Showing 227 results

Archival description
Papurau Alaw Ddu (W. T. Rees)
Print preview View:

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol ...,

Anthem angladdol (Requiem) y diweddar O. Ambrose Lloyd, i gerddorfa fechan a lleisiau, a ddanfonwyd i gystadleuaeth yn eisteddfod gadeiriol Deheudir Cymru, Sulgwyn 1875, ff. 1-8 [anghyflawn]. Cynhwysir hefyd bum copi o rannau o'r anthem yn cynnwys newidiadau a chywiriadau, ff. 9-26 [gweler 140]. Ar gefn un o'r copiau, f. 21, ceir bariau cyntaf 'Gweledigaeth yr Esgyrn Sychion' wedi eu croesi allan. [gweler 137].

Cyfrol o anthemau a thros gant o emynau, wedi eu cyfansoddi o 60au i ddiwedd y 19g. Gosodwyd geiriau ar ...,

Cyfrol o anthemau a thros gant o emynau, wedi eu cyfansoddi o 60au i ddiwedd y 19g. Gosodwyd geiriau ar rai o'r emyn-donau tra'r erys eraill hebddynt ac yn ddideitl. Ceir y geiriau 'Rhai o'r tonau i'w dethol ar gyfer y Cofiant' ar glawr blaen y gyfrol. Yr anthemau a gynhwysir yw: Duw Sydd Noddfa [anghyflawn]; Par imi Glywed Gorfoledd, Salm Ll, adnodau 1 ac 8 [anghyflawn]; Yn y dechreuad oedd y Gair; Molwch yr Arglwydd, Salm CXVII; Gorphwysfa'r Saint; Deuwch Ataf Fi; Pwy Sydd Fel yr Arglwydd; Cenwch i'r Arglwydd ei Saint Ef; Mawr yw yr Arglwydd, Salm XLVIII, adnodau 1-10.

Results 41 to 60 of 227