Showing 59614 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Sgriptiau radio

Sgriptiau rhaglenni radio, 1957-1988, yn y cyfresi 'Ddoe yn ôl', 'Tasa' ac ' Ar fynd' (cyfres am jazz); ‘Fy nghydymaith fy hun’, 1957; rhaglen nodwedd ar Sir Drefaldwyn, 1957; Wales Today, 1967, a rhaglen nodwedd ar David Lloyd’, ynghyd â sgriptiau 'Dathlu'r trigain', i ddathlu darlledu yn Gymraeg yn 1983 a syniadau am sgriptiau, 1979-80.

Engyl Gwynfa,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Engyl Gwynfa', gan Richard Mills, Rhos, geiriau gan William Stephen Jones, Ponciau.

Llyfr cerddoriaeth,

Casgliad o garolau. Yn cynnwys 'Ym Mrenhinol Ddinas Dafydd', gan H. J. Gauntlett, geiriau gan Miss Jane Owen, Llanfairfechan; 'Tua Bethlem dref' [sic.] gan Edward Arthur; 'Pawr y defaid yn ddiogel' [Schafe können sicher weiden, gan J. S. Bach], trefniant Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan James Arnold Jones; [dalen 9-10 ar goll]; 'Iesu faban Mair' [Jester Hairston], trefniant Gilmor Griffiths, geiriau gan Vincent H. Timothy; 'Noel' gan Gilmor Griffiths, geiriau Saunders Lewis; 'Cysga'n dawel blentyn Mair' gan Gilmor Griffiths; 'Si lwli' gan D. Tawe Jones, geiriau Helena Roberts; 'Molwn, clodforwn ef', gan T. Gwynn Jones, geiriau W. J. Bowyer; 'Y Brenhinoedd', trefniant Gilmor Griffiths o alaw gan Carl August Peter Cornelius, geiriau Cymraeg gan Mairlyn Lewis; 'Cân Nadolig', trefniant ar gyfer tri llais gan Gilmor Griffiths.

Breuddwydion,

Llungopïau o sgôr 'Breuddwydion' (Dreams), trefniant ar gyfer unsain, gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan I. D. Hooson, geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y tenor Bob Roberts o Henllan.

Cwymp y dail,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopi gydag ychwanegiadau, o 'Cwymp y dail', cân unsain cyfansoddwyd gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Leslie Harries.

Y Môr mawr,

Sgôr mewn llawysgrif o gyfansoddiad Gilmor Griffiths geiriau gan Leslie Harries. Unsain gyda chyfeiliant.

Y Pren afalau,

Copïau o sgôr (anodedig) o 'Y Pren afalau', ar gyfer unawd, gan Gilmor Griffiths, geiriau gan I. D. Hooson. Perfformiwyd am y tro cyntaf gan y Soprano, Jean Gwynn, Nantglyn.

Ymadawiad Arthur,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ymadawiad Arthur', gan Gilmor Griffiths, geiriau T. Gwynn Jones. Darn adrodd i gyfeiliant telyn o bosib.

Sgriptiau

Sgriptiau'r gyfres deledu ‘Rhai yn fugeiliaid’,1962; sgript radio ‘Y gôt fawr’ a droswyd o’r Eidaleg ganddo, 1963; ‘Gwanwyn diweddar’, drama gyfres ar gyfer y teledu, 1963; a 'Bwystfil y ddaear', 1965, ynghyd â sgript 'Y silff lyfrau' yn cynnwys adolygiad o Yn ôl i Leifior, 1957 a dwy ffars 'Gŵr Mrs Jones' a 'Y Golofn danllyd'.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys ei ddogfen awdurdodi adeg Yr Arwisgo, 1969, fel newyddiadurwr i’r BBC; rhaglenni cymdeithasau y bu’n eu hannerch am farddoni yn 1957, a Chymdeithas Gymreig Sir Gaerloyw, 1982; ynghyd â thaflen ei angladd ar 14 Ebrill 1988; llythyrau cydymdeimlad i'w deulu; sgript (camera) ‘T. Glynne Davies’ sef teyrnged Vaughan Hughes iddo; llythyr, 1990, [at ei weddw], yn ymwneud â sefydlu Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T. Glynne Davies ym Mhrifysgol Caerdydd; sgript 'Teyrnged T. Glynne' gydag aelodau o'r teulu yn cymryd rhan; a llungopi o erthygl amdano 'From reporter to bard', Cambrian News, 2010 .

Beth yw'r seren dlos,

Llawysgrif a llungopi o sgôr gyda geiriau o 'Beth yw'r seren dlos?', alaw gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Aur Thys a Myrr' gan Dorothy Jones.

Results 701 to 720 of 59614