Dangos 402 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres / Series
Rhagolwg argraffu Gweld:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon (A-DEB-31),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gallai'r ffeiliau hyn gynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, deunyddiau printiedig a gohebiaeth.
Mae cylch gwaith Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon yn cynnwys: Y celfyddydau, amgueddfeydd, henebion a llyfrgelloedd, ieithoedd Cymru, y cyfryngau a darlledu, chwaraeon a hamdden a materion loteri. Mae hefyd yn gyfrifol am orolwg pum corff cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad (CCNC) a nifer o gyrff eraill: Cyngor Celfyddydau Cymru; Amgueddfa Cymru - National Museum Wales; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Bwrdd yr Iaith Gymraeg; Cyngor Chwaraeon Cymru a CCNC gweithredol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae'r cyrff eraill yn cynnwys Cyngor Llyfrau Cymru; Cadw (Gwnaed yn un o is-adrannau Llywodraeth y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2005); CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (Sefydlwyd fel is-adran newydd yn Llywodraeth Cynulliad Cymru ar 1 Ebrill 2004). Mae hefyd dau CCNC cynghorol: Y Bwrdd Henebion a hefyd Y Cyngor Adeiladau Hanesyddol.

Pwyllgor Deddfau (A-DEB-09),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau ac Offerynnau Statudol.
Swyddogaeth y Pwyllgor Deddfau oedd gwneud yn siwr nad oedd yr is-ddeddfwriaeth a ddaeth gerbron y Cynulliad yn ddiffygiol ac y cydymffurfiwyd ag unrhyw ofynion perthnasol.

Pwyllgor Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth (A-DEB-29),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd cylchwaith y Gweinidogion yn cynnwys arloesi a menter; polisi diwydiannol a chymorth busnes; mewnfuddsoddi; hyrwyddo cwmnïau cynhenid a datblygu rhanbarthol; trafnidiaeth; ynni; twristiaeth; cyfrifoldeb strategol am gydgysylltu TGCh; a'r Cronfeydd Strwythurol.

Pwyllgor Cyfle Cyfartal (A-DEB-13),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Diben y Pwyllgor Cyfle Cyfartal oedd sicrhau bod gan y Cynulliad drefniadau effeithiol i hyrwyddo'r egwyddor o gyfle cyfartal i bob person wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau a chynnal ei fusnes. Cynigwyd gwahoddiad sefydlog i'r Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, y Comisiwn Hawliau Anabledd, Stonewall Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor fel cynghorwyr.

Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (A-DEB-28),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd cylchwaith y Gweinidogion yn ymwneud â rhaglen y llywodraeth i adfywio cymunedau Cymru, yn enwedig y rheini sy'n dioddef yr anfanteision mwyaf. Roedd yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf; mentrau gwrth-dlodi; yr economi gymdeithasol; y sector gwirfoddol; diogelwch cymunedol a chysylltiadau â'r heddlu; y gwasanaeth tân; camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; a cyfiawnder ieuenctid a thai.

Pwyllgor Archwilio (A-DEB-08),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Mae'r Pwyllgor Archwilio yn sicrhau bod gwariant y Cynulliad yn cael ei archwilio'n briodol ac yn drylwyr a bod y Cynulliad a chyrff cyhoeddus eraill yn glynu wrth y safonau uchaf posib wrth reoli eu materion ariannol.

Pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus (A-DEB-36),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd ystyried tystiolaeth gyfredol ar faterion perthnasol, gan gynnwys y peryglon i iechyd o fwg tybaco yn yr amgylchedd a’r effaith ar yr economi o gyfyngu ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. I adolygu’r datblygiadau yn y DU ac Iwerddon sy’n ymwneud â chyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus (gan gynnwys y trafodaethau ar Fesurau Aelod Preifat y Farwnes Finlay a’r Arglwydd Faulkner; yr ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu yn y gwaith ac mewn mannau cyhoeddu,; canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a’r profiad o roi’r gwaharddiad ar ysmygu yn y gweithle ar waith yn Iwerddon). Ystyried y profiadau mewn gwledydd eraill lle mae gwaharddiad wedi’i gyflwyno; a rhoi adroddiad ar ei gasgliadau i’r Cynulliad erbyn 25 Mai 2005.

Pwyllgor ar y Papur Gwyn - Trefn Lywodraethu Well i Gymru (A-DEB-43),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar ddyfodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trefn Lywodraethu Well i Gymru) ar 15 Mehefin 2005. Mae'n cynnig newidiadau i strwythur y Cynulliad, ei bwerau deddfwriaethol a'i drefniadau etholiadol. Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw ystyried y cynigion a nodwyd yn y Papur Gwyn i’r graddau eu bod yn berthnasol i strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig; Cymryd tystiolaeth gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb uniongyrchol yn strwythur newydd arfaethedig y Cynulliad a’i bwerau deddfwriaethol arfaethedig.

Canlyniadau 61 i 80 o 402