Showing 65 results

Archival description
Papurau Gwenlyn Parry Welsh
Print preview View:

Mwy Na Phapur Newydd,

Drafftiau o'r ddrama Mwy Na Phapur Newydd, pennod 7 (cyfres 2), [1990], a ysgrifennwyd gan Gwenlyn Parry; ynghyd â chyfarwyddiadau i ysgrifenwyr cyfresi 1 a 2, yn cynnwys amlinelliad o gynnwys bob pennod a disgrifiadau o rai o'r prif gymeriadau.

Drafftiau,

Drafftiau teipysgrif o addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o Un Nos Ola Leuad, [1989]-1990.

The Young Mr Burton,

Copi o stori yn seiliedig ar hanes Richard Burton yn fachgen ifanc yn dwyn y teitl The Young Mr Burton, [1975x1990].

Rhageiriau,

Rhageiriau, 1968-1980, gan gynnwys rhagair Gwenlyn Parry ar gyfer Tŷ ar y Tywod, 1968; rhageiriau Gwenlyn Parry a Rhydderch Jones ar gyfer un o gyhoeddiadau Rhydderch Jones, [1975x1980]; a rhageiriau Gwenlyn Parry a Saunders Lewis ar gyfer Y Tŵr, 1979.

Cerddi,

Cerddi, 1971-[1991], gan gynnwys dwy gerdd deyrnged i Gwenlyn Parry, ynghyd â chopi teipysgrif o benillion John Ormond, 'Ancient Monuments', wedi ei gyfeirio ato.

Slides

Six glazed and mounted 35mm slides showing the set of an unknown drama that takes place in a dilapidated barn. This is probably a television programme as vast quantities of lights are visible above the set.

Tŷ ar y Tywod,

Papurau'n ymwneud â'r ddrama, Tŷ ar y Tywod, [1968]-1977, gan gynnwys drafftiau teipysgrif a chopi terfynol o'r gwaith, [1968]; copi o'r cyfieithiad Saesneg gan Rhydderch Jones a ddefnyddiwyd gan Orbit Theatre yn 1977; barn myfyrwyr Coleg y Drindod, Caerfyrddin, am y ddrama; amlinelliad o gynnwys y ddrama; a nodiadau llawysgrif ar sut i lwyfannu'r cynhyrchiad.

Jones, Rhydderch, d. 1987

Jones 303,

Amlinelliad o gynnwys y ddrama Jones 303, [1966x1987], gan Rhydderch Jones a Gwenlyn Parry, gan gynnwys disgrifiadau o'r prif gymeriadau a'r setiau.

Jones, Rhydderch, d. 1987

Marged,

Sgriptiau o addasiad radio Gwenlyn Parry o nofel T. Glynne Davies, Marged, penodau 1-8, [1985x1990].

Dilyn y Ddraig: y Cartref,

Sgript o'r ddrama Dilyn y Ddraig: y Cartref, 1989, a chopi o'r cyfieithiad Saesneg, Dragon Trail: the Home; ynghyd â drafftiau cynnar o'r ddrama, yn dwyn y teitl gwreiddiol Dirwasgiad a Throthwy Rhyfel.

Salvador,

Sgript gamera y BBC ar gyfer y ddrama Salvador, [1966x1990], a seiliwyd ar ddrama wreiddiol Huw Lloyd Edwards.

Mwy Na Phapur Newydd,

Drafftiau o'r ddrama Mwy Na Phapur Newydd, 1989-1990, yn cynnwys drafft gyntaf pennod 1 (cyfres 1) gan Siôn Eirian, 1989; trydydd drafft pennod 2 (cyfres 2) gan Wil Roberts, 1990; ac amlinelliad o gynnwys pennod 5 (cyfres 2), 1990.

Erthyglau,

Erthyglau amrywiol yn ymwneud â gwaith Gwenlyn Parry, 1978-[1982], gan gynnwys erthygl John Roberts, 'Gwenlyn, Pozzo a Lucky', 1978; drafft o erthygl gan John Hefin yn trafod Gwenlyn Parry a sefydlu Pobol y Cwm, [1982]; ac erthyglau wedi eu casglu yn trafod y theatr yn gyffredinol.

Results 41 to 60 of 65