Dangos 89 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau David Bowen a Ben Bowen, ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Gwaith anghyhoeddedig Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys toriadau o gyfres o erthyglau, 'Gwaith Anghyhoeddedig Ben Bowen', a ymddangosodd yn Seren yr Ysgol Sul; a dau rifyn o Seren yr Ysgol Sul yn cynnwys erthyglau ar Ben Bowen gan ei frawd.

Gwaith David Bowen am Ben Bowen

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau manwl a luniwyd gan David Bowen am ei frawd, Ben Bowen, ei deulu a'i gyfoedion. Ysgrifennwyd hwy ar gyfer yr erthyglau a'r llyfrau a gyhoeddodd David Bowen ac fe gynhwysir copi teipysgrif o ragarweiniad Dr. Thomas Jones i'r llyfr Ben Bowen yn Neheudir Affrica, gol. Myfyr Hefin (Llanelli, 1928).

Ioan Emlyn

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau ar Ioan Emlyn a John Jones (Mathetes) o'r enw 'I ddau John Jones o Lannau Teifi'; llythyrau, cardiau post a thoriadau papur newydd yn ymwneud â chofgolofn Ioan Emlyn, a gohebiaeth â ŵyr Ioan Emlyn, Aneurin Gomer Emlyn Jones Fudge.

John Jones (Mathetes)

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a phapurau a grewyd gan David Bowen wrth ysgrifennu llyfr ar hanes y Parch. John Jones (Mathetes), sef Parch. J. Jones (Mathetes): ynghyd â hanes ei gyfarfod can-mlwyddiant gan gwrdd chwarter rhan uchaf Sir Gaerfyrddin, detholion o'i waith, gyda darluniau, Cyfres Cedyrn Canrif (Llanelli, c. 1921).

Llenyddiaeth Myfyr Hefin

Mae'r ffeil yn cynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith a ysgrifennodd David Bowen i 'Lith y Golygydd' y Llanelly Mercury a Seren Cymru yn bennaf.

Llyfrau nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfrau nodiadau amrywiol, rhai yn perthyn i Mrs Rhiannon Hughes, merch David Bowen. Mae un gyfrol yn cynnwys tysteb i Mrs Enid Harries, merch David Bowen, ac eraill yn cynnwys rhestr o aelodau capel Pump-Hewl, a rhestr o gyfeiriadau.

Horeb, Eglwys y Bedyddwyr (Five Roads, Wales)

Canlyniadau 41 i 60 o 89