Llythyrau amrywiol a phapurau eraill, gan gynnwys cofnodion CCB Lesotho Wales Link, Ion .; 'Developing a strategy for 2001-2006: a discussion paper', Mawrth; ymweliad gan Lebohang Ramohlanka, comisiynydd uchel Lesotho i'r DU, i Gynulliad Cymru, y diplomydd benywaidd cyntaf a'r diplomydd cyntaf o'r hemisffer deheuol i annerch y Cynulliad, gan gynnwys y bwriad i sefydlu grŵp hollbleidiol Lesotho yn y Cynulliad, Mawrth; araith gyllideb Kelebone Maope i senedd Lesotho, Ebrill; taith ymweliad pennaeth ysfol i Gymru, Ebrill-Mai; cyswllt arfaethedig a gefeillio rhwng cynghorau Maseru a Chaerdydd, Ebrill-Tach., gan gynnwys copi o adroddiad i bwyllgor polisi Cyngor Dinas Caerdydd yn argymell cyswllt ym mis Chw. 1990; penodi Carl Clowes fel conswl anrhydeddus ar gyfer Lesotho i Gymru, Tach.; rhestr o gonsolau anrhydeddus yng Nghymru, Tach.; a chopi (ansawdd gwael) o dystysgrif Robyn R. Murray fel consol anrhydeddus ar gyfer Mongolia i'r Alban, [d.d.].