Cerdd: 'Llwybrau' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Llanw’ (tlws rhyddiaith); sgwrs o flaen y teledu; llythyr neu ebost yn canmol; adolygiad o westy neu dŷ bwyta; blog fideo (grŵp neu unigol); a pharatoi deunydd ar gyfer dysgwyr.
Cyfansoddi dawns sy'n addas i'w dawnsio mewn gorymdaith, beirniadaethau (cystadlaethau Technoleg) a phoster gwyddoniaeth (blynyddoedd 12 a 13), ynghyd â sgript a gyflwynyd ar gyfer Ysgoloriaeth Geraint Morris a beirniadaeth.
Drama hir wreiddiol; drama fer wreiddiol; sgript ar gyfer cyflwyniad llwyfan ar ffurf rhaglen deyrnged ddramatig ... Waldo Wiliams neu D. J. Williams; trosiadau o ddrama hir gan unrhyw awdur cyfoes o gyfandir America neu Ewrop a drama fer (hunan ddewisiad).
Straeon byrion ag iddynt gefndir crefyddol; chwech ysgrif bortread; rhagarweiniad i farddoniaeth gyfoes Gymraeg; detholiad o ryddiaith y pulpud oddi ar 1900; blodeugerdd o farddoniaeth Ffrainc; traethawd : 'Cyfraniad pobl Sir Benfro i fywyd Llundain' a deuddeg o ysgrifau cofiannol ar gymeriadau enwog yn hanes Cymru.
Cywyddau moliant i grefftwr; cywyddau coffa i D. J. Davies, Capel Als; englynion : 'Olew'; englynion ysgafn : 'Gwallt hir'; telynegion : 'Y gadwyn'; chwech o ddiarhebion newydd yn null Triban Morgannwg; sonedau : 'Geni'; dychangerddi : 'Y sefydliad'; cerddi cenedlagarol gyfoes; cerddi rhyddiaith : 'Cyffuriau' ac emynau ar gyfer gwasanaethau mewn ysbyty.
Cyfrol addas i blant ysgol 15-18 oed ar unrhyw ddiwydiant yng Nghymru (Gwobr Beatrice Grenfell) a chasgliad o ddywediadau cymeriadau cefn gwlad (Gwobr Llandybïe).
Emyn-dôn i eiriau’r Parchedig Denzil John; cân wreiddiol gan ddefnyddio geiriau yn ymwneud â Chaerdydd; trefnu alaw werin Gymreig ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnau; a darn gwreiddiol i ensemble lleisiol tri llais fyddai’n addas ar gyfer disgyblion oedran cynradd (CA2).
Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol: 'Porth'; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Olion’; englyn unodl union: ‘Llwybr Arfordir Cymru'; englyn ysgafn: Cawdel/Llanast’; telyneg: ‘Heddwch’; cywydd hef fod dros 24 o linellau: ‘Bae’; soned: ‘Esgidiau’; filanél: ‘Breuddwyd’; pum triban i’r synhwyrau; chwe limrig: ‘Cwynion’; cyfansoddi cerdd i’w llefaru ar lwyfan gan bobl ifanc 12-16 oed; deg cyfarchiad mewn cardiau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron; a hyd at ugain o gerddi sydd yn waith gwreiddiol a newydd gan yr awdur (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg).
Stori fer: ‘Gofod’; llên micro: Casgliad o wyth darn: ‘Gwesty’; ysgrif: ‘Trobwynt; dyddiadur dychmygol beirniad Eisteddfod; casgliad o erthyglau i bapur bro; casgliad o hyd at 30 o enwau lleoedd unrhyw ardal, pentref neu dref yng Nghymru; taith dywys i gyflwyno ardal; darn ffeithiol creadigol; adolygiad o waith creadigol sydd wedi ymddangos yn ystod yr unfed ganrif ar hugain; a dwy erthygl sy’n addas i’w cyhoeddi yn Y Casglwr.
Trosi drama benodol i’r Gymraeg; cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol; a chyfansoddi drama radio mewn unrhyw genre na chymer fwy na 30 munud i’w chynhyrchu.