Showing 81 results

Archival description
Papurau J. Gwyn Griffiths,
Print preview View:

Dürrenmatt,

Drafft anghyflawn o'i erthygl 'Argraffiadau o Dürrenmatt', ynghyd â chopi o'r Faner, 28 Hydref 1977, yn ei chynnwys, a'i erthygl 'Rhai o gampau Dürrenmatt' a gyhoeddwyd yn Barn, Mai 1992 fel 'Dürrenmatt y dychanwr'.

'Lle pyncid cerddi Homer',

Drafftiau llawysgrif a theipysgrif o'i erthygl a gyhoeddwyd yn Barn, Mawrth 1997, gan gynnwys llythyr oddi wrh Ceri Davies, 1996, a chopi o ddarlith John Ellis Jones, 'Lle pyncid cerddi Homer a Virgil', darlith a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn ac a gyhoeddwyd yn [1996] .

Davies, Ceri.

Ysgrifau amrywiol,

Teipysgrifau erthyglau 'Pennar Davies: more than a poeta doctus', (Triskel Two (Llandybïe, 1973)) gyda llythyr oddi wrth Pennar Davies, 'Eschatoleg T. Gwynn Jones' (Barn, 1981), 'Catwlws o Ferona' (Taliesin, 1982) ac eraill, ynghyd â rhai adolygiadau.

Davies, Pennar

Y Cydymaith,

Papurau, 1979-1996, yn bennaf yn ymwneud â pharatoi'r ail argraffiad o'r Cydymaith a gyhoeddwyd yn 1997.

Leopold Kohr,

Cofnod a luniwyd am Leopold Kohr ar gyfer yr ail argraffiad o'r Cydymaith (Caerdydd, 1997) mewn llawysgrif a theipysgrif, ynghyd â phamffled An Austrian looks at Welsh Nationalism [c. 1960] ganddo, toriad o Barn, Rhagfyr 1970, yn cynnwys ei atgofion 'Y Nadolig yn Awstria' ac ysgrifau coffa, 1994.

Cydymaith (1986),

Llythyrau, 1978-[1982], oddi wrth olygydd cynorthwyol yr Academi Gymreig yn ei wahodd i gyfrannu i'r cyfeirlyfr, ynghyd â chanllawiau i gyfranwyr.

Cydymaith (1997),

Llythyrau, [1995]-[1997], yn ymwneud â'r cyhoeddiad, ynghyd â drafftiau o'i gyfraniadau a chanllawiau gwirio a diweddaru.

Rhydwen Williams,

Toriad o’r Cymro, 1970, yn nodi y dyfarnwyd ysgoloriaeth Cyngor y Celfyddydau iddo, enwebiad ar gyfer gradd MA er anrhydedd, Y Brifysgol Agored, 1983, a Rhaglen deyrnged Barddas i'r Prifardd Rhydwen Williams (Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni 1990) a luniwyd gan J. Gwyn Griffiths.

Lewis Valentine,

Teyrnged 'Lewis Valentine fel llenor' ganddo a gyhoeddwyd yn Barn, Ebrill 1986, ynghyd â chopi drafft o ragymodrodd John Emyr (gol) i Dyddiadur Milwr (Llandysul, 1988) a llythyr oddi wrtho, 1987.

Emyr, John.

Roy Lewis,

Erthygl 'Yr Athro Roy Lewis: cywiro cofnod' [Taliesin, Haf 2000], ynghyd â thorion o'r wasg a'r Faner (13 Ionawr 1989) yn cynnwys teyrnged iddo ac adolygiad o'i nofel Cwrt y gŵr drwg, 1989.

Manion JGG,

Adolygiadau o lyfrau, sylwadau ar gynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol, llythyrau at y wasg, [1942]-[1989], ynghyd â llythyrau a thorion yn ymwneud â'r carcharor gwleidyddol John Jenkins, 1972-1973.

Results 41 to 60 of 81