Showing 207 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Print preview View:

Llythyrau A-L,

Llythyrau, [1944]-[1957]. Ymhlith y gohebwyr mae Glyn Ashton, Hugh Bevan, H. I. Bell, John Cecil-Williams (2), Charles L. H. Duchemin, Catrin Daniel (5), Cassie Davies (2), Eic [Davies] (2), Clifford Evans, Huw T. Edwards, Islwyn Ffowc Elis (2), Raymond [Edwards], Tom [Ellis] (4), Mered[ydd] [Evans] (5), Hugh Griffith, Harri Gwynn (2), Gildas [Jaffrennou] (30), John [Gwilym Jones] (4), Gwilym R. [Jones], Gwyn [Erfyl] (6), Frank [Price Jones], Thomas Jones (3), J. Ll[oyd]-Jones (2), a C. S. Lewis.

Ashton, Glyn M.

Llythyrau M-T,

Llythyrau, [1938]-[1957]. Ymhlith y gohebwyr mae Meuryn, Dyddgu Owen, Ivor [Owen], Llew Owain, Iorwerth P[eate] (2), T[om] P[arry] (9), T. H. Parry-Williams (3), J[ohn] C[owper] Powys, R. Williams Parry, Kate Roberts (3), Keidrych Rhys, Henry E. G. Rope (3), Melville Richards (2), Enid [Pierce Roberts], [J.] [E.] Caerwyn [Williams], G. J. Williams (3), Alun Llywelyn-Williams, R. O. F. Wynne (7), Wynn Wheldon (6), W. D. [Williams], Ifor Williams, David Thomas (Lleufer) (2), Joseph Thorp, a Taldir.

Meuryn, 1880-1967.

Llythyrau A-J,

Llythyrau, [1978]-1992. Ymhlith y gohebwyr mae Geraint Talfan Davies, Aled [Lloyd Davies] (2), Rhian Davies (4), W. Beynon Davies, Islwyn [Ffowc Elis], Hywel [Teifi Edwards] (3), R. Alun Evans, Eirwen Gwynn (3), [Meredydd Evans] (4), [R.] Geraint [Gruffydd], [J.] Gwyn [Griffiths], Robin Gwyndaf, Bobi Jones, Gwerfyl Pierce Jones (2), Bedwyr L[ewis] Jones (3), Nesta [Wyn Jones] (7), Gildas Jaffrennou (2) a Branwen [Jarvis].

Davies, Geraint Talfan.

Dyddiaduron,

Dyddiaduron, 1931-1992. Mae iddynt le pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif gan fod Tecwyn Lloyd yn trafod gwaith llenorion eraill ac yn feirniad llenyddol a sylwedydd craff hefyd. Nid ydynt yn ddyddiaduron yn yr ystyr draddodiadol gan ei fod yn llunio’r cofnodion yn achlysurol gan edrych nôl ar ddigwyddiadau. Ceir hefyd sylwadau ganddo ar nifer o unigolion amlwg yn y byd llenyddol a chyhoeddus yng Nghymru.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 24 Hydref 1938 a 11 Chwefror 1941 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys cofnodion achlysurol rhwng 3 Ebrill 1941 a 30 Rhagfyr 1948 mewn llyfr nodiadau.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 1 Ionawr 1949 a 23 Rhagfyr 1958 mewn llyfr nodiadau gan gynnwys ei gyfnod yn astudio yn Yr Eidal, 1951-1952.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 30 Rhagfyr 1958 a 29 Awst 1963 mewn llyfr cofnodion. Ceir llythyr oddi wrth T. E. Nicholas, 1962, yn rhydd yn y gyfrol a thorion o'r wasg pan ddyfarnwyd MA iddo yn 1961.

Nicholas, T. E. (Thomas Evan)

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 11 Medi 1963 a 13 Gorffennaf 1968 mewn llyfr cofnodion gan gynnwys copi o raglen y ddrama 'Y Cythreuliaid' a droswyd ganddo, 1965.

Dyddiadur,

Yn cynnwys sylwadau achlysurol rhwng 14 Gorffennaf 1968 a 6 Ionawr 1992 mewn llyfr cofnodion.

Personalia,

Papurau, [1906]-1992, yn adlewyrchu'i ddiddordeb mewn hanes teulu, ynghyd â thystysgrifau teuluol, adroddiadau ysgol a phapurau'n ymwneud â'i radd Doethur mewn Llenyddiaeth, 1990.

Hanes teulu,

Ymchwil achyddol 'Llinach Llwydiaid Defeity', ynghyd â llythyrau oddi wrth berthnasau yn yr Unol Daleithiau, ac oddi wrth Nesta Wyn Jones; llungopi o ewyllys Siôn Llwyd, Cwmpenanner, 1690, ac adysgrif ohoni; astudiaeth 'Dyriau Diwiol o waith Sion Llwyd (bu f: 1696) Tymawr, Cwmpennanner'; llyfr rhifyddeg ei dad John Lloyd, 1911-1912, a'i dystysgrif priodas, 1913; ynghyd â cherdd goffa brintiedig i Maggie Lloyd [modryb Tecwyn Lloyd], [1906].

Jones, Nesta Wyn.

Llyfr lloffion,

Llyfr lloffion yn cynnwys teyrngedau a cherddi coffa i Llwyd o’r Bryn, 1962; taflen cyfarfod dadorchuddio tabled goffa iddo yn Ysgol y Sarnau, 1968; torion am foddi Tryweryn, 1964-1965; a thorion eraill.

DLitt,

Rhaglen y seremoni ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, 14 Gorffennaf 1990, a rhaglen yn cynnwys sgript cyfarfod Cylch Llenyddol Bro Glyndŵr a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Cyfnod, y Bala, i'w longyfarch ar ei radd, Chwefror 1990. Ceir hefyd fwydlen y noson gyda chartŵn o waith E. Meirion Roberts ar y clawr.

Roberts, E. Meirion.

Results 61 to 80 of 207