Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Areithiau, papurau cynhadledd a gwaith Cynulliad

Areithiau gan Ieuan Wyn Jones, trafodaethau ar bolisiau Plaid Cymru gyda'r Gwasanaeth Sifil cyn etholiadau 2007, trefniadau a digwyddiadau ymgyrch etholiad y Cynulliad, gohebiaeth a chwestiynau ar ddatblygu economaidd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, datblygu maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2007, taith gerdded Ieuan Wyn Jones trwy Gymru ac anghytundeb rhwng Dafydd Elis Thomas fel Llywydd y Cynulliad a John Marek, Dirprwy Lywydd.

Eirian Llwyd

Deunydd am Eirian Llwyd yn dilyn ei marwolaeth gan gynwwys copiau o gylchgronnau gyda chofiannau iddi ac erthyglau am y cronfa a sefydlwyd er cof amdani a thaith cerdded Ieuan Wyn Jones ar hyd Clawdd Offa.

Gohebiaeth a gwaith mewnol Plaid Cymru

Papurau amrywiol gan gynnwys copi o Hansard 20 Hydref 1996 lle mae cwestiwn ar wledydd yn cael annibynniaeth o Brydain, nodiadau, papur y Ceidwadwyr ar gryfhau'r Deyrnas Unedig, Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a chopi o ariath Nelson Mandela yn y Senedd adeg ei ymweliad a Phrydain.

Drafft mesur datganoli Gymru

Copi o fesur drafft a gyflwynwyd i Senedd y DG ar 10 Rhagfyr 1996 yn sefydlu Senedd i Gymru gyda chefnogaeth Aelodau Seneddol Llafur, Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol ynghyd a chopi o Hansard a llythyr at Ieuan Wyn Jones nad yw'r berthnasol i mesur.

Papurau gwleidyddol amrywiol

Papurau o ddigwyddiad y Nuffield Trust ar rol y wladwriaeth ac iechyd ynglyn yn 2004, copi o araith Ron Davies ar ddatganoli, gerdyn diolch gan Ann Williams yn dilyn farwolaeth ei gwr Phil Williams a chopi o llw teyrngarwch Ieuan Wyn Jones yn dilyn etholiad 2003.

Taflenni wybodaeth yn targedi Keith Best

Copiau o erthyglau am Keith Best, Conservative MP for Ynys Mon, yn defnyddio enwau gwahanol i brynu mwy o gyfranddaliadau nag oed hawl iddo brynu wrth i lywodraeth Margaret Thatcher breifateiddio British Telecom, ynghyd a gwybodaeth a pholisiau ar nifer o bynciau.

Etholiad Cyffredinol 1987

Papurau amrywiol yn ymwneud ag Etholiad Cyffredinol 1987 yn etholaeth Ynys Mon gan gynnwys erthyglau, taflenni a phosteri, dyddiadur apwyntiadau, cerdd gan Ann Vaughan a threfniadau mewnol yr ymgyrch.

Pwyllgor Rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd, ynni a thrafnidiaeth

Papurau yn ywmneud a chytundeb rhwng Plaid Cymru a llywodraeth John Major i'w cefnogi ar bleidlais ar Gytundeb Maastricht ac addewidion y llywodraeth ar gynrychiolaeth ar Bwyllgor Rhanbarthau'r Undeb Ewropeaidd, corff adrodd yn ol, trefniadau grantiau Interreg a byddsoddiadau ym mhorthladdoedd Caergybi ac Abergwaun.

Results 61 to 80 of 45762