Showing 70 results

Archival description
Papurau R. Tudur Jones
Print preview View:

Pynciau penodol

Ffeiliau ar bynciau penodol yn ymwneud â bywyd a gwaith R. Tudur Jones, yn cynnwys papurau amrywiol a gohebiaeth, 1950-1998. Cadwyd cynnwys y ffeiliau fel y cawsant eu trosglwyddo i’r Llyfrgell.

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978

Deunydd o ddiddordeb hanesyddol yn ymwneud â’r enwad a’r coleg, 1870-1978, a gasglwyd gan RTJ ym Mala-Bangor. Mae’r casgliad yn cynnwys englyn yn llaw Hwfa Môn, 1904; 2 lythyr oddi wrth y Parch. Idris Davies, Y Gelli, at y Prifathro John Morgan Jones, 1939; 3 llythyr, 1952-1954, oddi wrth Thomas Richards at y Parch. D. Morlais Jones, Tal-y-bont, Ceredigion yn ymwneud â dathlu 150 mlwyddiant capel Bethel (A), Tal-y-bont; llythyr J.D. Vernon Lewis at y Parch. Rhys Harries, Llandeilo, 1964 yn trafod ei emyn ‘Gwawr wedi hirnos’; llyfr nodiadau yn rhoi hanes capel Chwarelgoch, Tregarth, Bangor, 1978.

Results 61 to 70 of 70