); rhaglen Cymdeithas Taliesin, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, 1979-80, yn cyfeirio at ddarlith NI ar 'ail-fyw Ddoe'; rhaglen Llynfi Valley Social Amenities Association Presentation third annual social evening, Neuadd y Dref, Maesteg, Mai 1980, yn cynnwys manylion bywgraffyddol am NI (165); taflen angladd Aneirin Talfan Davies, 1980 (166); rhaglen Cymdeithas Cymmrodorion Llandysul, 1981-82, lle traddodwyd darlith ar 'Iolo Morganwg' gan NI (168); rhaglen goffa Eisteddfod Ryngwladol yr Onllwyn, Mai 1982, yr oedd NI yn un o'r llywyddion (169); drama NI Cwpaned (Llandysul, 1982) (170); rhaglen cyflwyno Gwobr Goffa Griffith Jones, 1984, NI oedd y beirniad (172); rhaglen Cylch Llenyddol Pen Ucha Clwyd, 1984-85, gyda 'Norah Isaac yn rhoi'r Gogs yn eu lle' (174); rhaglen Dedwydd Briodas, heb ddyddiad, NI oedd y cynhyrchydd (177).

Canlyniadau 41 i 60 o 238