Dangos 219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gilmor Griffiths, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cefndu,

Llawysgrif o'r alaw 'Cefndu' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Cefni,

Llungopi o gyfansoddiad 'Cefni' gan Gilmor Griffiths. Cyfansoddwyd y darn hwn er cof am Gareth Mitford.

Ceinwen,

Llungopi o'r alaw 'Ceinwen' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Ceiro,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Tryweryn' gan J. W. Llannerchymedd, i'r gainc 'Ceiro' gan Heledd Ann Hall.

Cilmeri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Carol Nadolig' gan W. Rhys Nicholas, i'r alaw 'Cilmeri' gan Nan James.

Cloch Llanerfyl,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwyn ap Nudd' gan Elfed, i'r gainc 'Cloch Llanerfyl' gan Dwynwen Jones.

Coediog,

Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.

Consêt Gwilym Bethel,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y mul a'r gwcw' gan E. T. Griffiths, i'r gainc 'Consêt Gwilym Bethel' gan Nansi Richards.

Consêt y Siri,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y Wiwer' gan T. Llew Jones i'r gainc 'Consêt y Siri' o drefniant Gaenor Hall.

Craig y pistyll,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Glofa'r Parlwr Du' gan Einion Evans, i'r alaw 'Craig y Pistyll' gan Elisabeth Jones.

Croeso'r gwanwyn,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Croeso'r Gwanwyn' gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched (S.A.), geiriau gan Morien Phillips.

Cwymp y dail,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gydag ychwanegiadau, o 'Cwymp y dail', cân unsain cyfansoddwyd gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Cymru,

Drafft gyfansoddiad unsain Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Cytgan yr Haleliwia,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r 'Cytgan yr Haleliwia' gan G. F. Handel. Copi mewn llawysgrif gyda chyfeiliant, a llungopïau ar gyfer lleisiau merched neu blant, un ohonynt gyda geiriau Saesneg.

Daeth y dydd,

Llungopi o sgôr 'Daeth y dydd', trefniant Gilmor Griffiths o garol Ffrengig, y geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones.

Canlyniadau 41 i 60 o 219