Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.
Papurau, 1909-1993, yn cynnwys torion o'r wasg yn ymwneud â'i deulu, tystlythyrau, 'braslun o'i yrfa', sgyrsiau a ddarlledwyd ar Radio Cymru, ynghyd ag atgofion ei weddw Mrs Eileen Morley Jones o'i bywyd yn Llundain.
Cyfres o bum sgwrs a ddarlledwyd ar Radio Cymru yn 1993 yn y gyfres 'Dylanwadau'. Maent yn trafod yr 'Amgylchfyd', 'Llyfrau', 'Lleisiau’r Gorffennol', 'Digwyddiadau cyfoes' a 'Cerddoriaeth'.
Mae'r fonds yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol Capel Abergeirw, sir Feirionnydd, 1899-1940; ynghyd â llyfrau'r ysgrifennydd, 1941-1975; llyfr cofrestriad aelodau'r Capel, 1910-1917; a chofrestr aelodau Cymdeithas Ddirwestol y Capel, 1897-1928.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr cyfrifon sydd yn cofnodi casgliad misol oedolion a phlant y capel, 1899-1923. Nodir ynddo hefyd gyfrifon y trysorydd ar gyfer 1912 a chyfrifon yr eglwys, 1899-1923.
Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr y trysorydd, 1906-1940, sydd yn nodi, yn bennaf, taliadau am y Weinidogaeth. Nodir hefyd 'taliadau achlysurol' megis am yswiriant, llyfr y cyhoeddiadau a chyfraniadau at achosion arbennig, ynghyd â chyfraniadau eraill, megis ar gyfer eisteddleoedd. Ceir hefyd yn y gyfrol gofiannau ar gyfer aelodau a fu farw.
Cofysgrifau Capel Aberfan, yn cynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1892-1988; tair cyfrol yn cynnwys cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1897-1981; cyhoeddiadau Sabothol, 1917-1958; cofnodion y Blaenoriaid, 1947-1976; cofrestr genedigaethau, bedyddiadau a marwolaethau, 1964-1971; cofrestr yr Ysgol Sul, 1926-1959; a chofnodion yr Ysgol Sul, 1925-1948.
Llyfrau'r Trysorydd: 1892-1988; Llyfrau'r cyfraniadau tuag at y Weinidogaeth, 1897-1981; Cyhoeddiadau Sabothol, 1917-1958; Cofnodion y Blaenoriaid, 1948-1976 a Chofrestr Genedigaethau, Bedyddiadau a Marwolaethau, 1964-1971.