Showing 3783 results

Archival description
file Welsh
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; darn ar gyfer TTBB addas i'w berfformio mewn cystadleuaeth; casgliad o 6 o unawdau gyda chyfeiliant piano ar gyfer plant 9-11 oed; ensemble offerynnol mewn arddull jazz ar gyfer digyblion ysgol uwchradd; ensemble lleisiol/ooferynnol ar gyfer grŵp 4-8 mewn nifer; a 6 o ganeuon, un ar gyfer pob un o'r lleisiau yn y cystadlaethau dros 25 (Tlws y cerddor).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cyfansoddi cainc 4 curiad i'r bar ag elfen 'blues' iddi; emyn-dôn i eiriau Robert Powell; cyfansoddi darn ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynau, i'w chwarae ar o leiaf 4 offeryn; cân mewn arddull sioe gerdd; cyfansoddiad gwreiddiol deniadol ar gyffer côr SA neu TB dan 19 oed; cyfansoddiad gwreiddiol ysgafn ar gyfer côr ieuenctid, fyddai'n addas i'w berfformio mewn cyngerdd poblogaidd; amrywiadau ar alaw werin Gymreig ar gyfer ensemble telynau; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer piano, addas i'w berfformio gan unigolyn ar radd 5 neu 6; Tlws y cerddor; dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol); a chyfansoddi cân (ieuenctid).

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Yfory'; casgliad o ddeg darn ar ffurf llên micro: 'Gafael'; ysgrrif yn ymwneud â byd natur; pennod gyntaf llyfr ar hanes unrhyw glwb neu gymdeithas; erthygl ar gyfer papur bro ar y thema: 'Dilyn afon' neu 'Taith trên'; portread (agored); stori ffantasi i bobol ifainc; erthygl: paratoi cinio i dri chymeriad hanesyddol neu lenyddol ...; erthygl am un o gewri chwaraeon Cymru a fyddai'n addas i'w chyhoeddi mewn cylchgrawn fel Barn neu Taliesin; cyfrol bwrdd coffi: 'Bro'; a a chystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Yr Ariannin: 'Fy mhlentyndod - hyd at 15 oed'.

Barddoniaeth,

Awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: 'Lleisiau'; casgliad o gerddi digynghanedd: 'Terfysg'; englyn: 'Castell'; englyn ysgafn: neges i'w roi ar beiriant ateb y derbynnydd; cywydd deuddeg llinell: 'Cymerau'; telyneg: 'Un nos olau leuad'; sonedau: 'Cloddiau'; englynion cildwrn: cyfres o chwe englyn - chwe chyngor ar sut i fagu plant; baled: 'Coch Bach y Bala'; cerdd rydd addas i'w llefaru megis 'Cwm Tawelwch'; cerdd dychan: 'Bancwyr'; a chyfres o chwe limrig: 'Chwe dyfais fodern'.

Dysgwyr,

Cerdd: 'Drysau' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Crwydro' (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn ystafell aros; sgript cyfweliad cwestiwn ac ateb gyda Chymro neu Gymraes enwog; llythyr serch neu lythyr mewn potel; adolygiad o lyfr Cymraeg neu raglen deledu/radio Cymraeg; llunio tudalennau ar gyfer papur bro, neu wefan ar unrhyw destun (gwaith grŵp neu unigol); a chreu pedair gêm iaith ar unrhyw lefel neu lefelau.

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Sbectol'; ysgrif: 'Canrif'; portread o gynefin neu fro; erthygl olygyddol mewn papur bro; erthygl neu erthyglau papur bro; dyddiadur; rhyddiaith greadigol ar unrhyw ffurf: 'Coch'; a chyflwyniad cryno o hanes o leiaf chwe addoldy Cymreig y Dyffryn a'r Andes ar gyfer ymwelwyr (cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin).

Dysgwyr,

Cerdd: 'Yr Arwr' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Colli' (tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn maes awyr; darn o ryddiaith: 'Y penwythnos gorau erioed'; e-bost yn bwcio unrhyw beth neu unrhyw un; adolygiad o lyfr Cymraeg ar gyfer papur bro; sgwrs trydar ar thema agored (gwaith grŵp neu unigol); a chreu cwis cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ar unrhyw ffurf (agored i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg).

Results 41 to 60 of 3783