- T2/27
- File
- [1960au]
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'The unreal and the real'.
9559 results with digital objects Show results with digital objects
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'The unreal and the real'.
Tri llyfr lloffion, yn cynnwys llythyrau at T. Ifor Rees, toriadau papur newydd, rhaglenni ac effemera amrywiol.
Breintlythyrau a dogfennau swyddogol
Mae'r bocs yn cynnwys casgliad o Freintlythyrau [Letters patent], tystysgrifau a llythyrau cymeradwyaeth T. Ifor Rees sy'n cwmpasu ei yrfa ddiplomyddol, sy'n cynnwys ei benodiad cyntaf fel Is-gonswl Feneswela yn 1914 hyd at ei benodiad yn Llysgennad yn La Paz yn 1947.
Sgrôl Federación Sionista De Chile o Meguilath Ester [Llyfr Esther], wedi'i ysgrifennu yn yr Hebraeg a'r Sbaeneg, [1943], ynghyd â llythyr yn cyflwyno'r sgrôl i T. Ifor Rees oddi wrth Natan Bistritzky, Jerwsalem, Hydref 1944.
Tystlythyrau a llythyrau penodi
Effemera personol T. Ifor Rees, yn cynnwys trwyddedau teithio (passports); llyfrau cyfeiriadau; tystysgrif aelodaeth The National Geographic Society (1917); tystysgrif diploma oddi wrth Sociedad Geografica Americana Gran Concurso Fotografico (1941); a chalendr ar gyfer 1946 a ddefnyddiwyd fel dyddlyfr ar gyfer mis Mai. Ceir hefyd cywydd gan Dewi Morgan, Aberystwyth ar achlysur priodas T. Ifor Rees ac Elizabeth Phillips (1918).
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o stori gan Evan T. Griffiths 'Yr estron'.
Copi llawysgrif o 'Y Ffôadur (darn o hunan-gofiant o ddechrau'r ganrif o'r blaen)' gydag enw D. J. Davies wedi'i nodi ar frig y dudalen gyntaf.
Amlen wreiddiol yn cynnwys drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Y parc llafur (= Y cae yd)' gan Dr T. J. Jenkin, ynghyd â drafft o 'Y Twrci' gan T. Ifor Rees.
Papurau personol a phroffesiynol
Llyfrau ysgrifennu T. Ifor Rees fel disgybl yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth a myfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, sy'n cynnwys nodiadau ar gyfer Cymraeg, Lladin, Groeg, Hanes, Ffiloleg ac Athroniaeth. Ceir hefyd papurau arholiadau'r Coleg a chopi o restr llwyddiannau arholiadau gradd Prifysgol Cymru am 1908. Graddiodd gydag Anrhydedd yn y Gymraeg yn 1910.
Papurau a nodiadau yn ymwneud â bathu geiriau a thermau, ynghyd â nodiadau am waith cyfieithu. Ceir rhestrau geiriau a thermau Urdd y Graddedigion / adrannau Prifysgol Cymru ar gyfer amaethyddiaeth; ffiseg, mathemateg a seryddiaeth; a choginio ymhlith y papurau.
Un amlen wreiddiol ac eitemau rhydd a gasglwyd ynghyd wrth drefnu'r archif o eitemau a gasglwyd gan T. Ifor Rees yn ystod ei gyfnod ym Mecsico, gan gynnwys torion o'r wasg; ysgrifau'n dwyn y teitlau 'Excursion a la presa de Becerra', 'Excursion al parque Nacional de las fuentes brotan tes tlalpan, D. F. Mexico' gan Raúl Lozano Garcia (2 gopi), a 'Resena geologia del Distrito Federal' gan Sefydliad Daeareg, Prifysgol Genedlaethol Mecsico; adroddiad ar weithgarwch y British Community War Charities Committee (Rhagfyr 1945), ynghyd â Bwletin (Hydref 1945); cylchlythyr "El Excursionista: Organ del Club Citlaltepetl" Medi 1948 (Rhifyn 260); a mapiau.
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o drosiad T. Ifor Rees o 'Y dychwelyd o Versailles' gan Henri Troyat, ynghyd â phroflen.
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Y meirw ar y mynydd: trosiad o "en Deuil" gan Henri Troyat' gan Rhiannon Davies a T. Ifor Rees.
Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Platero', ynghyd â phroflen o dudalen 16-38.
Drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Yng ngwlad y Basgwyr: cipdrem ar y wlad, ei phobl a'u hiaith'.
Drafftiau teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o drosiad Gwenda Thompson a T. Ifor Rees o'r Ffrangeg o'r nofel 'Derborence' o waith C. F. Ramuz, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â chyhoeddi'r gwaith.