Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Dysgwyr

Cerdd: ‘Pellter’ (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: ‘Darganfod’ (tlws rhyddiaith); llythyr i’w roi mewn capsiwl amser; Fy hoff Ap.; sgwrs rhwng 2 berson dros y ffens; darn i bapur bro yn hysbysebu digwyddiad; gwaith grŵp neu unigol; a thasgau dosbarth yn seiliedig ar dair cân Gymraeg (gwaith unigol).

Cyfansoddiadau cerddorol

Gosodiad dan 25 oed ar y geiriau 'Tymhorau' gan Dewi Jones; darn i fand pres yn seiliedig ar y thema seryddiaeth (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Cen Williams; darn rhwng 4 a 6 munud i ensemble siambr o unrhyw offerynnau; darn i gôr plant/ieuenctid SSA/SAB; darn i gerddoriaeth i gyd-fynd â ffilm o'r archif Sgrin a Sain y Llyfrgell genedlaethol gyda'r ffilm ar y thema gofod a/neu sêr; a chân werinol ac acwstig ei naws (Tlws Sbardun).

Rhyddiaith

Blog ar un elfen o fywyd cyfoes; erthygl newyddiadurol yn cynnig ymdriniaeth o destun cyfoes; casgliad o dair stori fydd yn apelio at bobl ifanc 14-16 oed; a darn neu ddarn o lenyddiaeth, ffeithiol neu greadigol ... a ysgogwyd wrth ddarllen enwau'r meirwon ar gofeb neu gofebau'r Rhyfel Mawr.

Rhyddiaith

Braslun nofel, pennod agoriadol nofel, straeon byrion neu ysgrifau (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg); stori fer: 'Angor'; llên micro (8 darn): 'Gwawrio'; ysgrif: 'Tirion dir'; portread o gynefin neu unigolyn; pum o erthyglau gwahanol eu maes a'u naws ar gyfer papur bro; adolygiad cynhwysfawr o gyfrol wedi'i chyhoeddi yn y ganrif hon; a darn o rydiaith: 'Ymadael'.

Barddoniaeth

Awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol: 'Arwr' neu 'Arwres'; pryddest ddigynghanedd: 'Trwy ddrych'; englyn unodl union: 'Mam'; englyn unodl union crafog: 'Medra'; hir-a-thoddaid: 'Bedwyr'; cerdd gaeth ar ffurf deialog: 'Trydar'; vers libre gynganeddol: 'Alaw'; telyneg: 'Rhwyg'; soned neu filanél: 'Tymor'; chwe phennill telyn: 'Cariadon'; chewe limrig: 'Damweiniau'; casgliad o 3 cerdd wreiddiol ar unrhyw thema; a cherdd yn addas i'w chanu.

Cyfansoddiadau cerddorol

Pedair cân i gyfeiliant piano i lais isel (Tlws y cerddor ); emyn-dôn i eiriau Tecwyn Owen; cyfansoddiad ar gyfer ensemble jazz neu blues (GNC/1a); darn ar gyfer ensemble taro (3-6 offeryn); darn i ddeuawd offerynnol; darn ar gyfer côr ieuenctid SATB; a chasgliad o ddarnau mewn unrhyw gyfrwng (i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed).

Results 81 to 100 of 2917