Showing 81 results

Archival description
Papurau J. Gwyn Griffiths,
Print preview View:

Beirniadaethau eisteddfod,

Beirniadaethau ar y fedal ryddiaith, [Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952], y soned yn Eisteddfod Genedlaethol y Fflint, 1969, ynghyd â llythyr oddi wrth ei gyd-feirniad J. Tysul Jones, y soned arbrofol yn [Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1970] a'r bryddest yn Eisteddfod Genedlaethol Hwlffordd, 1972, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ei gyd-feirniaid Haydn Lewis a Bobi Jones. Ceir hefyd ei feirniadaeth ar y cyfieithu o'r Lladin i'r Gymraeg, Eisteddfod Ryngolegol Abertawe, 1984.

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Storïau Cadwgan,

Llungopïau o storïau gan aelodau'r Cylch a gyhoeddwyd eisoes, ynghyd â llythyrau oddi wrth Gareth Alban Davies, 1979, yn ymwneud â'r gyfrol arfaethedig.

Davies, Gareth Alban.

Cyfieithiadau,

Trosiad T. Hudson-Williams o Athaliah gan Jean Racine, [1948], ynghyd â rhagymadrodd a gyhoeddwyd yn Y Genhinen, 1926, a llythyr oddi wrtho, 1948; ei drosiad o Storïau Erben, 1954, ac o Storïau Tolstoi, 1955; a chyfieithiad T. P. Williams o Barabbas gan Pär Lagerkvist, 1975.

Hudson-Williams, T. (Thomas), 1873-1961.

Papurau J. Gwyn Griffiths,

  • GB 0210 JGWYNG
  • fonds
  • 1926, 1933-2001 /

Papurau personol, proffesiynol a llenyddol J. Gwyn Griffiths, 1926-2001, gan gynnwys llythyrau oddi wrth gyfeillion, ysgolheigion a llenorion. Ceir papurau'n ymwneud â'i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac fel adolygydd llyfrau, ynghyd â rhai o bapurau ei wraig Kate Bosse-Griffiths a'i frawd D. R. Griffith.

Griffiths, John Gwyn.

Llythyrau at y wasg,

Teipysgrifau gan mwyaf o lythyrau at olygyddion Y Cymro, Y Faner, Western Mail, Guardian ac eraill, ynghyd â rhai torion o'r wasg.

Etholiadau,

Llythyrau at y wasg a ysgrifennwyd ganddo fel Swyddog y Wasg, Plaid Cymru, a thorion (Chwefror 1974) o'r South Wales Evening Post yn bennaf, 1973-1974, yn ymwneud ag etholaeth Gorllewin Abertawe yn y cyfnod yn arwain at Etholiad Cyffredinol 1974.

Cenedlaetholdeb a'r clasuron (1997),

Papurau'n ymwneud â threfniadau Cyngres Canmlwyddiant Urdd y Graddedigion a gynhaliwyd yng Ngregynog, Mawrth 1994, gan gynnwys llythyr oddi wrth Telfryn [Pritchard], 1994, a'r ddarlith mewn teipysgrif.

Pritchard, R. Telfryn (Roger Telfryn), 1940-

Cydymaith (1986),

Llythyrau, 1978-[1982], oddi wrth olygydd cynorthwyol yr Academi Gymreig yn ei wahodd i gyfrannu i'r cyfeirlyfr, ynghyd â chanllawiau i gyfranwyr.

Teyrngedau,

Teyrngedau i goffáu Trebor Lloyd Evans, 1979, ar gyfer Wilia [papur Cymraeg misol Abertawe], John Griffiths, 1980, Saunders Lewis, 1985, J. Henry Jones, 1985, Chris Zaremba, Y Faner, Mawrth 1990, Pennar Davies [cyhoeddwyd yn Taliesin, Gwanwyn, 1997], 'Cyfarch yr Athro W. D. Davies', [1984] ac i'w frawd Gwilym Griffiths, 2002.

Sgriptiau radio,

Sgwrs yn y gyfres 'Y Silff Lyfrau', 1945, 'Bedd Sant Pedr', [1956] a 'Y daith i lan y môr' gan Roy Lewis a addaswyd gan J. Gwyn Griffiths, 1965.

Lewis, Roy, 1922-1988.

Results 61 to 80 of 81