Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry Welsh
Print preview View:

Pryddestau Caradog Prichard,

Copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989], a ddefnyddiwyd gan Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn tra'n ysgrifennu'r addasiad teledu o Un Nos Ola Leuad.

Prichard, Caradog, 1904-1980

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Saer Doliau,

Drafftiau teipysgrif o'r ddrama Saer Doliau, [1966], gan gynnwys nodiadau a chyfarwyddiadau ar lwyfannu'r cynhyrchiad, ynghyd â braslun o'r set.

Sal,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Sal, 1970-1982, gan gynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'r gwaith; copi o'r drafft terfynol; cyfieithiad Saesneg o'r ddrama gan Elwyn Jones; a pheth ymchwil, gan gynnwys llythyron, yn trafod cefndir hanesyddol y gwaith.

Jones, Elwyn

Salvador,

Sgript gamera y BBC ar gyfer y ddrama Salvador, [1966x1990], a seiliwyd ar ddrama wreiddiol Huw Lloyd Edwards.

Slides

Six glazed and mounted 35mm slides showing the set of an unknown drama that takes place in a dilapidated barn. This is probably a television programme as vast quantities of lights are visible above the set.

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd,

Syniadau ar gyfer gweithiau newydd, [1985]-[1991], gan gynnwys amlinelliad o ddrama roedd Gwenlyn Parry yng nghanol ei hysgrifennu pan bu farw, yn dwyn y teitl Vera Lynn a'n Nhad.

The District Nurse,

Sgript pennod 10 ac amlinelliad o benodau 4 a 5, a ysgrifennwyd gan Gwenlyn Parry, [1980x1984], o gyfres ddrama Tony Holland a Julia Smith, The District Nurse.

The Young Mr Burton,

Copi o stori yn seiliedig ar hanes Richard Burton yn fachgen ifanc yn dwyn y teitl The Young Mr Burton, [1975x1990].

Torion o'r wasg,

Torion o'r wasg, [1978]-[1991], gan gynnwys adolygiadau o ddramâu teledu a llwyfan Gwenlyn Parry ac erthyglau amrywiol yn ymwneud â'i waith.

Tresarn,

Sgript llawysgrif o bennod 20 o'r gyfres ddrama Tresarn, 1972, gan Huw Lloyd Edwards.

Edwards, Huw Lloyd, 1916-1975.

Tŷ ar y Tywod,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Tŷ ar y Tywod, [1968]-1977, gan gynnwys drafftiau teipysgrif a chopi terfynol o'r gwaith, [1968]; copi o'r cyfieithiad Saesneg gan Rhydderch Jones a ddefnyddiwyd gan Orbit Theatre yn 1977; barn myfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, am y ddrama; amlinelliad o gynnwys y ddrama; a nodiadau llawysgrif ar sut i lwyfannu'r cynhyrchiad.

Jones, Rhydderch, d. 1987

Un Nos Ola Leuad,

Papurau, [1966]-1991, yn ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, yn cynnwys sgript radio llawysgrif Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, [1966x1980]; copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989]; awgrymiadau gan Endaf Emlyn a Gwenlyn Parry ar gyfer yr addasiad, 1989; drafftiau, [1989]-1990; copi o'r drafft terfynol, 1990; amserlen ffilmio, 1990; a deunydd cyhoeddusrwydd, 1991.

Emlyn, Endaf, 1944-

Results 41 to 60 of 65